1 / 10

Meddwl am stori

Meddwl am stori. Beth sy'n gwneud stori dda?. Y Cynllun. Y Cymeriadau. Yr Iaith. Pa fath o stori yw hi?. Stori hanes. Stori antur. Twm Sion Cati. Dirgelwch yr Ogof. Stori tylwyth teg. Stori arswyd. Sinderela. Bwganod!. Sut mae dechrau?.

manchu
Download Presentation

Meddwl am stori

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Meddwl am stori

  2. Beth sy'n gwneud stori dda? • Y Cynllun • Y Cymeriadau • Yr Iaith

  3. Pa fath o stori yw hi? Stori hanes Stori antur Twm Sion Cati Dirgelwch yr Ogof Stori tylwyth teg Stori arswyd Sinderela Bwganod!

  4. Sut mae dechrau? Mae’r frawddeg agoriadol yn bwysig iawn er mwyn dal sylw’r darllenydd. Dyma enghraifft: Snap! Sŵn brigyn yn torri... Dihunodd Cleo’n sydyn. Gorweddodd yn hollol llonydd. Y Gath a’r Cythraul Helen Emanuel Davies

  5. Sut frawddeg gallwn ni ei dewis i ddechrau stori? Brawddeg sydd yn disgrifio lleoliad. Brawddeg sydd yn cyflwyno cymeriad diddorol. Deialog. Cwestiwn neu ebychiad. Brawddeg sydd yn creu effaith sŵn.

  6. Beth yw eich barn am y paragraffau agoriadolhyn? ‘Br-r-r-r! Mae hi’n oer yma!’ rhuodd Rhita Gawr un bore. Wrth gwrs ei bod hi’n oer ar gopa’r Wyddfa yng nghanol mis Ionawr, a dyna lle’r oedd yr hen gawr yn byw. ‘Mae e wedi cyrraedd! mae Yncl Ben wedi cyrraedd!’ Rhuthrodd Sam at y drws ffrynt, a’i agor â’r fath blwc nes i’r drws daro yn erbyn wal y cyntedd â chlec uchel. ‘Sam!’ gwaeddodd Mam yn flin, ond chlywodd Sam mohoni. Roedd e wedi rhedeg allan i groesawu Yncl Ben. Yncl Ben oedd arwr Sam.

  7. Yn unig ar ben y lôn, heb fod ymhell o dŷ newydd Dafydd, safai adfail o fwthyn. Ffrâm goed ar sgi-wiff oedd yno, a ffenestri bach culion. Roedd to gwellt blêr wedi llwydo yn hongian yn llipa drostynt, fel caeadau hanner cau. Y tu ôl iddo roedd perllan wedi tyfu’n wyllt o goed cnotiog a cham. Roedd y bwthyn fel petai’n wag, ac eto’n llawn hen gyfrinachau dychrynllyd. Agorodd Dylan ddrws gweithdy ei fam er mwyn dangos y lle i’w ffrind newydd. ‘Waw!’ ebychodd Gavin. ‘Beth yw dy fam di, Dyl, nutty professor neu mad scientist neu rywbeth? Ble chi’n cadw Ffrancenstein, ‘te?’ Gallwch edrych am ragor yn y llyfrgell.

  8. Mae cymeriadau yn bwysig mewn stori. Maent yn amrywio ac yn gallu bod ... yn anifail. yn berson. yn ysbryd. yn anghenfil. yn robot. yn estron.

  9. Mewn stori mae angen disgrifio golwg y cymeriad. Does dim angen disgrifiad sydd yn rhy fanwl, dim ond y pethau pwysicaf. Fe fydd y math o bersonoliaeth sydd ganddo yn dod i’r amlwg wrth ddatblygu’r stori. Beth am gyflwyno’r cymeriadau hyn yn eich storïau?

  10. Dyma deitlau addas ar gyfer stori:- Cyfrinach Cadi Trip i’r Gofod! Dirgelwch Plas Mawr Ennill y Loteri! Argyfwng! Ar Goll yn y Goedwig! Yr Hen Ysgol Pob hwyl wrth ysgrifennu!

More Related