40 likes | 236 Views
DEUWN I GANU AM AFON MOR GREF, - Cariad yw Duw - Lifodd o galon ein Tad yn y nef Atom i fyd dynolryw; Cariad mor rhad; Cariad a'i gartref ym mynwes y Tad. Er mwyn cyhoeddi'r Efengyl i'n byd Daeth Iesu pur, Gyda'r colledig i drigo cyhyd, Rhannodd eu gofid a'u cur; Ceisiodd hwy 'nawr,
E N D
DEUWN I GANU AM AFON MOR GREF, - Cariad yw Duw - Lifodd o galon ein Tad yn y nef Atom i fyd dynolryw; Cariad mor rhad; Cariad a'i gartref ym mynwes y Tad.
Er mwyn cyhoeddi'r Efengyl i'n byd Daeth Iesu pur, Gyda'r colledig i drigo cyhyd, Rhannodd eu gofid a'u cur; Ceisiodd hwy 'nawr, Cadwodd, gwaredodd drwy aberth mor fawr.
Iesu sy'n ceisio'r colledig o hyd; Crwydrant mor ffôl; Cariad sy'n disgwyl i'n maddau i gyd, Dewch rai blinderog yn ôl; Cariad mor rhad; Cariad a'i gartref ym mynwes y Tad.
Tyred i'm calon, Ti gariad di-drai, Trig ynof fi; Cod fi uwch balchder, cenfigen a bai, Gwna fi yn debyg i Ti; Rho i mi ffydd Disgybl isel, i'th ddilyn bob dydd. Robert Walmsley (1831-1905) cyf. Dafydd M.Job