310 likes | 459 Views
Bylbiau ’ r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau ’ r archwiliad 2006-2011. Yr archwiliad.
E N D
Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau’r archwiliad 2006-2011
Yr archwiliad Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o Gymru benbaladr wedi bod yn cadw cofnodion tywydd a nodi pryd mae eu blodau yn ymagor fel rhan o astudiaeth hirdymor sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.
Yr astudiaeth hirdymor Mae’n hinsawdd a’n tymhorau’n newid. Dros y degawd neu ddau nesaf (a mwy gobeithio) rydym am i’r gwyddonwyr ysgol ddangos sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar amseroedd ymagor mewn bylbiau’r gwanwyn. Yn y tymor byr mae mwy na digon i’w astudio.
Diolch yn fawr! Mae Athro’r Ardd yn diolch yn fawr i’r holl wyddonwyr ysgol a anfonodd eu cofnodion atom ni eleni! Rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych!
Ysgolion â chydnabyddiaeth arbennig: • Maesycwmmer Primary School • Bishop Childs CIW Primary School • Coleg Meirion Dwyfor • Laugharne VCP School • Glyn Hafod Junior School • Howell's School Llandaff • Ysgol Iau Hen Golwyn • Pembroke Dock Community School • Ysgol Gynradd Brynconin • Ysgol Brynffordd • Stepaside Gwobrau: Blodau i ddenu, gloÿnnod byw a hadau salad lliwgar.
Ysgolion â chymeradwyaeth uchel: • Ysgol Bodfari • Ysgol Cynfran • Cwm Glas Primary • Milford Haven Junior School • Oakfield Primary school • Tynewydd Primary School • St Joseph's Primary School • St. Joseph's R C Primary • Windsor Clive Primary • Ysgol Porth Y Felin • Glyncollen Primary School • Coleg Powys. • Murch Junior School • Ysgol Nant Y Coed • Ysgol Deganwy • Ysgol Pencae • Ysgol Y Ffridd • Lansdowne Primary School • St. Mary's Catholic Primary School • Ysgol Gynradd Glantwymyn • Ysgol Penycae (Ystradgynlais) • Ysgol Rhys Pritchard • Eyton Primary School Gwobrau: Hadau blodau haul, Blodau i ddenu gloÿnnod byw a hadau salad lliwgar.
Goreuon y Gweddill: • Ysgol Morfa Rhianedd • Ysgol Bro Ciwmeirch • Ysgol Clocaenog. Gwobrau: Tocyn Amazon gwerth £40 i wario ar offer garddio.
Ennilwyr 2011 Saint Roberts Roman Catholic Primary School Gwobr: Diwrnod o weithgareddau natur yn Sain Ffagan Ariannwyd gan Ymddiriedolaeth Oakdale ac Ymddiriedolaeth Bodfach.
Crynodeb 2005-2011 • Dyma grynodeb o’n canlyniadau ni ers 2005. • Gallwch chi lawrlwytho’r canlyniadau i’w hastudio o www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan/bylbiau/
Pethau i’w hastudio… • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Gwelwch: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau
Mae ein cofnodion yn dangos bod 2011 yn oerach na’r blynyddoedd cynt.Roedd Rhagfyr yn arbennig o oer ond roedd Chwefror a Mawrth yn eithaf cynnes.
Mae ein cofnodion yn dangos bod 2011 yn oerach na’r blynyddoedd cynt.
Mae’r gaeafau diwethaf wedi bod yn oer ond mae ein byd yn dal i gynhesu! Gyda’r holl aeafau oer, efallai eich bod yn meddwl bod y byd yn oeri – nid yn cynhesu – ond nid yw hynny’n wir. Er bod y tymheredd wedi bod mor isel â -22 mewn rhai llefydd yn y DU, 2010 oedd yr ail flwyddyn gynhesaf ar gofnod! Mae’r byd yn dal i gynhesu, ac mae angen i ni barhau i leihau ein hallyriadau CO2
Mae oriau heulwen wedi amrywio llawer dros y blynyddoedd. Er bod 2011 yn oer iawn, cafwyd dros 80 awr o heulwen.
O ganlyniad, roedd y dyddiad blodeuo ar gyfartaledd yn hwyr, ond ddim mor hwyr â’r flwyddyn cynt – oedd 17 diwrnod yn hwyrach!
Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo cennin pedr?
Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r tymereddau ostwng, mae cennin pedr yn blodeuo’n hwyrach.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2007 Esboniad posibl: Er bod y tymheredd ar ei uchaf yn 2007, agorodd y blodau’n eithaf hwyr, mwy na thebyg achos bod yr oriau o heulwen wedi aros yn isel tan fis Mawrth y flwyddyn honno.
Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r oriau o heulwen leihau, mae cennin pedr yn agor yn hwyrach. Mae’n ymddangos bod heulwen yn cael effaith gref ar adeg blodeuo cennin pedr.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2011 Esboniad posibl: Er bod yna lawer o heulwen yn 2011, agorodd y blodau’n hwyr, fwy na thebyg gan fod y tymereddau mor isel – yr isaf ar gofnod.
Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo’r crocysau?
Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r tymereddau ostwng, mae blodau’r crocws yn agor yn hwyrach.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2009 Esboniad posibl: Er bod tymereddau 2009 yn eithaf cynnes, y blodau oedd yr hwyraf i agor, fwy na thebyg am fod yr oriau o heulwen yn eithaf isel y flwyddyn honno.
Mae’r patrwm yn dangos: Pan fydd llai o oriau o heulwen, bydd blodau’r crocws yn agor yn hwyrach.
Atb: 2006 & 2011 Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm? Esboniad posibl: Er nad oedd llawer o heulwen yn 2006, agorodd y blodau’n eithaf cynnar, fwy na thebyg am fod y tymheredd yn eithaf cynnes. Er bod llawer o heulwen yn 2011, agorodd y blodau’n hwyr, fwy na thebyg am fod y tymheredd mor oer – yr oeraf ar gofnod.