200 likes | 384 Views
PAM OEDD CYFEITIHU’R BEIBL I’R GYMRAEG YN 1588 MOR BWYSIG?. Yn 1588 cyfieithiwyd y Beibl i’r Gymraeg. Mae yna gyfle yma i chi benderfynu pam oedd Beibl 1588 mor bwysig ac i bwy. I helpu chi i gael y wybodaeth bydd raid i chi ddefnyddio Ffynonellau A-Ch
E N D
PAM OEDD CYFEITIHU’R BEIBL I’R GYMRAEG YN 1588 MOR BWYSIG? Yn 1588 cyfieithiwyd y Beibl i’r Gymraeg. Mae yna gyfle yma i chi benderfynu pam oedd Beibl 1588 mor bwysig ac i bwy. I helpu chi i gael y wybodaeth bydd raid i chi ddefnyddio Ffynonellau A-Ch Cliciwch ar y rhestr isod yn eu tro ac atebwch y cwestiynau sydd ar bob un.. Elisabeth I fel pennaeth yr Eglwys Pabyddion Cymru Bonedd Cymru Elisabeth I fel brenhines Lloegr Y werin bobl yng Nghymru Haneswyr Pobl Cymru heddiw Ffynhonell A Ffynhonell B Ffynhonell C Ffynhonell Ch
Ffynhonell A Un peth oedd yn poeni Elisabeth I oedd Ffrainc a Sbaen - dwy wlad Babyddol. Roedd hi’n poeni y gallai Pabyddion o Sbaen ymosod arni drwy Gymru. Roedd y broblem yn waeth wedi 1585 oherwydd rhyfel rhyngddi hi a Philip II, brenin Sbaen. Roedd Elisabeth wedi cytuno i gael y Beibl yn Gymraeg yn 1563. Crefydd oedd y prif reswm dros gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg. Elisabeth oedd pennaeth ei Heglwys ac roedd hi eisiau i bawb yn ei theyrnas fod yn rhan o'i Heglwys hi. Roedd cyfieithu’r Beibl yn 1588 yn bwysig iawn i Eglwys Elisabeth. William Morgan oedd yn gyfrifol am y gwaith. Roedd Elisabeth I a William Morgan eisiau i bawb yng Nghymru fod yn Brotestant. Roedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn bwysig i sicrhau fod pawb oedd yn siarad Cymraeg yn dod yn Brotestant. Addasiad o’r llyfr: Cymru a’r Tuduriaid gan yr hanesydd academaidd J. Gwynfor Jones [1993]
Ffynhonell B Roedd rhai o’r Cymry yn ceisio cadw’r ffydd Babyddol yn fyw adeg teyrnasiad Elisabeth I. Cafodd dau ohonynt eu dienyddio am geisio lladd Elisabeth. Roedd nifer o Gymry yn dod i’r wlad fel offeiriaid Pabyddol. Roeddynt yn gweithio yn y dirgel yn ceisio cadw’r ffydd Babyddol yn fyw. Pan ddaeth Elisabeth I ynfrenhines nidoedd mwyafrif pobl Cymru yn hoffi Protestaniaeth – roeddynt yn meddwl ei fod yn grefydd estron mewn iaith estron. Sylweddolodd Elisabeth bod rhaid cael Beibl yn y Gymraeg os oedd pobl Cymru am droi yn Brotestant. Roedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn 1588 felly yn bwysig iawn. Yn awr gallai’r Cymry glywed Gair Duw yn y Gymraeg yn yr eglwysi ar y Sul. Cyhoeddi’r Beibl Cymraeg oedd y digwyddiad pwysicaf yn hanes Protestaniaeth yng Nghymru yn ystod oes y Tuduriaid. Addasiad o’r llyfr: Hanes Cymru yn y Cyfnod Modern Cynnar gan yr hanesydd academaidd Geraint H. Jenkins [1983]
Ffynhonell C Roedd cyfieithu’r Beibl i'r Gymraeg yn bwysig iawn. Ond rhaid oedd disgwyl tan 1603 hyd nes y byddai Beibl rhad ar gael i bawb ei ddarllen. Ond yn sicr y Beibl ddaru achub yr iaith Gymraeg. Roedd y Beibl yn arf bwysig yn erbyn Pabyddiaeth hefyd. Rhaid cofio bod nifer o Gymru yn cael eu hyfforddi mewn colegau Pabyddol yn Valladolid a Seville yn Sbaen – ac roeddynt yn peryglu dyfodol eglwys Brotestant Elisabeth. Addasiad/cyfieithiad o’r llyfr: Tudor Wales gan yr hanesydd academaidd W.S.K. Thomas [1983]
Ffynhonell Ch Roedd llawer o Gymru oedd yn Babyddion yn Ewrop. Roedd tri yng Ngholeg Douai yn yr Iseldiroedd er enghraifft. Roedd yr Iseldiroedd yn cael eu rheoli gan Philip II o Sbaen. Yr oedd Morris Clynnog, yn 1561, wedi galw ar Philip II i gael gwared o Elisabeth fel brenhines Lloegr. Dangosai hyn bod rhai o Babyddion Cymru yn fodlon gweld Elisabeth yn cael ei lladd. Roedd cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg yn bwysig iawn felly. Yn gyntaf, ddaru o sicrhau fod bron iawn pawb yng Nghymru yn Brotestant. Yn ail, os oedd y Cymry rwan yn Brotestant ni fyddent yn cefnogi ymosodiad o dramor gan Babyddion, fel y Sbaenwyr neu’r Gwyddelod. Fel y dywedodd R.T. Jenkins yn ei lyfr ef, roedd croeso mawr i’r Beibl newydd yng Nghymru. Roedd y Protestaniaid a chefngowyr y frenhines yn fodlon. Byddai pawb yn clywed y Beibl yn yr eglwys ar y Sul. Yr oedd y Beibl yn sicr yn un rheswm dros fuddugoliaeth eglwys Elisabeth yn erbyn ei gelynion. Addasiad o’r llyfr: Cyfnod y Tuduriaid gan yr hanesydd academaidd W. Ambrose Bebb [1939]
