460 likes | 720 Views
Rheoli Perfformiad Rhan B: RhP Penaethiaid. Rhoi'r Rheoliadau Diwygiedig Rheoli Perfformiad ar gyfer Rheoli Perfformiad Penaethiaid ar waith (i’w roi ar waith yn 2013). Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol
E N D
Rheoli Perfformiad Rhan B: RhP Penaethiaid Rhoi'r Rheoliadau Diwygiedig Rheoli Perfformiad ar gyfer Rheoli Perfformiad Penaethiaid ar waith (i’w roi ar waith yn 2013)
Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Adolygu rôl rheoli perfformiad ar gyfer y pennaeth wrth godi safonau • Adolygu sut mae rheoli perfformiad y pennaeth yn rhan o broses gwella'r ysgol • Adolygu gweithredu proses rheoli perfformiad y pennaeth gan gynnwys rolau a chyfrifodebau'r rhai sy'n rhan ohoni
Atgrynhoi a Throsolwg o'r Gofynion Rheoli Perfformiad Diwygiedig
Gofynion Diwygiedig Amserlen • Rheoliadau Diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012 • Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012 Diwygiadau • Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â • safonau a phrofiadau proffesiynol • blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol • data perfformiad disgyblion • cynnydd tâl lle y bo'n briodol • Cynnwys yr ALl yn fwy: rhaid i'r ALl enwebu un neu ddau o gynrychiolwyr fel gwerthyswyr ar banel gwerthuso'r pennaeth • Rhaid i'r PSA gael copi o'r datganiad gwerthuso • Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid • Dylech gadw dogfennau Rheoli Perfformiad am o leiaf 3 blynedd
Diben Rheoli Perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Canllawiau Llywodraeth Cymru Mai 2012
Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi • rhoi gweledigaeth yr ysgol ar waith • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a chodi safonau • rhannu arfer effeithiol Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol
Y Cylch Gwerthuso • Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro • Rhaid i'r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth • Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso
Y Cylch Gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu Gwerthuswr Dadansoddiad strategol Datganiad gwerthuso a Gosod Amcanion Gwerthusai Cytuno ar amcanion Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwi addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy'n briodol i rôl yr athro
Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae'r Polisi Rheoli Perfformiad yn • Cefnogi gweledigaeth yr ysgol • Cyfrannu at wella cyflawniad a lles disgyblion; • Helpu gyda datblygiad proffesiynol yr holl staff • Meithrin naws ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • Annog rhannu arfer da; • Yn sail i ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol • Bodloni'r rheoliadau statudol diwygiedig B. Sut ydych chi'n gwybod bod y broses RhP yn effeithiol ac yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau ar RhP y mae angen eu hadolygu a'u gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso'r drafodaeth
Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol • Y corff llywodraethu/y corff priodol • Y Pennaeth • Y Panel Gwerthuso • Yr Awdurdod Lleol • Llywodraeth Cymru
Cyfrifoldebau'r Corff Llywodraethu dros Reoli Perfformiad y Pennaeth Rhaid i'r corff llywodraethu/corff priodol: • Benodi Panel Gwerthuso i • adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso • cytuno ar amcanion ar gyfer y pennaeth • cytuno ar ddatganiad gwerthuso blynyddol • monitro perfformiad y pennaeth yn rheolaidd • Cynnwys person/pobl a enwebwyd gan yr Awdurdod Lleol ar banel gwerthuso a phroses rheoli perfformiad y pennaeth • Sicrhau y cynhelir proses rheoli perfformiad y pennaeth yn unol â gofynion statudol
Rôl y Pennaeth yn ei Broses Rheoli Perfformiad ei Hun • Trafod a gosod amcanion gyda gwerthuswyr • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu gan gynnwys:- • adolygu ei berfformiad ei hun gan ddefnyddio safonau arweinyddiaeth • cynnal a chadw ei gofnod AYD • mynychu cyfarfodydd adolygu perfformiad anffurfiol gyda'r panel gwerthuso yn ystod y flwyddyn • Awgrymu amcanion ar gyfer y cylch nesaf • Ystyried y datganiad arfarnu • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol
