340 likes | 495 Views
Prawf i Chi: Cyflwyniad i Ffynonellau Cyfraith. Enwch saith ffynhonnell cyfraith. Beth yw’r enw a roddir i’r ffynhonnell cyfraith a ddeilliodd o’r cyfreithiau a’r arferion cyfreithiol oedd yn bodoli cyn Concwest Normanaidd Lloegr yn 1066?.
E N D
Beth yw’r enw a roddir i’r ffynhonnell cyfraith a ddeilliodd o’r cyfreithiau a’r arferion cyfreithiol oedd yn bodoli cyn Concwest Normanaidd Lloegr yn 1066?
Pa ffynhonnell cyfraith oedd yn cael ei gorfodi yn wreiddiol gan y Llys Siawnsri?
Pa Ddeddfau a unodd y Llys Siawnsri a’r llysoedd cyfraith gwlad i greu’r Uchel Lys?
Rhowch y term Lladin sy’n disgrifio’r system y mae cynsail barnwrol yn gweithredu dani.
Pa fath o ddeddfwriaeth ddirprwyedig yw’r modd y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn creu cyfraith?
Pa fath o ddeddfwriaeth ddirprwyedig sy’n caniatáu i’r llywodraeth trwy’r Cyfrin Gyngor i greu cyfraith mewn argyfwng?
Pa fath o ddeddfwriaeth ddirprwyedig sy’n caniatáu i weinidogion y llywodraeth gyflwyno rheoliadau penodol sydd â grym cyfraith?
Sefydlodd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 pa ffynhonnell cyfraith yn y Deyrnas Unedig?
Rhowch ddau esiampl o’r meysydd y mae cyfraith Ewropeaidd yn ymdrin â hwy.
Pa statud a gyflwynodd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel ffynhonnell cyfraith yn y Deyrnas Unedig?
Beth yw enw’r llys rhyngwladol a sefydlwyd i benderfynu a dorrwyd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol?
Rhowch esiampl o hawl sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Yr Atebion Prawf i ChiCyflwyniad i Ffynonellau Cyfraith
Enwch saith ffynhonnell cyfraith. Cyfraith Gwlad Ecwiti Statudau Cynsail Barnwrol (cyfraith achos) Deddfwriaeth Ddirprwyedig Cyfraith y Gymuned Ewropeaidd Y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Beth yw’r enw a roddir i’r ffynhonnell cyfraith a ddeilliodd o’r cyfreithiau a’r arferion cyfreithiol oedd yn bodoli cyn Concwest Normanaidd Lloegr yn 1066?Cyfraith Gwlad
Pa ffynhonnell cyfraith oedd yn cael ei gorfodi yn wreiddiol gan y Llys Siawnsri?Ecwiti
Pa Ddeddfau a unodd y Llys Siawnsri a’r llysoedd cyfraith gwlad i greu’r Uchel Lys? Y Deddfau Barnweiniaeth
Rhowch y term Lladin sy’n disgrifio’r system y mae cynsail barnwrol yn gweithredu dani.stare decisis(Boed i’r penderfyniad sefyll)
Beth welech chi mewn adroddiad cyfraith?Manylion achosion pwysig yn y gorffennol
Enwch dri math o ddeddfwriaeth ddirprwyedig.Gorchmynion yn y Cyfrin GyngorIs-ddeddfauOfferynnau Statudol
Pa fath o ddeddfwriaeth ddirprwyedig yw’r modd y mae awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill yn creu cyfraith? Is-ddeddf
Pa fath o ddeddfwriaeth ddirprwyedig sy’n caniatáu i’r llywodraeth trwy’r Cyfrin Gyngor i greu cyfraith mewn argyfwng?Gorchmynion yn y Cyfrin Gyngor
Pa fath o ddeddfwriaeth ddirprwyedig sy’n caniatáu i weinidogion y llywodraeth gyflwyno rheoliadau penodol sydd â grym cyfraith?Offerynnau Statudol
Sefydlodd Deddf Cymunedau Ewropeaidd 1972 pa ffynhonnell cyfraith yn y Deyrnas Unedig?Cyfraith y Gymuned Ewropeaidd
Rhowch ddau esiampl o’r meysydd y mae cyfraith Ewropeaidd yn ymdrin â hwy.iechyd a diogelwch yn y man gwaithcamwahaniaethu ar sail rhyw a hil yn y man gwaithhawliau defnyddwyrcyfreithiau masnachu, etc.
Pa statud a gyflwynodd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol fel ffynhonnell cyfraith yn y Deyrnas Unedig? Deddf Hawliau Dynol 1998
Beth yw enw’r llys rhyngwladol a sefydlwyd i benderfynu a dorrwyd y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol? Llys Iawnderau Dynol Ewrop
Rhowch esiampl o hawl sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.Yr hawl i ryddid rhag arteithio (Erthygl 3)Yr hawl i dreial teg (Erthygl 6), etc.