160 likes | 331 Views
Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad. Nadolig ar y Ffrynt. gan Des Quinn a Martin Williams.
E N D
Pwyswch ‘ESC’ unrhyw bryd i stopio’r cyflwyniad Nadolig ar y Ffrynt gan Des Quinn a Martin Williams
Un o ddigwyddiadau enwocaf y Rhyfel Byd Cyntaf oedd y cadoediad a fu ar 25 Rhagfyr 1914. Roedd y digwyddiad hwn, er na welwyd mohono ym mhob rhan o’r Ffrynt Gorllewinol, yn fynegiant o ysbryd y Nadolig ar ran y milwyr, a fu ond ychydig oriau ynghynt yn saethu at ei gilydd ar draws Tir Neb. Fel y dywedodd un milwr wrth ei deulu: “…tra roeddech chi’n bwyta eich twrci, roeddwn i allan yn sgwrsio â’r union ddynion y bûm yn ceisio’u lladd rai oriau ynghynt.” Ar y diwrnod hwnnw bu llawer o filwyr yn cyfnewid anrhegion fel baco, pwdinau Nadolig ac alcohol, yn ogystal â negeseuon ewyllys da. Nid dyma’r unig dro, serch hynny, i gadoediad gael ei alw ar hyd rhannau o’r Ffrynt Gorllewinol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.
Mae’n bwysig cofio bod llawer o filwyr ar y ddwy ochr wedi gorfod treulio hyd at bump o’u gwyliau Nadolig i ffwrdd oddi wrth eu cartrefi a’u hanwyliaid. Gobeithio y bydd yr hanesion a’r delweddau canlynol yn rhoi rhyw syniad i chi o deimladau’r milwyr a’r ffordd roeddynt yn dathlu’r Nadolig yn y ffosydd yn ystod y cyfnod 1914 - 1919. Nadolig 1914 a 1915 Ffynonellau ysgrifenedig Delweddau’r Nadolig Ffynonellau gweledol
1. 2. 3. 6. 4. 5. Cliciwch ar y Cerdyn Nadolig rydych am wybod mwy amdano.
Beth mae’r Tri Brenin yn ei gludo i ffosydd yr Almaenwyr? Cliciwch yma am help. Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Beth mae’r Tri Brenin yn ei gludo i ffosydd yr Almaenwyr? Cliciwch yma am help. Cwmni bisgedi oedd Leibniz, sy’n dal i’w cynhyrchu heddiw! Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Nodwch gymaint ag y gellwch o ddelweddau sy’n ymwneud â rhyfela. Beth a dderbyniodd y milwyr hyn yn eu parseli Nadolig? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Beth yw ystyr y gair Weihnacht? Pam yn eich barn chi mae croes goch i’w gweld gyferbyn â Chroes Haearn yr Almaen ar waelod y cerdyn? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Sut mae milwr y Gymanwlad yn cael ei bortreadu yn y ddelwedd sydd ar y cerdyn hwn? Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Beth mae’r cerdyn post yn ei ddangos? Nodwch rai o ddelweddau’r Nadolig a rhai o ddelweddau’r ffosydd. Cerdyn trwy garedigrwydd Des Quinn
Pam yn eich barn chi fod hwn yn gerdyn Nadolig rhyfedd i’r milwyr ei anfon gartref o’r Ffrynt? Beth mae hynny’n ei ddweud wrthych am amodau byw ac amodau ymladd y milwyr yng nghyfnod cynharaf y rhyfel? Cerdyn trwy garedigrwydd M. Williams
Profiadau Cadarnhaol Profiadau Negyddol Ffotograff trwy garedigrwydd Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen
Dechreuodd Cadoediad y Nadolig, yn y lleoedd hynny y digwyddodd, ar amserau gwahanol mewn lleoedd gwahanol. Achosodd hynny gryn ddryswch a dyna efallai’r rheswm pam y cafodd llawer o filwyr eu saethu’n ddamweiniol. Roedd Capten C. I. Stockwell o 2il Gatrawd y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig yn cofio fel y dechreuodd cadoediad 1914 wedi amser cinio ar hyd rhan o dir neb ger Houplines. “Rhedais i mewn i’r ffos a gwelais fod pob un o’r milwyr yn dal eu reifflau’n barod ar y parapet, ac roedd gwŷr Sacsoni (yr Almaenwyr) yn gweiddi, ‘Peidiwch â saethu. Ry’n ni ddim eisiau ymladd heddiw. Fe wnawn anfon tipyn o gwrw i chi’. Doedden ni ddim eisiau tanio atynt gan nad oedd arfau gan neb ohonyn nhw … Roedd pob un o’n milwyr ni’n sgwrsio a dweud, ‘Mae’r Capten am fynd i siarad â nhw’ . Aethon ni atyn nhw a saliwtio’n ffurfiol. Cyflwynodd ei hun fel y Cownt Rhywbeth neu’i gilydd, ac roedd yn ymddangos yn fachan dymunol iawn.” Dyfyniad gan y Capten C. I. Stockwell, yn Christmas Truce, gan Malcolm Brown a Shirley Seaton (Pan, 1984)
“Mae’r Almaenwyr yn rhannu sigârs a darnau o sosej, ‘sauerkraut’ a choffi cryf, a ninnau sigaréts a bwli biff, bisgedi dognedd a baco. Trwy bwyntio ac arwyddo, maent yn mynegi cydedmygedd. Ein gwasgodau lledr a’n cotiau glaw llaes oedd yn tynnu eu sylw; a’u hoferôls arbennig ar gyfer y ffosydd, a wnaed o gynfas bras, a dynnai ein sylw ni. Ry’n ni’n gweiddi, ‘Helo, Fritz!’; ‘ Bore Da Fritz!’; ‘Nadolig Llawen!’;‘ Happy Christmas!’; ‘Sut mae dy dad?’; ‘ Tyrd draw i’n gweld!’; ‘ Tyrd i gael brecwast’ a phethau felly, tra’n chwerthin dros bob man …” Gofynnodd swyddogion yr Almaenwyr a allent dynnu ffotograffau o filwyr Prydain; pan wrthodwyd eu cais, dyma nhw’n dweud y byddai eu gynnau mawr yn ailddechrau tanio ymhen pum mumud, a dyna’n wir ddigwyddodd. Eto, am gyfnod o bedair awr ar hugain, sef y rhan fwyaf o Ddydd Nadolig 1915, ni thaniodd milwyr y naill ochr na’r llall yr un ergyd at ei gilydd. Dyfyniad gan Wilfred Ewart o’r 1st Scots Guards, yn Christmas Truce gan Malcolm Brown a Shirley Seaton (Pan, 1984)
Saethwyd dau filwr o 2il Gatrawd Sir Fynwy gan gudd saethwyr yr Almaen ar Ddydd Nadolig 1914. O ganlyniad, ni fyddai milwyr y gatrawd hon yn cofio Dydd Nadolig 1914 fel ennyd o heddwch a chyfeillgarwch rhwng gelynion. Roedd amodau’r saethu’n ychwanegu at eu dicter. Saethwyd y Preifat Ernest Palfrey, cyn lowr un ar hugain oed, tra roedd ar ei ffordd yn ôl wedi iddo fod yn claddu cyrff rhai o’i gyd-filwyr. Cafwyd adroddiad yn y South Wales Echo am y digwyddiad, yn ogystal â marwolaeth sarsiant o’r un gatrawd. Gwelir sylwadau o’r papur newydd am farwolaeth y ddau ar y sleid nesaf.
“Roedd cadoediad i fod mewn grym, ond cafodd y Preifat Palfrey fwled yng nghefn ei wddf a’i lladdodd yn y fan a’r lle.” The South Wales Echo Dyma a ddywedodd Sarsiant ‘Blackwood’ Jones, a fu’n chwarae pêl-droed i dîm Pontypŵl cyn y rhyfel, wrth y South Wales Weekly am farwolaeth ei gyd-swyddog. “Es i ag ychydig o faco a jam i’r Almaenwyr. Ond byth eto. Gwnaeth sarsiant arall, ffrind i mi o Drefynwy, yr un fath, ond pan oedd ar ei ffordd yn ôl i’n ffos ni, dyma nhw’n ei saethu yn ei gefn a’i ladd. Syrthiodd i lawr gan ddweud, ‘My God, I’m done.’ Cachgwn llwfr ydyn nhw, ac yntau wedi rhoi baco iddyn nhw.” The South Wales Echo Sylwadau o’r wasg a ddyfynnwyd yn Christmas Truce, gan Malcolm Brown a Shirley Seaton (Pan 1984)