Cyfrifoldebau'r Pennaeth • Trafod a gosod amcanion gyda'r panel gwerthuso o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol • Hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnsaol a thystiolaeth o berfformiad • Cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw cofnod datblygu adolygu ac arfer diweddar • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol
Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae'r gwerthusai (y pennaeth) yn: 1. trafod a gosod amcanion gyda'r panel gwerthuso o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol? 2. hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth priodol? 3. cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw arfer a'i gofnod arfer, adolygu a datblygu? 4. cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? 5. trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol? B. Sut mae RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau ar RhP y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso'r drafodaeth
Rôl y Panel Gwerthuso Rhaid i'r panel arfarnu: • gytuno a chofnodi amcanion gyda'r pennaeth • fonitro ac adolygu perfformiad trwy'r cylch • drafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y pennaeth • baratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol • ddarparu copi o'r datganiad gwerthuso i'r Pennaeth, Cadeirydd y Corff Llywodraethu a'r Prif Swyddog Addysg • ddarparu copi o ddatganiad amcanion y pennaeth i Estyn ar gais
Nodweddion y Gwerthuswr Mae nodweddion y gall y corff llywodraethu eu hystyried yn cynnwys: • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth a dadansoddi data da gan gynnwys y gallu i ddeall, dehongli a dadansoddi dangosyddion perfformiad allweddol sy'n ymwneud â pherfformiad yr ysgol • perthynas waith dda gyda'r pennaeth, gan gynnwys ei ymddiriedaeth a'i barch • dealltwriaeth dda o swydd y pennaeth • digon o amser i ymgymryd â'i rôl fel arfarnwr a gwneud cyfiawnder â'r broses. • bod yn gyfarwydd â chynllun hyfforddi'r ysgol a'r gyllideb briodol • bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau rheoli perfformiad
Hunanasesiad Gwerthuswr • Dylai gwerthuswyr gwblhau hunanasesiad i nodi eu hanghenion datblygu. • Gellir gwneud mwy o hyfforddiant yn y meysydd datblygu a nodir i sicrhau cynnal eu rôl yn effeithiol • Nodir Canllawiau Llywodraeth Cymru y dylai'r holl arfarnwyr gael eu hyfforddi'n briodol i ymgymryd â'r rôl hyderus iawn angen datblygu • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth da • y gallu i farnu perfformiad yn seiliedig ar dystiolaeth bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau rheoli perfformiad.
Penodi'r Panel Gwerthuso • O leiaf dau lywodraethwr wedi'u penodi gan y corff llywodraethu • Un neu ddau wedi'u penodi gan yr ALl • Yn ogystal, lle ceir gwerthusiad pennaeth ysgol â chymeriad crefyddol, gall yr Awdurdod Esgobaethol benodi arfarnwr • Lle mae'r amser sy'n cael ei dreulio gan bennaeth yn addysgu yn gyfran sylweddol o'i rôl, dylid ystyried cynnwys arfarnwr â Statws Athro Cymwysedig (SAC) • Ni all unrhyw lywodraethwr gael ei benodi fel gwerthuswr y pennaeth os ydynt yn athro neu'n aelod o staff yr ysgol
Enwebai/Enwebeion yr Awdurdod Lleol Bydd yr ALl yn: • enwebu un neu ddau gynrychiolydd a fyddai fel arfer â gwybodaeth am yr ysgol, rôl y pennaeth a blaenoriaethau'r ALl perthnasol • rhoi ystyriaeth benodol i gynnwys gwerthuswr â Statws Addysgu Cymwys (SAC) lle y bo'n addas • ymgynghori â'r pennaeth a fydd yn cael ei benodi i gwerthuswyr
Trefniadau Rhanbarthol ar gyfer Penodi Enwebeion Awdurdod Lleol Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn enwebu un gwerthuswr, ac mae ganddo'r hawl i enwebu ail gwerthuswr: • pan fydd ysgol mewn amgylchiadau heriol • pan fydd ysgol mewn categori monitro Estyn • ar gais gan y pennaeth, mewn cytundeb â'r Prif Swyddog Addysg • ar gais gan y Corff Llywodraethu drwy gytundeb â'r Prif Swyddog Addysg
