400 likes | 538 Views
Prawf Ffurf Gyfreithiol ar Fusnes. Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o’r mathau sylfaenol o fusnes. Bydd y cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau. Cwestiwn 1. Pa un o’r canlynol sy’n wir am CCC?
E N D
Prawf Ffurf Gyfreithiol ar Fusnes Mae’r prawf hwn yn cynnwys 10 cwestiwn i brofi eich dealltwriaeth o’r mathau sylfaenol o fusnes. Bydd y cysylltau’n rhoi dewis o atebion i chi, ynghyd ag esboniadau a datrysiadau.
Cwestiwn 1. Pa un o’r canlynol sy’n wir am CCC? a. Mae gan y partneriaid atebolrwydd cyfyngedig b. Mae’r busnes yn endid cyfreithiol yng ngolwg y gyfraith c. Ni ellir erlyn y busnes
Cywir – Dyma un o brif nodweddion unrhyw gwmni cyfyngedig, gall fod yn berchen ar asedau, gwneud contractau, erlyn a chael ei erlyn. Mae cwmnïau cyfyngedig yn gorfforedig.
Cwestiwn 2. Pa un o’r canlynol sy’n wir am fasnachfraint (franchise)? A. Mae elw wedi’i warantu i ddeiliad y fasnachfraint B. Mae’r masnachfreiniwr yn gwerthu’r hawliau i’r fasnachfraint C. Mae’r masnachfreiniwr yn prynu nwyddau gan ddeiliad y fasnachfraint
Cwestiwn 3. Beth yw’r nifer lleiaf o gyfranddalwyr a all fod gan gwmni cyfyngedig preifat? A. 11 B. 7 C. 2
Cwestiwn 4. Un o fanteision bod yn unig fasnachwr yw A. atebolrwydd anghyfyngedig. B. atebolrwydd cyfyngedig. C. penderfynu’n gyflym.
Cwestiwn 5. Pa un o’r canlynol sy’n wir am bartner segur? A. Nid yw’n cymryd rhan yn y gwaith o redeg y busnes o ddydd i ddydd B. Does dim hawliau pleidleisio yn mynd gyda’i gyfranddaliadau
Cwestiwn 6. Pa un o’r canlynol sy’n rheswm pam y bydd unig fasnachwr yn troi’n CYF? A. Mae’r perchennog yn fedrus iawn B. Gellir gwerthu cyfranddaliadau ar y Farchnad Stoc C. Atebolrwydd cyfyngedig
Cwestiwn 7. Pa un o’r canlynol sy’n wir am CCC? A. Mae’r elw i gyd yn cael ei rannu rhwng y cyfranddalwyr B. Dydy cynnydd yng ngwerth cyfranddaliadau ddim yn cynyddu derbyniadau’r cwmni yn uniongyrchol.
Anghywir, gall polisi buddrannau olygu cadw’r cyfan neu ran o unrhyw elw.
Cwestiwn 8. Pa un o’r canlynol sy’n wir am CYF? A. Mae’r cwmni’n para ar ôl marwolaeth cyfranddalwyr B. Mae atebolrwydd cyfyngedig yn berthnasol i gyfarwyddwyr yn unig C. Nid yw’r cyfrifon ar gael i’r cyhoedd eu gweld
Cwestiwn 9. Mae partneriaethau 1. yn gorfod cynnwys partneriaid segur. 2. yn gorfod cyhoeddi eu cyfrifon. 3. yn para ar ôl marwolaeth partner. A. 1 yn unig B. Pob un C. Ddim un
Cwestiwn 10. O ran busnesau cydweithredol, 1. yr aelodau sy’n berchen arnynt. 2. maent yn rhoi rhan o’u helw i bob aelod. 3. nid ydynt yn amcanu at wneud elw. A. 3 yn unig B. 1 a 3 C. 1 a 2
Rydych wedi cwblhau’r prawf. Am adolygu ychwanegol mwy manwl defnyddiwch yr astudiaethau achos ar y wefan. I ymadael â’r prawf defnyddiwch y botwm ‘Back’ ar eich bar offer.