190 likes | 421 Views
Tro trwy’r tymhorau. Yr Haf. Lluniau: Alun Williams. Yr Haf. Mae’r gwenoliaid cyntaf yn cyrraedd Cymru tua canol mis Ebrill ac erbyn diwedd mis Mehefin mae’r cywion ifanc yn barod i adael y nyth. 11. Gwyddau bach. Cyw Titw Tomos Las. 12. Lili’r Wyddfa
E N D
Tro trwy’r tymhorau Yr Haf Lluniau: Alun Williams
Yr Haf Mae’r gwenoliaid cyntaf yn cyrraedd Cymru tua canol mis Ebrill ac erbyn diwedd mis Mehefin mae’r cywion ifanc yn barod i adael y nyth. 11
Lili’r Wyddfa Mae Lili’rWyddfa yn flodyn prin iawn. Mae i’w gweld mewn ambell lecyn anghysbell ar fynyddoedd Eryri. Enw arall arno yw Brwynddail y Mynydd 13
Pabi gwyllt. Mae’r Pabi Coch ar ei orau tua canol haf, ac i’w weld yn aml ar ymyl ffyrdd lle mae’r pridd newydd gael ei droi. Gwers – Ffeil: Blodyn 14
Tegeirian brych a tegeirian y gwenyn. Mae mwy na 25,000 o wahanol degeiriannau yn y Byd . Mae tua 49 o wahanol rywogaethau ym Mhrydain a tua 30 o wahanol rywogaethau yng Nghymru. Mae blodau melfed Tegeirian y Gwenyn yn edrych fel gwenyn. Gall gwenyn gwrywaidd gamgymeryd y blodyn am wenyn benywaidd, glanio arno ac yn ddamweiniol helpu i beillio y planhigion. 15
Carlwm Cigysydd yw’r carlwm, mae i’w weld yn amlach yn gynnar yn yr haf pan fydd y rhieni yn bwydo’r rhai ifanc. Gwers – Ffeil: Cadwyn Fwyd 16
Porthor 18
Peunog 19
Mantell Goch 20
Brych y Coed 22
Glöynnod byw a blodau Mae blodau yn rhoi bwyd ar ffurf neithder i’r gloynnod byw ac mae’r gloynnod yn eu tro yn peillio y blodau trwy godi a chludo paill yn ddamweiniol. 23 Iâr Fach Felen
Planhigion sydd yn bwyta anifeiliaid . Mae planhigion pryfysol yn weddol gyffredin yng Nghymru lle mae tir mawnog gwlyb. Maent yn gallu dal pryfed sydd yn rhoi maetholynnau iddynt, nid yw’r maetholynnau yma ar gael o bridd gwael yr ucheldir. Chwys yr Haul 24
Gellir gweld Palod yn yr haf yn nythu ar rai o glogwyni Cymru. Dau le da i weld Palod yw Ynys Sgomer ac Ynys Lawd, Caergybi. 25
MORLOI Mae’n bosibl gweld morloi ar arfordir Cymru, maent yn rhoi genedigaeth i rai bach tua diwedd Mehefin. 26
Mursen Pryfed lliwgar iawn yw’r mursenod a gweision y nadroedd, mae ganddynt adain tryloyw, treuliant yr haf yn hedfan dros nentydd a phyllau yn chwilio am fwyd. Llun agos i ddangos llygaid gwas y neidr, gallant weld i bob cyfeiriad yr un amser. Gwas y Neidr 27
Gwenynod yn peillio lafant. Gwers – Ffeil: Cylch Planhigyn 28