200 likes | 419 Views
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEG RHAGLEN AGAPE. Rhaglen Genhadol i eglwysi’r Undeb gyda chefnogaeth ariannol CYNGOR Y GENHADAETH FYDEANG. RHAGLEN AGAPE.
E N D
UNDEB YR ANNIBYNWYR CYMRAEGRHAGLEN AGAPE Rhaglen Genhadol i eglwysi’r Undeb gyda chefnogaeth ariannol CYNGOR Y GENHADAETH FYDEANG
RHAGLEN AGAPE • ‘Rhoddwyd i mi’, meddai Iesu, ‘bob awdurdod yn y nef ac ar y ddaear. Ewch, gan hynny, a gwnewch ddisgyblion o’r holl genhedloedd, gan eu bedyddio yn enw’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân, a dysgu iddynt gadw’r holl orchmynion a roddais i chwi. Ac yn awr, yr wyf fi gyda chwi yn wastad hyd ddiwedd amser’ Mathew 28:18-20 (Y Comisiwn Mawr)
RHAGLEN AGAPE • A dywedodd Iesu wrthynt, ‘Ewch i’r holl fyd a phregethwch yr Efengyl i’r greadigaeth i gyd’... Ac aethant hwy allan a phregethu ym mhob man, a’r Arglwydd yn cydweithio â hwy ac yn cadarnhau’r gair trwy’r arwyddion oedd yn dilyn.’ Marc 16:15 ac 20
RHAGLEN AGAPE • ‘Fe dderbyniwch nerth wedi i’r Ysbryd Glân ddod arnoch, a byddwch yn dystion i mi...’ Actau 1:8 • A phob dydd yn y deml ac yn eu tai, nid oeddent yn peidio â dysgu a chyhoeddi’r newydd da am y Meseia, Iesu. Actau 5:42
RHAGLEN AGAPE • ‘Ar sail ffydd yn enw Iesu y cyfnerthwyd y dyn yma yr ydych yn ei weld ac yn ei adnabod... Edifarhewch, ynteu, a throwch at Dduw, er mwyn dileu eich pechodau. Felly y daw oddi wrth yr Arglwydd dymhorau adnewyddiad...’ Actau 3:16 ac 19
RHAGLEN AGAPE • Panel y Rhaglen Agape: Euros Wyn Jones, Hefin Jones, Ann Williams, Geraint Tudur (Cadeirydd), Dewi Myrddin Hughes, Noel Davies, Neville Hughes
RHAGLEN AGAPE A yw ADDYSG Yr ydym am hybu ADDYSG, ymhlith gweinidogion a phobl leyg; addysg breswyl ac addysg o bell; addysg benodol Gristnogol ac am ein cyfrifoldeb i eraill ac i’r cread. • Beth yw anghenion addysg a hyfforddiant yn eich eglwys/ardal chi?A fyddai’n bosibl dechrau dosbarth neu gylch beiblaidd newydd?
RHAGLEN AGAPE Bydd dau berson yn gyfrifol am hyfforddiant, drwy’r Undeb a Choleg yr Annibynwyr, un yn y Gogledd (yn gweithio o Fangor) a’r llall yn y De (yn gweithio o Goleg y Drindod, Caerfyrddin) Y Parchg. Euros Wyn Jones, Cyfarwyddwr Hyfforddi a Chydlynydd y Gogledd
RHAGLEN AGAPE Penodwyd y Parchg Ddr Noel A. Davies, Abertawe, i fod yn Gydlynydd Hyfforddi yn y De, i weithio o Goleg y Drindod, Caerfyrddin
RHAGLEN AGAPE G yw GWEINIDOGAETH Yr ydym yn mawrygu traddodiad y weinidogaeth yn ein plith ond yn gweld yr angen i addasu a datblygu... gyda’r symud a ddigwyddodd o ysgolheictod i’r ymarferol ac o yrfa am oes at wasanaeth rhan-amser neu fel rhan o yrfa yn unig. • Pa batrymau gwahanol o weinidogaeth sy’n bosibl yn eich eglwys/ardal chi?
RHAGLEN AGAPE A yw ARWEINYDDIAETH Gyda llawer o’n heglwysi’n dioddef o ddiffyg arweiniad... yr ydym am weld to o arweinwyr lleol o bob oed yn codi, a thrwy hynny wneud gwahaniaeth i’n sefyllfa a gloywi ein tystiolaeth ar hyd a lled y wlad. • Pwy allai fod yn arweinwyr newydd yn eich eglwys/ardal chi?
