120 likes | 404 Views
Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad. Nadolig ar y Ffrynt. Rhan 2. gan Des Quinn a Martin Williams. 1. 2. 3. 4. 5. 6. Cliciwch ar Gerdyn Nadolig rydych am wybod mwy amdano. Gwaith Estynnol. Gofyn am beth mae’r milwr wrth yr angel cyn y gall fynd ymlaen at y ffosydd?.
E N D
Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad Nadolig ar y Ffrynt Rhan 2 gan Des Quinn a Martin Williams
1. 2. 3. 4. 5. 6. Cliciwch ar Gerdyn Nadolig rydych am wybod mwy amdano. Gwaith Estynnol
Gofyn am beth mae’r milwr wrth yr angel cyn y gall fynd ymlaen at y ffosydd? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Pa gorfflu a gynhyrchodd y cerdyn hwn? Cliciwch yma i weld y tu fewn i’r cerdyn Pam yn eich barn chi roedd catrodau gwahanol yn cynhyrchu eu cardiau eu hunain? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Edrychwch ar y delweddau ar hyd ymylon y cerdyn hwn. Am beth ac am bwy y mae’r milwyr yn meddwl, ac yn teimlo’u colli, wrth iddynt yfed llwncdestun? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Pryd y cafodd y Cerdyn Nadolig hwn ei gynhyrchu a beth mae’n ei ddangos?Pryd mewn gwirionedd y cyrhaeddodd y cerdyn ben ei daith? Pwy yn eich barn chi a gynhyrchodd y cerdyn hwn a beth a’ch helpodd chi i benderfynu? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Beth sy’n gwneud hwn yn Gerdyn Nadolig mor effeithiol i’w anfon o’r ffosydd?Meddyliwch am yr amodau gwirioneddol o gwmpas llawer o’r ffosydd a phwy all fod wedi derbyn y cerdyn hwn. Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Mae’r cerdyn Nadolig hwn yn nodi’r gwledydd a’r ardaloedd y bu’r 4ydd Adran yn rhyfela ynddynt. Beth mae hynny’n ei ddweud wrthych am y balchder a deimlai bob Adran o’r fyddin?Gan ddefnyddio atlas neu fap, ceisiwch gael gwybod ymhle mae pob un o’r ardaloedd ac ym mha wlad y maent? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
O ble daw y geiriau a welir ar y cerdyn post hwn? Am beth mae’r milwr hwn o’r 38ain Adran yn meddwl yn ystod y Nadolig? Cynhyrchwyd y cerdyn post hwn yn 1917 Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
‘Blwch Anrheg y Dywysoges Mary’, Nadolig 1914 Pam yn eich barn chi roedd y Dywysoges Mary eisiau i flychau anrheg gael eu gwneud ar gyfer milwyr Prydain yn 1914? Lansiwyd y cynllun i wneud blychau anrheg i’r milwyr ym mis Hydref 1914 gyda’r bwriad o gyflwyno blwch anrheg i bob un oedd ‘yn gwisgo lifrai’r Brenin ar Ddydd Nadolig’. Roedd y blwch wedi’i wneud o bres gyda phenddelw a blaenlythrennau’r Dywysoges Mary. Ar gyfer ysmygwyr, roedd y tun yn cynnwys pibell, baco, ugain o sigaréts, ffotograff bychan o’r Dywysoges a cherdyn Nadolig. Os nad oeddynt yn ysmygu, roedd y milwyr yn derbyn tun ac ynddo bensel a wnaed ar ffurf bwled (gweler y sleid nesaf).
Roedd Blwch y Dywysoges Mary a welir yma’n cynnwys neges o Longleat. “The Marchioness of Bath has been requested by Colonel Hooke of the 7th Wilts. Regiment to forward to Rte. A.R. Coombes The enclosed gift from H.R.H. Princess Mary.” Edrychwch ar y dyddiad yr anfonwyd y llythyr hwn, a hefyd Flwch y Dywysoges Mary, ar y sleid nesaf. Delwedd trwy garedigrwydd Des Quinn
A barnu o’r dyddiad yr anfonwyd y llythyr hwn, a dderbyniodd pob un o’r milwyr eu hanrhegion Nadolig mewn pryd? Pam yn eich barn chi roedd Ardalyddes Bath yn anfon Blychau’r Dywysoges Mary at filwyr o gatrawd y 7th Wiltshire?