60 likes | 297 Views
SAIN. Templed. Beth yw fy sgìl?. Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd sain. Am beth mae’r perfformiad ?. Eglurwch gefndir y perfformiad. Beth oedd eich syniadau cyntaf ar gyfer y sain? Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? Beth oedd ar y grŵp ei eisiau?
E N D
SAIN Templed
Beth yw fy sgìl? • Eglurwch ar y sleid hwn beth yw gwaith dylunydd sain.
Am beth mae’r perfformiad? • Eglurwch gefndir y perfformiad. • Beth oedd eich syniadau cyntaf ar gyfer y sain? • Ble cawsoch chi’r syniadau hyn? • Beth oedd ar y grŵp ei eisiau? • Defnyddiwch glipiau sain i egluro’r hyn sydd raid i chi ei wneud. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Pa giwiau sain fydd eu hangen? • Ar gyfer pob ciw sain dylai fod gennych ddau syniad i roi dewis i’r grŵp ac i ddangos dilyniant eich syniadau. • Gallwch lawrlwytho neu greu’r effeithiau. Gwnewch restr. • Os ydych yn lawrlwytho effeithiau sain gallwch eu newid drwy ddefnyddio rhaglen effeithiau sain. Eglurwch beth wnaethoch chi a pham. • Cofiwch egluro pa rai oedd eich penderfyniadau terfynol. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Chwarae eich dewisiadau terfynol • Chwaraewch bob ciw i’r athro/ athrawes /arholwr ac eglurwch ble mae’n digwydd yn y darn. Defnyddiwch eich taflen giwiau i wneud hyn. • Ysgrifennwch lefel pob ciw sain ar y daflen giwiau sain ynghyd â pha beiriant y byddwch yn ei ddefnyddio i’w greu. Gallai hyn gymryd mwy nag un sleid.
Pethau i’w cofio cyn eich cyflwyniad • Ychwanegwch luniau i’r templed hwn i wneud eich cyflwyniad yn ddiddorol. • Dylai’r templed hwn eich helpu i gynllunio eich cyflwyniad ond bydd angen ffolder arnoch hefyd i ddangos proses eich dyluniadau. Cofiwch ddangos hwn i’r athro/athrawes / arholwr. • Gwnewch yn siŵr fod eich perfformwyr yn teimlo’n gyfforddus a hyderus eich bod yn gwybod ar ba lefel y dylid chwarae pob ciw.