RHAGLEN AGAPE P yw PROSIECTAU Nid cymunedau llonydd yw eglwysi i fod ond pobl Dduw ar waith yn gwasanaethu eu Harglwydd yn y byd. Dyma gyfle i newid pethau a chael eglwysi i lunio prosiectau fydd yn cyffwrdd â chymaint o themâu fydd o wasanaeth i’n cymdogaethau ni. • Beth yw anghenion eich ardal? Pa brosiectau sy’n bosibl? Pwy fyddai’ch partneriaid?
RHAGLEN AGAPE E yw EFFEITHIOLRWYDD Mae angen inni fod yn fwy effeithiol, yn ein cenhadaeth, yn ein gweithgarwch, yn ein cyfathrebu â’n gilydd, yn ein gofal am y cread ac yn ein defnydd o arian. • Beth yw mannau gwan eich eglwys chi? Beth fyddai’n ei gwneud yn fwy effeithiol? Beth yw’r cam cyntaf i’w gymryd ’nawr?
RHAGLEN AGAPE • Bydd y Rhaglen Agape yn cynnig • Ysbrydoliaeth a fydd yn bywhau ac adnewyddu’r eglwysi yn nerth yr Ysbryd. • Gweledigaeth o’r hyn sydd ei angen a’r hyn SYDD YN BOSIBL yn y Gymru gyfoes drwy’r eglwysi ar waethaf – neu, efallai, trwy - eu gwendid. • Syniadau amrywiol a chreadigol am ffyrdd o dystio sydd eisoes yn gweithio’n effeithiol yma ac mewn rhannau eraill o’r byd. • Pobl fydd ar gael i sbarduno, i gymell, i gynghori, i hyfforddi, ac i gerdded ochr yn ochr â ni. • Adnoddau amrywiol fydd yn rhoi deunydd creadigol, cyngor ac arweiniad inni. • Yn olaf, - ac nid yn gyntaf! - cymorth ariannol i helpu talu am y gweithgareddau hyn.
RHAGLEN AGAPE • Bu cydweithio agos rhwng panel yr Undeb a phanel Eglwys Bresbyteraidd Cymru
RHAGLEN AGAPE Penodwyd y Parchg Meirion Morris, Llansannan, yn Ysgogydd Rhaglen Agape
RHAGLEN AGAPE “Yn y tair blynedd nesaf nid oes amser i’w wastraffu. Mae’n rhaid bwrw iddi a chael y maen i’r wal.” Geraint Tudur
RHAGLEN AGAPE AADDYSG G GWEINIDOGAETH A ARWEINYDDIAETH P PROSIECTAU E EFFEITHIOLRWYDD
RHAGLEN AGAPE • YstyrAGAPE yw CARIAD • CARIAD yw Rhaglen Genhadol Duw yn Iesu • Rhaglen CARIAD aberthol Duw ar waith yw AGAPE “Do, carodd Duw y byd gymaint fel y rhoddodd ei unig Fab...” “Carwch eich gilydd fel y cerais i chwi...” • Ein braint ni yw cael ymuno yn y rhaglen hon
RHAGLEN AGAPE GWEDDI’R RHAGLEN Dduw pob cariad, clodforwn di am ein galw ni i rannu yng nghenhadaeth gyffrous dy gariad yn ein dyddiau ni. Boed i ARWEINIAD dy Ysbryd ein cymhwyso, wrth inni gyflawni ein GWEINIDOGAETH a’n cenhadaeth yn y byd. ADDYSGA ni, fel y byddwn yn ddisgyblion mwy fyddlon i Iesu Grist a rho inni awydd dwfn i gyflawni PROSIECTtosturi a chyfiawnder ei deyrnas ef yn ein cymdogaeth, fel y gallwn fod yn dystion mwy EFFEITHIOL i newyddion da Iesu Grist yng Nghymru heddiw. Arglwydd, bywha, adnewydda ac ailadeilada ni, dy bobl yma yng Nghymru, i fod, drwy dy ras, yn bobl addas i’th wasanaethu, er dy glod a’th ogoniant, Dduw Dad, Mab ac Ysbryd Glân. Amen.