1 / 6

Defnyddio technegau ffilm Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘ Y Dieithryn’ gan Eleri Ll . Morris

Defnyddio technegau ffilm Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘ Y Dieithryn’ gan Eleri Ll . Morris.

Download Presentation

Defnyddio technegau ffilm Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘ Y Dieithryn’ gan Eleri Ll . Morris

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Defnyddio technegau ffilm Gweithgaredd yn seiliedig ar ‘Y Dieithryn’ gan Eleri Ll. Morris Defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio technegau ffilm defnyddio techneg

  2. EFFEITHIAU GWELEDOL Golygu Lliw Set Ôl-Fflachiadau Croes dorri (neidio o un olygfa i’r llall) pylu (fade) Technegau Ffilm SAIN Effeithiau sain Cerddoriaeth Deialog Chwerthin / crio Swn cyson e.e. cloc atsain FFRAMIO Saethiad llydan Saethiad pell Saethiad canolig Saethiad agos Saethiad agos iawn Saethiad niwlog FFOCWS Ffocws dwfn (popeth yn y golwg) Ffocws bas (dim ond un peth mewn ffocws) SAFLE’R CAMERA Saethiad ongl isel Saethiad ongl uchel Saethiad craen Saethiad o safbwynt rhywun SYMUNDIAD CAMERA Tremio (pan) Camera llaw cledru (tracking) gwyro (tilt) bwa (arch) prysuro i fewn/ allan GOLEUO Goleuo cynnes Goleuo oer Goleuo cywair isel (llawer o gysgodion) Goleuo cywair uchel (llachar) Golau ôl (golau tu ôl) ACTORION Deialog Gwisg Colur Ystumiau

  3. Defnyddio technegau ffilm Ysgrifennwch olygfa’n dangos y dieithryn yn ymosod ar Alma. Cofiwch roi sylw manwl i’r gynulleidfa. Byddant yn disgwyl golygfa ddramatig ac mae’n bwysig bod modd cyfleu’r hyn sydd yn eich cyfarwyddiadau.

  4. Asesu • Darllenwch yr enghraifft ar y sleid nesaf. Ar gopi caled, anodwch y gwaith gyda sylwadau. Tynnwch sylw at unrhyw wendidau ac ystyriwch pa gyngor fyddech yn ei roi i’r disgybl hwn. • Yna, ewch yn ôl at eich gwaith chi gan ystyried a oes modd ei wella.

  5. GOLYGFA 3 Lleoliad: Stryd Bute Amser: Presennol. 11y.h. Cymeriadau: Alma. Dieithryn. Cawn saethiad llydan o Stryd Bute. Mae pob man yn dywyll fel petai rhywun wedi taflu blanced fawr ddu dros bob man. Gwelwn Alma yn cerdded lawr y stryd, mae hi’n gyrru neges destun i ffrind i ddiolch iddi am ddod i helpu i fwydo’r cardotwyr yn y dociau. Yn sydyn mae hi’n clywed sŵn traed tu ôl iddi. Cawn saethiad o’r dieithryn yn dilyn Alma, mae’n gwisgo jîns a chrys-T blêr a chap pêl fas sy’n gorchuddio ei lygaid. Mae cerddoriaeth yn cychwyn yn y cefndir. Saethiad agos o Alma’n dal i gerdded, mae hi’n poeni ac yn meddwl beth yw cymhellion y dieithryn. Alma: He won’t do anything. He’s not going to hurt me. Saethiad o’r dieithryn yn ymosod ar Alma. Mae’n ei tharo yn ei hwyneb a gafael yn ei bag. Dieithryn: Rho dy fag i fi! Alma: Na plîs paid, rwyt ti’n edrych yn ddyn mor neis .....Aw! Gwelir saethiad o’r dyn yn rhedeg ffwrdd gyda bag Alma ac Alma yn gorwedd yn llonydd. Clywir ac yna gwelir ambiwlans yn dod lawr y stryd. Saethiad agos o Alma’n crio.

  6. Golau? E.e. Stryd? Cawn saethiad llydan o Stryd Bute. Mae pob man yn dywyll fel petai rhywun wedi taflu blanced fawr ddu dros bob man. Gwelwn Alma yn cerdded lawr y stryd, mae hi’n gyrru neges destun i ffrind i ddiolch iddi am ddod i helpu i fwydo’r cardotwyr yn y dociau. Yn sydyn mae hi’n clywed sŵn traed tu ôl iddi. Cawn saethiad o’r dieithryn yn dilyn Alma, mae o’n gwisgo jîns a chrys-T blêr a chap pêl fas sy’n gorchuddio ei lygaid. Mae cerddoriaeth yn cychwyn yn y cefndir. Saethiad agos o Alma’n dal i gerdded, mae hi’n poeni ac yn meddwl beth yw cymhellion y dieithryn. Alma: He won’t do anything. He’s not going to hurt me. Saethiad o’r dieithryn yn ymosod ar Alma. Mae’n ei tharo yn ei hwyneb a gafael yn ei bag. Dieithryn: Rho dy fag i fi! Alma: Na plîs paid, rwyt ti’n edrych yn ddyn mor neis .....Aw! Gwelir saethiad o’r dyn yn rhedeg ffwrdd gyda bag Alma ac Alma yn gorwedd yn llonydd. Clywir ac yna gwelir ambiwlans yn dod lawr y stryd. Saethiad agos o Alma’n crio. Dim angen bod yn greadigol Sut saethiad fydd yn dangos hyn? Ydyn ni’n gweld y neges? Sut Saethiad? Sut gerddoriaeth? Sut wyt ti am gyfleu hyn i’r gynulleidfa? Paid byth copïo deialog o’r testun! Gwell defnyddio Cymraeg. Ydi’r ddeialog yn ddigon naturiol? Oes angen deialog o gwbl yma? Fyddai’r ambiwlans yn cyrraedd mor fuan? Elli di feddwl am ddiweddglo mwy dramatig?

More Related