20 likes | 227 Views
Tasg Defnyddiwch y safle niwtral fel man cychwyn ar gyfer ymarferion ystwytho a threfniannau dawns, a’u hymgorffori yn eich bywyd bob dydd . Sefwch â’ch traed led y cluniau ar wahân, yn pwyntio ymlaen. Ceisiwch deimlo’r llawr yn wastad dan eich traed.
E N D
Tasg • Defnyddiwch y safle niwtral fel man cychwyn ar gyfer ymarferion ystwytho a threfniannau dawns, a’u hymgorffori yn eich bywyd bob dydd. • Sefwch â’ch traed led y cluniau ar wahân, yn pwyntio ymlaen. Ceisiwch deimlo’r llawr yn wastad dan eich traed. • Meddyliwch am ymestyn neu dyfu drwy’r asennau a’r asgwrn cefn nes hwyhau ac agor y corff. • Dychmygwch gorun y pen yn cael ei dynnu tua’r nenfwd, gan gadw’r gwddw’n hir. • Sicrhewch fod gennych ben-gliniau meddal ac nad yw eich pen ôl yn ymwthio allan ond yn swatio o dan y torso. • Sicrhewch nad yw’r frest na’r pen wedi’u codi’n ormodol; dylech edrych yn unionsyth ac yn naturiol. • Bydd ymarferion rholio’r ysgwyddau neu godi a gostwng yr ysgwyddau a’r breichiau’n help i ryddhau’r tensiwn yma. Peidiwch â mynd yn stiff yn yr ymddaliad hwn; cofiwch anadlu ac ymlacio a bod yn ymwybodol o’ch corff cyfan.
Tasg Perthynas y pen, y gwddw a’r cefn: Mae dau bwynt cyfeiriad i’n corff – y ffordd mae ein hasgwrn cefn yn pwyntio, sef i fyny, a’r ffordd mae ein pen yn pwyntio, sef ymlaen. Ceisiwch feddwl am gadw’ch gwddw’n rhydd fel y gall eich pen wynebu ymlaen a mynd i fyny. Pan ryddhawn ein gyddfau i ganiatáu i’r pen fynd i fyny, gall yr asgwrn cefn ddilyn. Wrth i’r cefn hwyhau, gall yr asgwrn cefn ddilyn, wedyn bydd yr ysgwyddau’n disgyn i’w priod le a gall yr asennau lenwi’r gofod iawn. Wrth i’ch cefn hwyhau a lledu fe sylwch ar berthynas newydd â’ch coesau a’ch traed. Dylai’r coesau deimlo’n fwy rhydd drwy’r glun, y pen-glin a’r ffêr fel bod pob symudiad yn llyfn.