190 likes | 369 Views
GWERSI RWYF WEDI EU DYSGU. Rwyf wedi dysgu bod yr ystafell ddosbarth orau yn y byd wrth droed person hŷn. Rwyf wedi dysgu mai plentyn yn mynd i gysgu yn eich breichiau yw un o'r profiadau mwyaf heddychol yn y byd. Rwyf wedi dysgu na ddylech fyth wrthod anrheg gan blentyn.
E N D
Rwyf wedi dysgu bod yr ystafell ddosbarth orau yn y byd wrth droed person hŷn.
Rwyf wedi dysgu mai plentyn yn mynd i gysgu yn eich breichiau yw un o'r profiadau mwyaf heddychol yn y byd.
Rwyf wedi dysgu y gallaf weddïo dros rywun bob amser pan nad yw'r nerth gennyf i'w helpu mewn rhyw ffordd arall.
Rwyf wedi dysgu bod angen ffrind ar bawb i fod yn wirion gyda nhw, ni waeth pa mor ddifrifol y mae'n rhaid bod mewn bywyd.
Rwyf wedi dysgu mai'r cyfan sydd ei angen ar berson weithiau yw llaw i gydio ynddi a chalon i ddeall.
Rwyf wedi dysgu y dylem fod yn falch nad yw Duw yn rhoi'r cyfan rydym yn gofyn amdano i ni.
Rwyf wedi dysgu mai pethau bach bob dydd sy'n gwneud bywyd mor ysblennydd.
Rwyf wedi dysgu bod pawb am gael ei werthfawrogi a'i garu o dan ei gragen galed.
Rwyf wedi dysgu na wnaeth yr Arglwydd y cyfan mewn diwrnod, felly pam ddylwn i gredu y gallaf i?
Rwyf wedi dysgu mai cariad, nid amser, sy'n iacháu pob clwyf.
Rwyf wedi dysgu y gallwch godi calon rhywun drwy anfon nodyn atynt.
Rwyf wedi dysgu bod caredigrwydd yn bwysicach na bod yn gywir.
Rwyf wedi dysgu y byddwch yn gweld eisiau eich rhieni pan fyddant wedi gadael eich bywyd, beth bynnag yw eich perthynas.
Rwyf wedi dysgu bod pawb rydych yn cwrdd â nhw yn haeddu gwên.