40 likes | 209 Views
Tasg Gwyliwch eich gwaith eich gilydd drwy gydol y broses ymarfer gan roi adborth adeiladol i’ch gilydd a fydd yn caniatáu i chi wneud gwelliannau ystyriol i’ch trefniannau. Tasg
E N D
Tasg Gwyliwch eich gwaith eich gilydd drwy gydol y broses ymarfer gan roi adborth adeiladol i’ch gilydd a fydd yn caniatáu i chi wneud gwelliannau ystyriol i’ch trefniannau.
Tasg Chwaraewch wahanol gemau ffocws; perfformiwch eich darn tra bydd eraill yn ceisio tynnu eich sylw, er mwyn ymgynefino â chau allan unrhyw ymyrraeth allanol a allai ddigwydd yn ystod eich perfformiad.
Tasg Profwch eich gwybodaeth drwy chwarae eich cerddoriaeth o’r canol a gweld a fedrwch chi godi’r trefniant, neu os ydych yn gweithio mewn grŵp, wynebwch i ffwrdd oddi wrth eich gilydd a gweld a allwch ddal i ddawnsio mewn amser a dal i wybod y ddawns. Gall cyfrif yn uchel yn ystod cyfnodau ymarfer cynnar helpu hyn.
Tasg Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod y stori neu’r emosiwn y tu ôl i’ch darn. Ceisiwch feimio’r rhain cyn eu troi’n ddawns. Meimiwch emosiynau â’ch wynebau. Dynwaredwch eich gilydd wrth wneud hyn a cheisiwch werthfawrogi cymaint y gallwch ei fynegi trwy’r wyneb. Ceisiwch gyfleu neges drwy symudiad a defnydd o’r anadl. Gall fod yn anadl sydyn i mewn neu’n anadl allan neu’n ochenaid. A all y dosbarth ddyfalu’r neges? Cofiwch ddefnyddio anadl yn eich dawns.