290 likes | 498 Views
Rheoli’r Ystafell Ddosbarth yn Effeithiol. Gweithiwch mewn grwpiau o ddau neu dri. 5 munud: O’r profiad addysgu a gawsoch hyd yma, rhestrwch y pethau yr ydych wedi’u cael yn anodd eu rheoli yn yr ystafell ddosbarth :. Beth mae Rheoli Effeithiol yn yr Ystafell Ddosbarth yn ei olygu?.
E N D
Gweithiwch mewn grwpiau o ddau neu dri 5 munud: • O’r profiad addysgu a gawsoch hyd yma, rhestrwch y pethau yr ydych wedi’u cael yn anodd eu rheoli yn yr ystafell ddosbarth:
Beth mae Rheoli Effeithiol yn yr Ystafell Ddosbarth yn ei olygu? • Bod â pherthynas dda â’ch disgyblion • Bod â disgwyliadau uchel • Gwneud yn siŵr eich bod chi a’ch disgyblion yn gwybod pa ymddygiad i’w ddisgwyl • Sut mae defnyddio canmoliaeth i gael ymddygiad da • Gwersi wedi’u cynllunio’n dda • P’un a ydych yn symud o gwmpas y dosbarth ai peidio • Pa mor hyderus rydych yn ymateb i ymddygiad disgyblion • Eich ymddygiad a sut rydych chi’n edrych
1. Bod â pherthynas dda â’ch disgyblion Meddyliwch – pa athrawon roeddech chi’n eu hoffi fwyaf? • Pe bydden nhw wedi dweud wrthych chi i wneud rhywbeth fyddai ots gennych chi? • Fyddech chi wedi ufuddhau ar unwaith i athro nad oedd, yn eich barn chi, yn eich hoffi? • Mae teimlo’n rhan o ddosbarth yn eich gwneud chi’n fwy parod i ddilyn cyfarwyddiadau
Un ffordd o wneud i ddisgyblion deimlo eu bod nhw’n rhan o ddosbarth yw’n hiaith vs Am mai pwrpas bod gyda’ch gilydd mewn ystafell ddosbarth yw addysgu a dysgu effeithiol, mae iaith sy’n cyfleu “cydweithio” yn fwy effeithiol Chi Ni
2. Disgwyliadau uchel Astudiaeth Rosenthal a Jacobson (1968) “Pygmalion in the Classroom” Ar gyfer yr astudiaeth Pygmalion wreiddiol cafodd athrawon wybodaeth ffug am botensial dysgu rhai disgyblion cynradd mewn ysgol elfennol yn San Francisco. Dywedwyd wrth yr athrawon fod y disgyblion hyn wedi cael eu profi a’u bod ar drothwy cyfnod o dwf deallusol sydyn iawn. Mewn gwirionedd roedd y disgyblion wedi cael eu dewis ar hap. Ar ddiwedd yr arbrawf, dangosodd rhai o’r disgyblion berfformiad llawer yn well ar brofion IQ, ac roedden nhw wedi perfformio’n well nag a fyddai wedi disgwyl iddyn nhw wneud heb ymyrraeth. Y casgliad oedd fod disgwyliadau’r athrawon wedi achosi i’r disgyblion gyflawni llawer mwy.
3. Yr ymddygiad a ddisgwylir – gwybod beth rydych chi ei eisiau! Ystyriwch • Sut mae’ch disgyblion yn cyrraedd? • Ble maen nhw’n eistedd? • Sut mae cael eu sylw ? • Sut rydych chi’n ymateb i ymddygiad annerbyniol?
CYNLLUNIO YW’R ALLWEDD • Dod i mewn yn afreolus? • Sefyll mewn rhes? • Ydych chi’n dod i mewn gyda nhw neu...? • Ydych chi yno i’w cyfarch?
Defnyddio cynlluniau eistedd Gall cynlluniau eistedd fod yn ddefnyddiol iawn i: • gymysgu grwpiau o allu • cynllunio ar gyfer cymorth gan gymheiriaid • atal unigolion rhag cael eu gwrthod neu eu hynysu • siapio rhyngweithio disgybl i ddisgybl • sicrhau parau o wahanol rywiau Symud yn rheolaidd o gylch y dosbarth Parau twba lwcus Rhifau ar fyrddau
4. Canmoliaeth a chydnabyddiaeth • Bydd canmoliaeth a chydnabyddiaeth go-iawn, ystyrlon a chadarnhaol am ymdrech yn gwneud hinsawdd y dosbarth yn fwy cadarnhaol
5. Cynllunio gwers Mae dechrau gwersi yn hollbwysig Gweithgareddau i ddechrau Oedd eich esboniad yn effeithiol? Cyflymder, cyflwyniad a momentwm Rheoli’r symud o un peth i’r llall Cloi yn effeithiol/dod â phawb at ei gilydd
6. Symud o gwmpas yr ystafell ddosbarth • Mae rhai athrawon yn cyfyngu ar eu defnydd o le drwy weithio wrth eu desg neu o’r ffrynt • Gyda chydweithiwr, meddyliwch: • Pam ei bod yn bwysig symud o gwmpas yr ystafell?
Sganio a disgwyliadau • Mae’r rhan fwyaf o broblemau ymddygiad yn dechrau gydag ymddygiad bach ar ôl crwydro o’r dasg, sydd wedyn yn gwaethygu. • Drwy sganio’r dosbarth, mae’n haws gweld y rheini sy’n crwydro o’r dasg neu sy’n dechrau camymddwyn. • Mae sganio’n aml yn fwy effeithiol pan fydd athrawon yn symud o gwmpas y dosbarth. • Mae symud o gwmpas y dosbarth hefyd yn gyfle i ni ganmol y rhai sy’n dal i weithio ar y dasg
7. Ymateb yn hyderus i ymddygiad disgyblion Awdurdod Tawel?
Defnyddio ysgogiadau • Ysgogiadau cadarnhaol cyffredinol
Defnyddio ysgogiadau • Canmol yr hyn sy’n digwydd o gwmpas
Defnyddio ysgogiadau • Rhybuddio
Defnyddio ysgogiadau • Gwneud cais cyffredinol
Defnyddio ysgogiadau • Atgoffa am y rheolau
Beth sy’n bod ar hwn? • PEIDIWCH Â MEDDWL AM ELIFFANT...
Ailgyfeirio at y dasg Pan fydd rhywbeth yn digwydd – naill ai yn y dosbarth neu’r tu allan iddo – mae hynny’n tynnu sylw’r disgyblion • Cydnabyddwch y digwyddiad • Ailgyfeiriwch y grŵp yn ôl i’r dasg
8. Eich ymddygiad a sut rydych chi’n edrych • Sut rydych chi am edrych? Yn galed a llym / meddal a charedig / cynnes ac agored? • Cofiwch: • Ymarweddiad Ystum eich wyneb • Ystum Eich dewis o eiriau
Y ffordd rydyn ni’n ymddwyn Os bydd athrawon yn ymddwyn mewn ffordd ymosodol neu amharchus, bydd eu disgyblion hefyd, fwy na thebyg, yn ymddwyn yn yr un modd. (Arbrawf Albert Bandura)
AMSER EGWYL Y TRO NESAF… byddwn ni’n edrych ar ffiniau effeithiol