210 likes | 340 Views
Defnyddio llyfrau’n effeithiol engreifftiau o 3 maes pwnc – Cemeg, Saesneg a’r Gwyddorau Cymdeithas.
E N D
Defnyddio llyfrau’n effeithiol engreifftiau o 3 maes pwnc – Cemeg, Saesneg a’r Gwyddorau Cymdeithas.
Os ydych yn astudio Cemeg, ac yn chwilio am wybodaeth ar “gynhyrchion naturiol”, mae’n bosib na chewch chi o hyd i’r llyfr hwn wrth chwilio’r catalog – ond er gwaethaf hynny, mae’r llyfr yn cynnwys gwybodaeth hynod o ddefnyddiol.
Cewch fod y tabl yn ddefnyddiol o ran dehongli data sbectrometreg masau.
Mae’r dudalen gynnwys ar flaen y llyfr yn rhestru penodau’r llyfr. Mae Pennod 13, ar Gymeriadaeth Foleciwlaidd, yn debygol o gynnwys technegau ar gyfer cymeriadu cemegau, yn cynnwys cynhyrchion naturiol.
Mae’r rhan hon yn manylu cynnwys y penodau. Mae’r saith yn cyfeirio at y rhan o Bennod 13 sy’n ymdrîn â sbectrometreg masau, a sydd yn darparu data defnyddiol.
Mae’r mynegai ar gefn y llyfr yn eich galluogi i chwilio am gynyrchion arbennig sy’n cael eu cynnwys yn y llyfr
Llun wedi ei chwyddo o’r mynegai, sy’n dangos y tudalennau lle mae “Aspirin” yn cael ei grybwyll
Dyma un o’r tudalennau rydych yn cael eich cyfeirio atynt yn y mynegai, sy’n cynnwys damcaniaethau defnyddiol, yn ogystal â syniadau ynglyn â dehongli’r spectra.
Os ydych yn astudio Saesneg, ni chewch chi o hyd i’r llyfrau hyn wrth chwilio’r catalog am “Chaucer,” gan eu bod nhw’n ymdrin â llenyddiaeth Saesneg yn gyffredinol. Er gwaethaf hynny, maent yn debygol o gynnwys dipyn o wybodaeth berthnasol..
Mae’r mynegai ar gefn y llyfr yn rhestri’r tudalennau sy’n crybwyll Chaucer
Dyma’r rhan o’r llyfr, o dudalen 12 ymlaen, sy’n sôn am yr “Canterbury Tales”
Mae’r dudalen gynnwys yn rhestri’r penodau. Mae’r pennod syn ymdrîn a’r Canol Oesoedd yn debygol o fod yn berthnasol os ydych yn astudio Chaucer.
Os ydych yn fyfyriwr sy’n astudio tlodi, mae’n bosib na chewch chi o hyd i’r llyfr hwn wrth chwlio’r catalog am “poverty”. Er gwaethaf hynny, mae’n cynnwys dipyn o wybodaeth ar dlodi..
Mae’r dudaeln gynnwys yn dangos fod Pennod 6 yn cynnwys gwybodaeth am dlodi.
Mae llawer o lyfrau’n cynnwys rhestr o’r tablau sy’n ymddangos yn y llyfr. Mae rhai o’r tablau’n debygol o fod yn berthnasol os ydych yn astudio tlodi.
Mae tablau 7.4 – 7.6 yn debygol o fod yn berthnasol iawn os ydych yn astudio tlodi
Mae ffyrdd gwahanol o ddadansoddi tlodi yn cael eu trafod o dudalen 116 ymlaen