80 likes | 247 Views
Astudio’r Cyfryngau. Cynrychiolaeth: Ethnigrwydd. Ail-ddal. Beth yw Theori Naratif a phwy sy’n gyfrifol amdano? Pa ffilmiau sy’n tanseilio’r theori yma? Beth yw’r Theori Nodwydd hypodermig? Beth yw cynulleidfa oddefol? Beth yw cynulleidfa weithredol?. Cynrychiolaeth Ethnigrwydd: Pobl Du.
E N D
Astudio’r Cyfryngau Cynrychiolaeth: Ethnigrwydd
Ail-ddal... • Beth yw Theori Naratif a phwy sy’n gyfrifol amdano? • Pa ffilmiau sy’n tanseilio’r theori yma? • Beth yw’r Theori Nodwydd hypodermig? • Beth yw cynulleidfa oddefol? • Beth yw cynulleidfa weithredol?
Cynrychiolaeth Ethnigrwydd: Pobl Du • Prif gymeriadau ‘Hollywood’ • Ers y 90au mae actorion du fel Denzel Washington a Will Smith wedi hawlio prif rannau sydd yn ‘ethnig niwtral’ ond tua ugain mlynedd yn ôl nid oedd hyn yn bodoli. • Theori Donald Bogle yw bod 5 ystrydeb du mewn ffilmiau Hollywodd cynnar: • Y ‘Tom’ • Y ‘Coon’ • Y ‘Mulattoo’ • Y ‘Mammy’ • Y ‘Buck’ Men in Black (1997)
Y 5 Ystrydeb Du mewn Ffilmiau cynnar... • Y Tom: Cymeriad du sydd ddim yn fygythiad i unrhyw un yn y gymdeithas gwyn, isel ei statws ac yn gwybod ei le. • Y Coon: Cymeriad fel clown sydd yn canu a dawnsio ac yma i ddifyrru pobl gwyn. Eto nid yw’n fygythiad. • Y Mulatoo: Rhywun o hil gymysg (mixed race) • Y Mammy: Yr unig ystrydeb benywaidd yn y rhestr. Fel arfer yn wraig dda, yn gogydd gwych ac yn dew. • Y Buck: Y dyn du peryglus. Rhyw gaethwas wedi dianc. Cryf, caled, yn ddig ac yn fygythiad pendant i’r bobl gwyn. Sidney Poitier: 1950au ymlaen. Y seren du cyntaf i dorri ystrydebau o fewn ffilmiau Hollywood Yn yr 80au dechreuodd sêr megis Morgan Freeman, Samuel L. Jackson a Wesley Snipes herio’r ystrydebau yma ond pam y tybiwch chi nad yw Eddie Murphy yn perthyn I’r categori o actorion yma?
Theori Stuart Hall (1997) Mae Stuart hall yn dadlau nad oes gwahaniaeth biolegol rhwng yr hiliau ac felly mae’r syniad o wahaniaethu yr hiliau yn dibynnu ar ddiwylliant a chymdeithas ac felly rhaid eu harchwilio drwy ddefnyddio semioteg: “The very obviousness of the visibility of race convinces me that it functions as a signifying system, as a text we can read.” Philadelphia (1993)
‘Blaxploitation’ Genre ffilm a’i ddatblygwyd yn y 70au yn America a oedd yn targedu cynulleidfa ddu dinesig (urban) ac yn deilio gyda themau megis tlodi, caethwaisiaeth, y ‘ghetto’, pimps a chyffuriau. Am y tro cyntaf cafwyd cast hollol ddu o actorion a traciau sain cerddoriaeth ‘funk’ a ‘soul’. Shaft (1971)
Cynrychiolaeth Pobl Du • Iaith - acen, iaith anffurfiol, llaes • Iath y corff – egniol, rhythm, ystumio, angerddol • Hiliaeth – brwydro, rhagfarn, cryf, gwan, statws yn y gymdeithas • Diwylliant – hunaniaeth, traddodiadol, perthyn, y teulu, crefydd, cerddoriaeth, gwisg • Edrychiad: • Dynion: tywyll, wynepryd ethnig, cryf, athletig, tew, gwisg, gwallt • Merched: tywyll, wynepryd ethnig, mamol, crwm, pen ôl fawr, tew, byr, gwisg, gwallt • Ymddygiad – hiliol, barn, rhagfarn, tanseilio/parchu merched, patriarchaidd, ffeministaidd, treisgar, troseddol