160 likes | 296 Views
MAE HELP AR Y FFORDD. Sawl blwyddyn yn ôl, bu llifogydd ofnadwy a oedd wedi achosi dilyw mewn tref fach mewn dyffryn rhwng dwy afon.Roedd y ddwy afon wedi gorlifo’u glannau a’r glaw yn dal i syrthio. Dechreuodd y dref suddo’n araf a gadawodd pawb ond am un dyn a oedd yn gwrthod gadael ei d ŷ.
E N D
Sawl blwyddyn yn ôl, bu llifogydd ofnadwy a oedd wedi achosi dilyw mewn tref fach mewn dyffryn rhwng dwy afon.Roedd y ddwy afon wedi gorlifo’u glannau a’r glaw yn dal i syrthio. Dechreuodd y dref suddo’n araf a gadawodd pawb ond am un dyn a oedd yn gwrthod gadael ei dŷ.
“Mae gen i ffydd y bydd Duw yn fy achub,” gwaeddodd y dyn ar bawb a oedd yn ymbil arno i adael a ffoi i dir uwch. Credai’r dyn yng ngrym gweddi ac roedd yn ymddiried y byddai Duw’n ei achub ryw ffordd.
Wrth i’r dŵrorchuddio’r ffyrdd fel na allai ceir a cherbydau fynd arnynt, gwaeddodd dyn mewn tryc ato “Dere gyda fi ac fe a i â ti i le diogel! Does dim llawer o amser gen ti.” Ond parhaodd y dyn i weddïo. Nid oedd yn fodlon gadael ei dŷ.
O fewn oriau, roedd y dŵr wedi codi sawl troedfedd gan orchuddio’i dŷ yn gyfan gwbl. Roedd yn dal i fwrw glaw. Dringodd y dyn ar ben ei fwrdd yn y gegin a pharhaodd i weddïo. Wrth i’r dŵr gyrraedd ei draed, daeth cwch hwylio at y dyn. Dyma’r dynion yn gweiddi arno, “Syr, dewch i mewn i’r cwch, byddwn yn eich cludo i le diogel”. “Na” gwaeddodd y dyn “Bydd Duw yn fy achub rhag y dilyw.”
Aeth y dŵr yn ddyfnach ac yn fuan roedd yn rhaid i’r dyn ddringo ar do ei dŷ. Parhaodd i fwrw hen wragedd a ffyn. Tra oedd yn gweddio, clywodd sŵn hofrennyd yn troelli yn yr awyr uwchben. Edrychodd i fyny i weld yr hofrennydd yn hofran uwch ei dŷ. Roedd ysgol wedi ei gollwng o’r hofrennydd er mwyn iddo ddringo i’r hofrennydd.
“Ewch i ffwrdd” gwaeddodd y dyn wrth yr hofrennydd.“Byddwch yn fy chwythu oddi ar fy nho! Bydd Duw yn fy achub! Ewch i achub rhywun arall.” Nid oedd yr hofrennydd yn gallu aros am byth, felly gadawodd y dyn ar y to yn gweddïo.O’r diwedd, roedd y dŵr yn gorchuddio’r tŷ a bu farw’r dyn yn y dilyw.
Pan gyrhaeddodd y dyn gatiau’r nefoedd, gofynnodd i Sant Pedr a allai siarad â Duw ac aeth Pedr ag ef i’w weld.
“O Arglwydd, bum yn gweddïo’n daer am i’r glaw beidio ac i chi fy achub rhag y dilyw ond gadawsoch i mi foddi. Nid wyf yn deall.” “Fy mhlentyn, clywais dy weddi. Anfonais gerbyd, cwch a hofrennydd. Pam yr anfonaist yr help oddi yno?”
Nid yw Duw yn ateb ein gweddïau yn y ffordd rydym yn ei ddisgwyl bob tro. Ond mae’n ateb. Mae Duw yn gweld y llun ehangach a gallwn ymddiried yn y ffaith na fydd yn ein gadael nac yn cefnu arnom. Dylem hefyd gofio bod Duw yn gweithredu trwy bobl gyffredin fel y bobl a oedd yn achub yn y stori. Pan rydym yn cynnig help neu weithredoedd o garedigrwydd i rywun arall, efallai ein bod yn ateb eu gweddïau.