420 likes | 570 Views
Bylbiau ’ r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau ’ r archwiliad 2006-2014. Yr archwiliad.
E N D
Bylbiau’r Gwanwyn i Ysgolion Canlyniadau’r archwiliad 2006-2014
Yr archwiliad Ers Hydref 2005 mae gwyddonwyr ysgol o Gymru benbaladr wedi bod yn cadw cofnodion tywydd a nodi pryd mae eu blodau yn ymagor fel rhan o astudiaeth hirdymor sy’n edrych ar effeithiau tymheredd ar fylbiau’r gwanwyn.
Eleni, rydym yn parhau i weithio gydag Ymddiriedolaeth Edina sy'n ariannu'r potiau a’r bylbiau, a byddwn yn ymestyn y project i Loegr a'r Alban!Cymerodd 96 ysgol ran eleni!
Yr astudiaeth hirdymor Mae’n hinsawdd a’n tymhorau’n newid. Dros y degawd neu ddau nesaf (a mwy gobeithio) rydym am i’r gwyddonwyr ysgol ddangos sut mae’r newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar amseroedd ymagor mewn bylbiau’r gwanwyn. Yn y tymor byr mae mwy na digon i’w astudio.
Diolch yn fawr! Mae Athro’r Ardd yn diolch yn fawr i’r holl wyddonwyr ysgol a anfonodd eu cofnodion atom ni eleni! Rydych chi i gyd yn Wyddonwyr Gwych!
Ysgolion fydd yn derbyn tystysgrifau: • All Saints' CE Primary School • Balcurvie Primary School • Ballerup Nursery • Blenheim Road Community Primary School • Brockholes Wood Community Primary School • Brynhyfryd Junior School • Catforth Primary School • Chatelherault Primary School • Cleddau Reach VC Primary • Cobbs Brow Primary School • Coed-y-Lan Primary School • Flakefleet Primary School • Glencairn Primary School • Golden Hill School • Henllys C/W Primary School • Hillside Specialist School • Ladywell Primary School • Lakeside Primary School • Lea Community School • Manor Road Primary School • Manor School • Milford Haven Junior School • Newport Primary School • Pinfold Primary School • RAF Benson Primary School • Rogiet Primary School • Rougemont Junior School • Scotforth St Paul's CE Primary School • St Bernadette's Primary School • St Gregory's Catholic Primary School • St John's CE Primary School • St Nicholas C/W primary School • Trellech Primary School • Tynewater Primary School • Woodstock CE Primary School • Ysgol Bro Tawe • Ysgol Glan Cleddau • Ysgol Iau Hen Golwyn • Ysgol Nant y Coed • Ysgol Rhys Prichard • Ysgol Santes Tudful • Ysgol Sychdyn • Ysgol Y Berllan Deg • Ysgol Y Faenol Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau a phensiliau Gwyddonwyr Gwych.
Cydnabyddiaeth arbennig: • Auchengray Primary School • Britannia Community Primary • Cawthorne's Endowed Primary School • ColegMeirion-Dwyfor • Culross Primary School • Greyfriars RC Primary School • Holy Trinity CE Primary • John Cross CE Primary • LlanishenFach Primary School • Red Marsh School • St Anne's Catholic Primary • St Laurence CE Primary • Woodplumpton St. Anne's Primary School • YsgolGynradd Dolgellau • YsgolTerrig • Ysgol Y Plas Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a hadau blodau’r haul.
Cymeradwyaeth uchel: • Abergwili VC Primary School • Archbishop Hutton's Primary School • Arkholme CE Primary School • Balshaw Lane Community Primary • Bleasdale CE Primary School • Burscough Bridge Methodist School • Carnforth North Road Primary School • Christchurch CP School • Combe Primary School • Coppull Parish Church School • Cutteslowe Primary School • Darran Park Primary School • Freuchie Primary School • Gladestry C. in W. Primary School • Glyncollen Primary School • Kilmaron School • Raglan VC Primary School • SS Philip and James CE Primary • St Athan Primary School • St Blanes Primary School • St Ignatius Primary School • St Mary's Catholic Primary School • St Mellons Church in Wales Primary • St Michael's CE (Aided) Primary • St Nicholas Primary School • St Patrick's Primary School • Stanford in the Vale CE Primary • Ysgol Bro Eirwg • Ysgol Deganwy Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau, pensiliau, hadau blodau’r haul a hadau perlysiau.
Yn ail: • Ysgol Gynradd Wormit yn yr Alban • Ysgol Gynradd Cross Hands yng Nghymru • Ysgol Gynradd Gatholig y Cymun Bendigaid yn Lloegr Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a tocyn anrheg i brynu offer ar gyfer eich projectau garddio.
Enillwyr 2014 Ysgol Clocaenog yng Nghymru Ysgol Gynradd Gymunedol Dallas Road yn LloegrYsgol Gynradd Abronhill yn yr Alban Bydd pob un yn derbyn tystysgrifau, pensiliau a thaith dosbarth o weithgareddau llawn hwyl!
