260 likes | 419 Views
Rheoli Perfformiad Rhan A. Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013). Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol
E N D
Rheoli PerfformiadRhan A Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013)
Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol • Adolygu sut y bydd rheoli perfformiad yn rhan o gyd-destun ehangach proses gwella'r ysgol • Adolygu gweithredu'r broses rheoli perfformiad gan gynnwys rolau a chyfrifodebau'r rhai sy'n rhan ohoni
Gofynion Diwygiedig Amserlen • Rheoliadau Diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012 • Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012 Diwygiadau • Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â - safonau a phrofiadau proffesiynol • blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol • data perfformiad disgyblion • cynnydd tâl • Mwy o gyfranogiad gan yr Awdurdod Lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion • Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid • Dylech gadw dogfennau Rheoli Perfformiad am o leiaf 3 blynedd
Diben Rheoli Perfformiad (RhP) 'Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.' Canllawiau Llywodraeth Cymru Mai 2012
Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi:- • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a gwella safonau Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i:- • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol
Y Cylch Gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu Gwerthuswr Dadansoddiad strategol Datganiad gwerthuso a Gosod Amcanion Gwerthusai Cytuno ar amcanion Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwi addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy'n briodol i rôl yr athro
Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol • Y corff llywodraethu/y corff priodol • Y Pennaeth • Gwerthuswr /gwerthuswyr • Gwerthusai / Gwerthuseion • Yr Awdurdod Lleol • Llywodraeth Cymru
Cyfrifoldebau'r Corff Llywodraethu/Corff Priodol Rhaid i'r corff llywodraethu/cyrff perthnasol: • adolygu a chytuno ar y polisi rheoli perfformiad yn flynyddol • monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad • adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso • rhoi unrhyw broses apelio ar waith • cadw copi o ddatganiadau'r pennaeth am o leiaf 3 blynedd • anfon copi o ddatganiad y pennaeth at y Prif Swyddog Addysg (PSA)
Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae'r corff llywodraethu'n: 1. adolygu ac yn cytuno ar y polisi Rheoli Perfformiad? 2. monitro effeithiolrwydd ac effaith y broses rheoli perfformiad? 3. adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso? 4. rhoi unrhyw broses apelio ar waith? B.Sut mae rheoli perfformiad yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau ar gyfraniad y llywodraethwyr at reoli perfformiad athrawon y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 1 i hwyluso'r drafodaeth
Cyfrifoldebau'r Pennaeth o fewn y broses Rheoli Perfformiad Dylai penaethiaid: • adolygu a chytuno ar bolisi RhP gyda'r Corff Llywodraethu a'r ALl • pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol • penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro yn yr ysgol a sicrhau bod gwerthuswyr yn cynnal eu cyfrifoldebau • sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu • sicrhau bod gan athrawon gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy'n cefnogi gwella'r ysgol gyfan • adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau RhP yr ysgol yn flynyddol i'r corff llywodraethu • cadw copi o'r holl ddatganiadau arfarnu dros y 3 blynedd ddiwethaf • llunio adroddiad ysgrifenedig i'r corff llywodraethu ynghylch y broses RhP yn yr ysgol o leiaf unwaith y flwyddyn
Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae'r pennaeth yn • adolygu'r polisi RhP ac yn cytuno arno gyda'r Corff Llywodraethu a'r ALl? • pennu amseru cylch gwerthuso’r ysgol? • penodi gwerthuswr ar gyfer pob athro yn yr ysgol a sicrhau bod yr gwerthuswr yn cynnal eu cyfrifoldebau? • sicrhau monitro addysgu ac adborth datblygu? • sicrhau bod gan yr athro gynlluniau unigol a datblygiad proffesiynol a dargedir sy'n cefnogi gwella'r ysgol gyfan? • adrodd am effeithiolrwydd gweithdrefnau RhP yr ysgol yn flynyddol i'r corff llywodraethu? B. Sut mae RhP yn rhan o brosesau gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 2 i hwyluso'r drafodaeth
Rôl yr Gwerthuswr/Gwerthuswyr (Athro, Pennaeth, Llywodraethwr, Enwebai ALl) Rhaid i Gwerthuswyr: • Gytuno a chofnodi amcanion gyda'r gwerthusai • Monitro ac adolygu perfformiad y gwerthusai trwy gydol y cyfnod • Trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol y gwerthuseion • Paratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol • Gwneud argymhellion ysgrifenedig lle mae‘r gwerthusai’n gymwys am gynnydd tâl yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD), lle y bo'n addas.