Elisabeth I fel pennaeth yr Eglwys 1. Tystiolaeth sy’n dangos fod Beibl 1588 yn bwysig i Elisabeth I fel pennaeth yr Eglwys yw: 2. Un hanesydd sy’n dweud hyn yw: 3. Roedd ef neu hi yn ysgrifennu ei ddehongliad yn y flwyddyn:
Elisabeth I fel pennaeth yr Eglwys 4. Y mathau o dystiolaeth wreiddiol a astudiwyd ganddo ef oedd [rhowch dair enghraifft addas yma]. Cliciwch yma i gael mynd at y rhestr o ffynonellau gwreiddiol. 5. Ddaru’r hanesydd astudio barn haneswyr eraill fel:
Pabyddion Cymru 1. Tystiolaeth sy’n dangos fod Beibl 1588 yn bwysig i Babyddion Cymru yw: 2. Un hanesydd sy’n dweud hyn yw: 3. Roedd ef neu hi yn ysgrifennu ei ddehongliad yn y flwyddyn:
Pabyddion Cymru 4. Y mathau o dystiolaeth wreiddiol a astudiwyd ganddo ef oedd [rhowch dair enghraifft addas yma]. Cliciwch yma i gael mynd at y rhestr o ffynonellau gwreiddiol. 5. Ddaru’r hanesydd astudio barn haneswyr eraill fel:
Bonedd Cymru 1. Tystiolaeth sy’n dangos fod Beibl 1588 yn bwysig i Fonedd Cymru yw: 2. Un hanesydd sy’n dweud hyn yw: 3. Roedd ef neu hi yn ysgrifennu ei ddehongliad yn y flwyddyn:
Bonedd Cymru 4. Y mathau o dystiolaeth wreiddiol a astudiwyd ganddo ef oedd [rhowch dair enghraifft addas yma]. Cliciwch yma i gael mynd at y rhestr o ffynonellau gwreiddiol. 5. Ddaru’r hanesydd astudio barn haneswyr eraill fel:
Elisabeth I fel brenhines Lloegr 1. Tystiolaeth sy’n dangos fod Beibl 1588 yn bwysig i Elisabeth I fel brenhines Lloegr yw: 2. Un hanesydd sy’n dweud hyn yw: 3. Roedd ef neu hi yn ysgrifennu ei ddehongliad yn y flwyddyn:
Elisabeth I fel brenhines Lloegr 4. Y mathau o dystiolaeth wreiddiol a astudiwyd ganddo ef oedd [rhowch dair enghraifft addas yma]. Cliciwch yma i gael mynd at y rhestr o ffynonellau gwreiddiol. 5. Ddaru’r hanesydd astudio barn haneswyr eraill fel:
Y werin bobl yng Nghymru 1. Tystiolaeth sy’n dangos fod Beibl 1588 yn bwysig i'r werin bobl yng Nghymru yw: 2. Un hanesydd sy’n dweud hyn yw: 3. Roedd ef neu hi yn ysgrifennu ei ddehongliad yn y flwyddyn:
Y werin bobl yng Nghymru 4. Y mathau o dystiolaeth wreiddiol a astudiwyd ganddo ef oedd [rhowch dair enghraifft addas yma]. Cliciwch yma i gael mynd at y rhestr o ffynonellau gwreiddiol. 5. Ddaru’r hanesydd astudio barn haneswyr eraill fel:
Haneswyr 1. Tystiolaeth sy’n dangos fod Beibl 1588 yn bwysig i haneswyr yw: 2. Un hanesydd sy’n dweud hyn yw: 3. Roedd ef neu hi yn ysgrifennu ei ddehongliad yn y flwyddyn:
Haneswyr 4. Y mathau o dystiolaeth wreiddiol a astudiwyd ganddo ef oedd [rhowch dair enghraifft addas yma]. Cliciwch yma i gael mynd at y rhestr o ffynonellau gwreiddiol. 5. Ddaru’r hanesydd astudio barn haneswyr eraill fel:
Pobl Cymru heddiw 1. Tystiolaeth sy’n dangos fod Beibl 1588 yn bwysig i bobl Cymru heddiw yw: 2. Un hanesydd sy’n dweud hyn yw: 3. Roedd ef neu hi yn ysgrifennu ei ddehongliad yn y flwyddyn:
Pobl Cymru heddiw 4. Y mathau o dystiolaeth wreiddiol a astudiwyd ganddo ef oedd [rhowch dair enghraifft addas yma]. Cliciwch yma i gael mynd at y rhestr o ffynonellau gwreiddiol. 5. Ddaru’r hanesydd astudio barn haneswyr eraill fel:
Tystiolaeth wreiddiol · Deddfau Seneddol · Llythyrau preifat Elisabeth I · Mapiau · Cerddi gan feirdd y cyfnod · Tystiolaeth archaeolegol · Cofnodion yr eglwysi · Llythyrau’r Pab · Llun o Philip II · Adroddiadau gan yr Esgobion i gyflwr yr Eglwys yng Nghymru · Llythyrau gan rai o fonedd Cymru at Elisabeth I · Llun o Elisabeth I · Beibl 1588 · Llun o William Morgan · Ewyllysiau’r bonedd · Cerrig beddi yn eglwysi Cymru · Llythyrau William Morgan · Lluniau o Babyddion yn cael eu dienyddio