Crynodeb 2005-2014 • Dyma grynodeb o’n canlyniadau ni ers 2005. • Gallwch chi lawrlwytho’r canlyniadau i’w hastudio o www.amgueddfacymru.ac.uk/cy/scan/bylbiau/
Ddata y DU a Cymru • Mae ysgolion Cymru wedi bod yn casglu data ers 2005. • Mae ysgolion Lloegr a’r Alban wedi bod yn casglu data ers 2011. • O ganlyniad, rydym wedi cynhyrchu dwy set o ddata, un ar gyfer Cymru 2005-2014 ac un arall ar gyfer y DU sy'n cymharu canlyniadau rhwng gwahanol wledydd.
Bydd blodau’n agor gynharaf mewn ardaloedd lle mae'n gynnes ac yn heulog.Yn enwedig yn ystod mis Chwefror.
O ganlyniad, agorodd y blodau’n gynharach yng Nghymru a Lloegr eleni.
Pethau i’w hastudio… • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Gwelwch: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau
Mae ein cofnodion yn dangos bod gwanwyn 2014 yn un mwyn (ddim yn oer iawn) ond bod llawer o law.
Arhosodd y tymheredd yn eithaf mwyn (ddim yn oer iawn) drwy’r gaeaf.
Roedd y tymheredd yn eithaf uchel yn ystod 2014, ond nid dyma’r cynhesaf erioed.
Doedd dim llawer o haul yn 2014, dim ond 2013 welodd lai o haul.
Eleni roedd hi’n llawer cynhesach ac ychydig yn fwy heulog na’r llynedd, ac agorodd y blodau bythefnos yn gynt.
Roedd y glawiad yn 2014 yn uwch nag unrhyw flwyddyn arall ers dechrau’r project!
Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo cennin pedr?
Roedd dyddiad blodeuo’r Cennin Pedr eleni rywle yn y canol o’i gymharu â’r blynyddoedd eraill. Doedd y dyddiad ddim yn gynnar fel 2008, nac yn hwyr fel 2013.
The trend shows: As temperatures get lower daffodils flower later – but there are some exceptions. Can you spot them?
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2007, 2012 & 2014 Esboniad posibl:Er bod y tymheredd ar ei uchaf yn 2007, 2012 a 2014 wnaeth y blodau ddim agor yn gynnar. Mwy na thebyg taw’r rheswm am hyn yw nad oedd llawer o oriau o haul tan fis Mawrth yn ystod y blynyddoedd hynny.
Mae’r patrwm yn dangos: Wrth i’r oriau o heulwen leihau, mae cennin pedr yn agor yn hwyrach – ond ceir rhai eithriadau.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2011 a 2012 Roedd dyddiad blodeuo cyfartalog y Cennin Pedr yr un peth yn 2011 a 2014 – 12 March, ond gwelodd 2011 lawer o haul a 2014 lawer llai o haul (mae’r ddwy flwyddyn yn cael eu dangos gan un llinell). Esboniad posibl: Er bod llawer o haul yn 2011, roedd y tymheredd yn isel iawn. Er nad oedd llawer o haul yn 2014, roedd y tymheredd yn eithaf uchel.
Sut mae’r tywydd yn effeithio ar amseroedd blodeuo’r crocysau?
Dyddiad blodeuo cyfartalog y Crocws eleni oedd yr hwyraf ond dau o’i gymharu â blynyddoedd eraill. Dyma’r planhigion yn blodeuo’n hwyrach yn 2009 a 2013.
Mae’r patrwm yn dangos:Yn gyffredinol, fel mae’r tymheredd yn mynd yn is mae’r blodau crocws agor yn ddiweddarach - ond ceir rhai eithriadau.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2012 & 2014 Esboniad posibl: er bod 2012 & 2014 yn gynnes iawn, wnaeth y blodau ddim agor tan fis Mawrth. Y rheswm tebygol dros hyn oedd bod yr oriau o heulwen yn y 60au isel tan fis Mawrth.
Mae'r patrwm yn dangos: Yn gyffredinol, pan fydd llai o heulwen mae’r blodau crocws yn agor yn hwyrach - ond ceir rhai eithriadau.
Pa flynyddoedd sydd ddim yn dilyn y patrwm?Atb: 2009 & 2011 Esboniad posibl: Roedd llawer o haul yn 2009 a 2011 ond roedd y tymheredd yn 2009 yn eithaf isel ac yn isel iawn yn 2011.
Dod o hyd i patrwm yn anodd ond mae rhai pethau yn glir ... Mae'r bylbiau yn dibynnu ar y haul a gwres er mwyn blodeuo.Mae ein tymhorau yn dod yn fwy anodd eu rhagweld gan fod ein byd yn cynhesu.
Pethau i’w hastudio… • Gwnewch siartiau amlder a graffiau i ganfod y cymedrau. • A wnaeth blodau agor yn hwyr mewn ysgolion oedd yn cofnodi tywydd oer? • Sut wnaeth tymheredd, heulwen a glaw effeithio ar ddyddiadau blodeuo ar gyfartaledd? • Chwiliwch am dueddiadau mewn gwahanol lefydd yng Nghymru. Gwelwch: www.amgueddfacymru.ac.uk/scan/bylbiau