40 likes | 261 Views
F’ENAID MOLA DDUW’R GOGONIANT; Dwg dy drysor at ei draed; Ti, a brofodd ei faddeuant, Ti, a olchwyd yn y gwaed, Moliant, moliant, Dyro mwy i’r Gorau gaed. Mola Ef a’i rad drugaredd Lifodd at ein tadau’n lli; Mola Ef, ei faith amynedd A’i dosturi atat ti; Moliant, moliant,
E N D
F’ENAID MOLA DDUW’R GOGONIANT; Dwg dy drysor at ei draed; Ti, a brofodd ei faddeuant, Ti, a olchwyd yn y gwaed, Moliant, moliant, Dyro mwy i’r Gorau gaed.
Mola Ef a’i rad drugaredd Lifodd at ein tadau’n lli; Mola Ef, ei faith amynedd A’i dosturi atat ti; Moliant, moliant, Am ei ddoniau rhad, di-ri.
 thynerwch Tad y’n cadwodd; Edwyn Ef ein defnydd brau; Ar ei ddwylo mwyn y’n dygodd, A’n gwaredu o’n holl wae; Moliant, moliant, Ei drugaredd sy’n parhau.
Yn y gân, angylion unwch, Chwi a’i gwelwch yn ddi-len; Haul a lloer o'i flaen ymgrymwch, A holl luoedd nef uwchben; Moliant, moliant, Fo i Dduw pob gras, Amen. Henry Francis Lyte cyf. G. Wynne Griffith o ‘Odlau'r Efengyl’ (Llyfrfa'r M.C., Caernarfon). Defnyddir trwy ganiatad.