90 likes | 260 Views
Uned 1. Cefndir. Defnyddia Gareth Miles dri phrif gymeriad y ffilm sef Branwen, Kevin a Mathonwy, sy’n perthyn i’r un teulu, i gynrychioli brwydro mewn tair gwlad sef Iwerddon, Cymru a Bosnia.
E N D
Uned 1 Cefndir Defnyddia Gareth Miles dri phrif gymeriad y ffilm sef Branwen, Kevin a Mathonwy, sy’n perthyn i’r un teulu, i gynrychioli brwydro mewn tair gwlad sef Iwerddon, Cymru a Bosnia. Ar y tudalennau canlynol fe welwch luniau llonydd ac ambell ddyfyniad sy’n cyfleu’r gwrthdaro a’r cefndir hanesyddol. Gallwch wneud ychydig o waith ymchwil pellach i sefyllfa drasig Iwerddon, y rhyfela gwaedlyd ym Mosnia, grŵp protest Cymdeithas yr iaith yn y 60au a’r 70au a chyfnod llosgi tai ha’.
Iwerddon Beth ydi arwyddocâd lliwiau’r faner? Ystyr y lliwiau Gwyrdd : Traddodiad Gweriniaethol/Catholigion Oren: Traddodiad Unoliaethol/Protestaniaid Gwyn: Cymodi
Beth ydi arwyddocâd y rhaniad a ddangosir ar y map? ‘Fe ddaw y dydd, pryd yr unir Iwerddon. Mae’r IRA, y Llywodraeth a’r Teyrngarwyr i gyd yn euog o gyflawni erchyllterau yng Ngogledd Iwerddon ond dim ond y Llywodraeth all dorri’r cylch cythreulig.’ (Kevin) Gogledd Iwerddon, rhan o’r wladwriaeth Brydeinig - Unoliaethwyr Gweriniaeth Iwerddon - Gweriniaethwyr
Palmant yn ardal Brotestanaidd Shankill Road wedi’i beintio yn lliwiau Jac yr Undeb. Protestwr Gweriniaethol wedi’i saethu yn ystod gorymdaith hawliau sifil Bloody Sunday 1972 http://www.flickr.com/photos/qbix08/3043819558
Baneri taleithiau Iwerddon Sylwch ar rai o’r baneri hyn yn yr orymdaith agoriadol yn y ffilm. http://www.flickr.com/photos/24842486@N07/3442884589/ Baner Hawliau Sifil http://www.flickr.com/photos/90904124@N00/2892139860/
Cymru ‘Mae ‘na frwydr werth ei hymladd yng Nghymru hefyd Branwen.’ (Kevin) ‘Dw i isho gneud rwbath. Faint o bobol Cymru sydd wir yn fodlon cwffio drosti?’ (Branwen) ‘What has pasifism ever done for Wales? A cheir llefaru’r geiriau, ‘Look how far we’ve had to go. But it’s a price worth paying for.’ Llun trwy garedigrwydd Casglu’r Tlysau - Culturenet Ben Bore (Rhys)'s photostream http://www.flickr.com/photos/benbore/105270463/ Mudiad Cymdeithas yr Iaith yn protestio yn y 60au. Ymgyrch Deddf Iaith NewyddCymdeithas yr Iaith.
Bosnia - Rhaniadau Ethnig Gwyrdd: traddodiad MwslemaiddCoch: traddodiad Serbaidd Melyn: traddodiad CroasaiddGwyn: dim mwyafrif ethnig Prydain yn rhan o luoedd heddwch Y Cenhedloedd Unedig Perry-Castañeda Library Map Collection
TrafodaethGrŵp • Erbynhynrydychyngyfarwyddâ’rcefndirhanesyddol. • Ar sail eichgwaithymchwilunigolceisiwchgrynhoiyneichgrwpffeithiauperthnasol am gefndirhanesyddolGogleddIwerddon a bwriadaumudiadauprotestiomegisCymdeithas yr Iaith. Cyflwynwcheichgwybodaethiweddill y dosbarth. Amser: 10 munud. • Cynichwiastudio’rffilmynfanwlbethdybiwch chi ywbwriad Gareth Miles wrthymdrin â chenedlaetholdeb? • Dywed John Lennon yneigân Imagine – ‘dychmygwchfydhebgrefydd’. Ai crefydd sydd wrth wraidd trafferthion Iwerddon a Bosnia? • Defnyddiwch yr eirfai’chhelpuwrthdrafod: • Geirfa:Unoliaethwyr, Gweriniaethwyr, banerJac yr Undeb, GogleddIwerddon, Catholigion, Protestaniaid, Cymdeithas yr Iaith, y fyddinBrydeinig, cenedlaetholwyr, annibyniaeth, cenedl, cenedlaetholdebdreisgar, Cymry, Gwyddelod, teyrngarwyr, IRA, UDA, crefydd, diwylliant, iaith, rhyfel, terfysgaeth, gwrthdaro, cymod.
Meini Prawf Asesu: • Crynhoi ffeithiau perthnasol yn glir • Cyfiawnhau eich barn gan ddefnyddio tystiolaeth • Cydadweithio’n hyderus • Defnyddio geirfa briodol