60 likes | 237 Views
DERBYN A DANFON E-BOST. Atodiad, Llyfr Cyfeiriadau a Ffolderi. Templed o lythyr i efeillio dosbarthiadau ar ffurf e-bostllythyr efeillio - e-bost.doc. Derbyn E-bost. Pan ddaw neges i’ch mewnflwch, rhaid penderfynu a yw’r neges yn addas ar eich cyfer.
E N D
DERBYN A DANFON E-BOST Atodiad, Llyfr Cyfeiriadau a Ffolderi Templed o lythyr i efeillio dosbarthiadau ar ffurf e-bostllythyr efeillio - e-bost.doc
Derbyn E-bost Pan ddaw neges i’ch mewnflwch, rhaid penderfynu a yw’r neges yn addas ar eich cyfer. Os ydych yn amau cynnwys yr e-bost, rhaid dileu’r neges cyn ei hagor. Dwedwch wrth athro os oes negeseuon anaddas yn eich cyrraedd.
Derbyn E-bost 1. Agorwch eich meddalwedd. 2. Bydd unrhyw negeseuon newydd yn eich mewnflwch. 3. Sicrhewch fod y neges yn un derbyniol. 4. Cliciwch ar y neges i’w hagor.
Anfon E-bost 1. Agorwch eich meddalwedd. 2. Cliciwch ar “greu” (“create”) i ddechrau ysgrifennu’r neges. 3. Nodwch gyfeiriad y person sy’n derbyn eich neges. 4. Nodwch destun eich neges yn “subject”. 5. Ysgrifennwch a gwiriwch eich neges. 6. Cliciwch ar “send” i anfon y neges. SYNIADAU AR GYFER ANFON E-BOST : Word Doc.
Cynnwys Atodiad Mae ychwanegu ffeiliau at eich e-bost yn syml. e.e. Dogfen Word, Publisher, PowerPoint, ffeil sain, lluniau digidol ayyb. Dechreuwch ysgrifennu’r e-bost, ond cyn anfon y neges:- cliciwch ar “attachments”, yna “Browse” a chwiliwch am y ffeil iawn. Fe fydd y ddogfen yn mynd gyda’r e-bost.
Llyfr Cyfeiriadau a Ffolderi I gofio cyfeiriadau’r holl bobl hoffech chi gysylltu â nhw eto, defnyddiwch y llyfr cyfeiriadau. (address book) Gallwch gadw a threfnu unrhyw bost pwysig mewn ffolderi.