40 likes | 292 Views
CARIAD NA BU EI FATH Yw cariad f'Arglwydd gl â n; ‘Gras i'r di-ras i'w gwneud Yn raslon,’ yw ein c â n; Ond pwy wyf fi? Cadd, er fy mwyn, Yr Iesu ei ddwyn i Galfari! Gadawodd orsedd nef Er dwyn iach â d i ddyn; Ond fe'i gwrthodwyd Ef, Y Crist, gan bawb yn un:
E N D
CARIAD NA BU EI FATH Yw cariad f'Arglwydd glân; ‘Gras i'r di-ras i'w gwneud Yn raslon,’ yw ein cân; Ond pwy wyf fi? Cadd, er fy mwyn, Yr Iesu ei ddwyn i Galfari! Gadawodd orsedd nef Er dwyn iachâd i ddyn; Ond fe'i gwrthodwyd Ef, Y Crist, gan bawb yn un: Fy nghyfaill yw, ffyddlonaf Un, A roes ei hun i mi gael byw.
Y dorf ar hyd y dydd Sy'n canu clod yn un, A'u llon Hosanna sydd Yn moli Mab y Dyn; Ond cri a gaed – ‘Ymaith ag Ef!’ A'r dorf yn llefain am ei waed. Pa beth a wnaeth fy Nghrist I ennyn dig a brad? Gwnaeth Ef i'r deillion weld, A rhoi i'r cloff iachâd; Ei gariad roes! Ond dyna pam Rhaid diodde'r cam ar greulon groes.
Anwylaf Un, a'u gwaedd O ddicter, rhont i fedd; Arbedir llofrudd, ond, Rhaid lladd Tywysog Hedd! O'i fodd, er hyn, i'n gwneud yn rhydd, Ein c'wilydd gymer Iesu gwyn. Heb le i roi Ei ben, Fy Nuw, ar ddaear lawr; Wrth farw, benthyg bedd A wna fy Iesu Mawr. Ond hyn a wn - Nef oedd ei le, A minnau'r bedd lle dodwyd hwn.
Addoli yw fy ngwaith, Caf ganmol Brenin Nef; Ni welwyd cariad ’chwaith Na gofid fel gadd Ef! Fy nghyfaill yw: ’rwyf lawen iawn Fore a ’nawn i foli ’Nuw. Samuel Crossman (1624-83) cyf. Dafydd Job