Enwebai/enwebeion yr ALl • Enwebeion cyntaf yr Awdurdod Lleol fydd swyddog gwella ysgolion y consortiwm (SGYC) sy'n gyfrifol am rôl graidd monitro a herio ar ran yr Awdurdod Lleol • Yr ail fydd gwerthuswr wedi'i hyfforddi sy'n bodloni'r meini prawf yn yr arweiniad, ac a fydd yn un o'r canlynol: • swyddog Awdurdod Lleol o Awdurdod Lleol yr ysgol • swyddog Awdurdod Lleol o Gonsirtiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • Pennaeth sy'n gymheiriad o Gonsortiwm De-orllewin a Chanolbarth Cymru • Bydd Prif Swyddog Addysg yr Awdurdod Lleol yn sicrhau bod gan bob enwebai ddealltwriaeth gadarn o'r • Ysgol a'i chyd-destun • Data perfformiad a gwybodaeth yr ysgol • Safonau Arweinyddiaeth Cyfeiriwch at y Papur Briffio ar y Broses Ranbarthol
Myfyrio a Thrafod – Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae arfarnwyr yn • Cynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai? • Gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol? • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? • Parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol)? • Gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? • Cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? • Trefnu i'r datganiad gwerthuso fod ar gael i'r personél priodol? B. Sut mae RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso'r drafodaeth
Adolygu'r Perfformiad
Y Cyfarfod Gwerthuso Blynyddol Cyfle ffurfiol i: • gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant • trafod meysydd ar gyfer gwella • cytuno ar flaenoriaethau, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch Rheoli Perfformiad canlynol
Yr Adolygiad Perfformiad • Rhaid i'r gwerthuswyr a'r pennaeth gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda'r amcan o • Asesu'r graddau y mae'r pennaeth wedi cyflawni'r amcanion ar gyfer y cylch • Pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y pennaeth wedi bodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer penaethiaid - y safonau arweinyddiaeth • Nodi'r angen ar gyfer cefnogaeth, hyfforddiant a datblygiad ychwanegol • Dylid ystyried PRD y pennaeth wrth adolygu perfformiad
Paratoi ar gyfer yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol • Caniatáu digon o amser ar gyfer adolygiad • Rhaid i'r pennaeth gael gwybod yn ysgrifenefig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw. • Rhaid anfon y Cofnod Adolygu a Datblygu Proffesiynol (PRD) at werthuswyr o leiaf 5 niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.
Paratoi ar gyfer yr Adolygiad Perfformiad Blynyddol • Penodi cadeirydd ar gyfer y Panel Gwerthuso • Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu datganiad gwerthuso • Nodi data a thystiolaeth briodol i'w ddefnyddio yn unol â'r rheoliadau • Penderfynu sut caiff amcanion o'r cylch diwethaf eu hystyried • Dylai'r pennaeth hunanfyfyrio cyn y cyfarfod • Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu
Hunanfyfyrio'r Pennaeth Dylai'r pennaeth ystyried perfformiad yn erbyn: • Ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion • Tystiolaeth o berfformiad yn y cylch • Manteision unrhyw ddatblygiad proffesiynol a gafwyd • Adolygiadau a gynhaliwyd mewn unrhyw flwyddyn • Unrhyw ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad • Amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf
Dogfennaeth i'w hystyried • Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol perthnasol • Cynllun Gwella Ysgol • Y cofnod hunanwerthuso ysgol • Cynllun ôl-arolygiad Estyn • Safonau Arweinyddiaeth o fewn y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru • Deunyddiau perthnasol o adolygiadau'r awdurdod lleol - matrics categoreiddio rhanbarthol
Dylech ystyried: • Adolygu, trafod a chadarnhau tasgau, amcanion a safonau hanfodol y pennaeth • Cydnabod cryfderau a chyflawniadau a ffactorau y tu hwnt i'w reolaeth • Cadarnhau gweithredu a gytunwyd mewn adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn • Nodi meysydd i'w datblygu a sut i'w bodloni • Cydnabod anghenion datblygiad proffesiynol • Cytuno ar amcanion clir a chwblhau cynllun unigol ar gyfer y flwyddyn i ddod
Llunio Barn Rhaid i'r panel arfarnu a'r pennaeth asesu • i ba raddau y bodlonwyd yr amcanion • a yw'r perfformiad cyffredinol wedi bod yn llwyddiannus • a yw'r pennaeth yn parhau i fodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer penaethiaid • yr angen am hyfforddiant a datblygu cefnogaeth