Cyfrifoldebau'r Gwerthuswr / Gwerthuswyr Maent yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:- • gynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai • gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol • parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol) • cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai / gwerthuseion (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) • gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad • trefnu bod datganiad gwerthuso llawn neu ychwanegiad i'r datganiad gwerthuso ar gael i'r personél priodol
Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae gwerthuswyr yn: 1. cynllunio'r cylchred gwerthuso gyda'r gwerthusai? 2. gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol? 3. trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol? 4. adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd drwy'r cylch RhP (adolygiad ffurfiannol)? 5. gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? 6. cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthuseion (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? 7. trefnu bod y datganiad gwerthuso ar gael i'r personél priodol? B Sut mae Rheoli Perfformiad yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau ar reoli perfformiad y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso trafodaeth
Rôl y Gwerthuseion (Athro neu Bennaeth) Dylai'r gwerthuseion: • drafod, cynllunio a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr • cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol
Cyfrifoldebau'r Gwerthuseion Rhaid i'r gwerthuseion: • drafod a gosod amcanion gyda'r gwerthuswr / gwerthuswyr, cymryd sylw o gyd-destun yr ysgol, disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol • hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnsaol a thystiolaeth o berfformiad • cymryd rhan mewn trefniadau monitro • cynnal a chadw cofnod datblygu arfer ac adolygu diweddar • cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol
Myfyrio a Thrafod A. Ym mha ffyrdd y mae gwerthuswyr yn: 1. trafod gosod amcanion gyda'r gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol? 2. hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth priodol? 3. cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw cofnod datblygu adolygu ac arfer diweddar? 4. cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? 5. trafod a nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol? B. A yw RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau ar RhP y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso'r drafodaeth
Yr Awdurdod Lleol Rhaid i'r Awdurdod Lleol: • gymeradwyo polisi RhP yr ysgol • enwebu un neu ddau o werthuswyr yr ALl i wasanaethu ar banel gwerthuso'r pennaeth • ymgynghori â'r pennaeth ar enwebai/enwebeion yr ALl • darparu enwebeion ar gyfer y broses apeliadau • derbyn a chadw datganiad gwerthuso'r pennaeth wedi'i lofnodi a'i ddyddio am dair blynedd • sicrhau bod gweithdrefnau gwerthuso yn eu lle i athrawon digyswllt
Adolygu'r Broses Rheoli Perfformiad
Y Polisi Rheoli Perfformiad ‘Dylai'r polisi osod fframwaith er mwyn i'r holl staff gytuno ac adolygu blaenoriaethau ac amcanion o fewn cyd-destun cynllun datblygu'r ysgol a'u hanghenion datblygu eu hunain. Bydd yn eu helpu gyda'r nod o ddatblygu'r holl staff a helpu, lle y bo'n addas, i godi safonau cyrhaeddiad i ddisgyblion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012
Polisi Rheoli Perfformaid Rhaid bod y polisi rheoli perfformiad yn glir ynghylch: • rhoi ar waith • disgwyliadau • blaenoriaethau • monitro ac asesu • adolygu
Elfennau Allweddol Polisi Rheoli Perfformiad • Cyflwyniad: yr hyn y mae'r polisi'n ceisio'i gyflawni • Rolau a chyfrifoldebau • Amserlen ar gyfer adolygiadau • Y Cylch Rheoli Perfformiad • Y Weithdrefn Apelio • Cyfrinachedd • Mynediad i ddeilliannau
Broses Rheoli Perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: • ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan athrawon; • ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • annog rhannu arfer da; • integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.
Myfyrio a Thrafod A. Ym mha ffyrdd y mae'r Polisi Rheoli Perfformiad yn 1. integreiddio'r broses rheoli perfformiad yn ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol. 2. hyrwyddo eglurder ar • weithredu'r broses, • rolau, cyfrifoldebau a disgwyliadau'r cyfranogwyr • Gwerthuso effeithiolrwydd y polisi 3. creu awyrgylch o barch ac ymddiriedaeth proffesiynol 4. annog lledaenu arfer da 5. nodi anghenion datblygu proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol ? B. A yw Rheoli Perfformiad yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau ar Reoli Perfformiad y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 6 i hwyluso'r drafodaeth
Ac yn olaf.... ‘Mae rheoli perfformiad yn rhoi sylw i wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012