110 likes | 342 Views
MATERION HIL YN AMERICA. 1929-1990 (Martin Luther King). PROTEST HEDDYCHLON. Roedd Dr Martin Luther King yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr (ficer) ym Montgomery Alabama.
E N D
MATERION HIL YN AMERICA 1929-1990 (Martin Luther King)
PROTEST HEDDYCHLON • Roedd Dr Martin Luther King yn weinidog ar Eglwys y Bedyddwyr (ficer) ym Montgomery Alabama. • Daeth i amlygrwydd yn gyntaf pan gynorthwyodd i arwain y boicot llwyddiannus o’r system bysiau yn Montgomery yn 1955, wedi i ddynes ddu o’r enw Rosa Parks wrthod ildio ei sedd i ddyn gwyn ar y system bysiau oedd yn arwahanu. Yn ystod y frwydr hon cyhoeddodd y Goruchaf Lys bod arwahanu ar fysiau yn anghyfreithlon.
EI GREDOAU • Roedd King yn credu yn y dulliau gweithredu uniongyrchol, di-drais a ddefnyddiwyd gan Gandhi yn y 1940au i fynnu bod Prydain yn rhoi annibyniaeth i’r India. • Roedd yn un o arweinwyr Cynhadledd Arweiniad Cristnogol y De, a ffurfiwyd i gydlynu protestiadau yn erbyn gwahaniaethu. • Er bod nifer o grwpiau Hawliau Sifil mawr oedd yn hyrwyddo protestiadau heddychlon, King a ddaeth yn ffigwr mwyaf adnabyddus h.y. llefarydd effeithiol y protestiadau Hawliau Sifil heddychlon.
Gorymdeithiau 1961 – 2-3 • Trefnwyd nifer gan MLK a’r NAAPC yn y 60au cynnar. • Yn 1963 traddododd MLK ei araith enwog ‘ Mae gen i freuddwyd’. • Ymunodd nifer o bobl wynion, yn bennaf o’r Gogledd. Roeddent yn benderfynol o gael Hawliau Sifil i bobl dduon.
Pa fath o fygythiad oedd yn bod rhwng y rhesi tanciau a’r bidogau parod oedd wedi’u hogi?
Archwiliwch y llun hwn ac eglurwch beth roedd King yn ceisio ei gyflawni.
TEITHIAU RHYDDID Bu King hefyd yn cynorthwyo i drefnu’r teithiau rhyddid lle gwelwyd bysiau gyda phobl dduon a phobl wynion yn eistedd yn ymyl ei gilydd yn gyrru drwy daleithiau’r De mewn protest. Yn aml ymosodwyd ar y bysiau a’u difrodi.
Yn aml byddai’r gorymdeithiau a’r protestiadau heddychlon a gafwyd gan King a’i gefnogwyr yn ennyn ar ymateb treisgar yr awdurdodau. • Sut mae’r ddau ddioddefwr yn ymddangos yn y lluniau hyn?
Er gwaethaf y trais a amlygwyd tuag atynt, gwrthodai King a’i gefnogwyr dalu’r pwyth yn ôl â thrais. • Llwyddodd ei ddulliau heddychlon ennill parch a chefnogaeth ryngwladol iddo. Yn 1964 dyfarnwyd gwobr heddwch Nobel iddo fel cydnabyddiaeth o’i gyfraniad at hawliau sifil. • Yn drasig yn 1968, cafodd Martin Luther King ei lofruddio, tra roedd yn ymweld â Memphis, Tennessee a thaniwyd trais a therfysg ledled y wlad.
TASG Ysgrifennwch ysgrif goffa i Martin Luther King gan amlinellu manylion ei fywyd, ei gyflawniadau a’i gyfraniadau at y Mudiad Hawliau Sifil.
Y Diwedd Cafwyd pob delwedd o Lyfrgell Genedlaethol y Gyngres (www.loc.gov) Hyd y gwêl yr awdur nid oes unrhyw gyfyngiad sy’n hysbys ar y cyhoeddiad.