Gosod yr Amcanion • Byddai tri amcan fel arfer yn ddigonol • Dylai amcanion y penaethiaid • gyfrannu at wella datblygiad disgyblion yn yr ysgol • ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • Canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Rhaid i amcanion fod yn berthnasol i:- • arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol • disgrifiad swydd y pennaeth • unrhyw feini prawf cynnydd tâl priodol • unrhyw amcanion ysgol gyfan neu dîm cyfan a nodir yng nghynllun gwella'r ysgol • y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer penaethiaid fel a nodir gan Weinidogion Cymru • unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan Weinidog Cymru
Mae angen i'r nodau fod yn …. • Glir: heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â'r deilliant a fwriedir. • Cryno: gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau â phosib i gyfleu'r bwriad. • Mesuradwy: wedi'u mynegi fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw'r nod wedi'i gyflawni ai peidio. • Heriol: yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau'r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol. • Datblygol: yn cefnogi gwelliant yn yr ysgol a'r arfarnai
Nodau SMART • Strategol- gweledigaeth, ysgol gyfan, canolbwyntio ar y disgyblion • Trefnus- ynghlwm wrth feini prawf llwyddiant, rhoi ar waith • Cyflawnadwy- amserlen, llwyth gwaith, arweinyddiaeth • Perthnasol - i'r ysgol, a blaenoriaethau lleol, cenedlaethol a phersonol • Meddylgar- myfyriol, canolbwyntio ar bobl
Nodi Datblygiad Proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: • gefnogi'r pennaeth wrth wella gwybodaeth a sgiliau • cefnogi amcanion cytunedig • datblygu cryfderau • mynd i'r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol
Monitro Perfformiad • Dylai gweithdrefnau monitro: • gael eu trafod a'u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio • cynnwys amrywiaeth o ddulliau • Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn • Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol i sicrhau llunio barn sicr • Rhaid i'r pennaeth gadw cofnod adolygu a datblygu arfer diweddar (PRD)
Monitro Gweithgarwch Dylai bod amrywiaeth o weithgarwch monitro sy'n casglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y ceir barn sicr. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys:- • Cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y panel arfarnu a'r pennaeth • Cofnod PRD y pennaeth • Cynllun Gwella Ysgol • data a gwybodaeth perfformiad ysgol • Proses hunanwerthuso barhaus yr ysgol • Arsylwadau addysgu (lle y bo'n addas)
Arsylwadau Addysgu i Benaethiaid • Rhaid bod gan arsylwyr Rheol Perfformiad SAC • Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw • Rhaid rhoi o leiaf 5 niwrnod ysgol o rybudd • O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad - caniateir mwy â chaniatâd • Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn 5 niwrnod gwaith fel arfer) • Dylid cofnodi canlyniad yr arsylwi, gan gynnwys adborth • Dylai fod gan benaethiaid gyfle i ychwanegu sylwadau
Rheoli Tanberfformiad • Nid yw'r cyfarfod adolygu a'r datganiad gwerthuso'n rhan o weithdrefnau disgyblu cymhwysedd na gallu ffurfiol. • Bydd rheoli llinell effeithiol â disgwyliadau clir a chefnogaeth briodol yn helpu wrth nodi a chyfeirio at unrhyw wendid mewn perfformiad. • Gall y rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch materion perfformio, tâl, dyrchafu, y diswyddo neu ddisgyblu ystyried datganiadau gwerthuso
Amgylchiadau Eithriadol • Lle ceir penderfyniad i gychwyn ar weithdrefn cymhwysedd neu allu, yna bydd y weithdrefn honno'n disodli'r trefniadau Rheoli Perfformiad • Gellir gohirio'r broses RhP unrhyw bryd
Broses Rheoli Perfformiad Dyma nodweddion arfer gorau mewn rheoli perfformiad: • ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan benaethiaid; • ymrwymiad i berfformiad a lles staff; • ymddiriedaeth rhwng y pennaeth a'r panel arfarnu, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • annog rhannu arfer da; • integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.
Ac yn olaf...... ‘Mae rheoli perfformiad yn rhoi sylw i wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli Perfformiad i Benaethiaid LlC 074/2012