180 likes | 438 Views
Beth yw Canolfan Moeseg, Cyfraith a Chymdeithas Caerdydd?. Canolfan rithwir wedi'i lleoli yn Ysgol y Gyfraith, Caerdydd ond gyda chydweithwyr o lawer o Ysgolion yn y Brifysgol. Ei nodau yw:meithrin cydweithrediad rhyngddisgyblaethol dan y tair thema, sef Biofoeseg, Moeseg a'r Gymdeithas a Busnes a
E N D
1. Clonio anifeiliaid mewn amaethyddiaeth – materion moesegol a phosibilrwydd cydgordio cyfreithiol Ewropeaidd Dr. Jennifer Gunning a’r Athro Sřren Holm
2. Beth yw Canolfan Moeseg, Cyfraith a Chymdeithas Caerdydd? Canolfan rithwir wedi’i lleoli yn Ysgol y Gyfraith, Caerdydd ond gyda chydweithwyr o lawer o Ysgolion yn y Brifysgol. Ei nodau yw:
meithrin cydweithrediad rhyngddisgyblaethol dan y tair thema, sef Biofoeseg, Moeseg a’r Gymdeithas a Busnes a Moeseg Broffesiynol;
darparu adnodd sy’n ddefnyddiol ac yn ddeniadol i academyddion, pobl broffesiynol, llunwyr polisi a dinasyddion;
darparu adnodd ar gyfer ymchwilwyr sy’n chwilio am bartneriaid i fynd i’r afael â’r agweddau moesegol, cymdeithasol a chyfreithiol ar eu gwaith;
darparu adnodd ar gyfer llunwyr polisi sy’n chwilio am gyngor arbenigol;
darparu ffynhonnell wybodaeth ac arbenigedd ar gyfer y bobl hynny sy’n gweithio yn y proffesiynau a diwydiant;
darparu adnodd addysgol.
www.ccels.cf.ac.uk
3. Clonio – hanes byr iawn 1970au Clonio mewn amffibiaid, dadleuon moesegol a chyfreithiol cyntaf am glonio, cadarnhau’r gred bod clonio mamaliaid yn amhosibl
1997 Clonio Dolly, anghofiwyd am y dadleuon moesegol a chyfreithiol blaenorol, diddordeb mawr ymhlith y cyhoedd
Ers 1997 Gwahardd clonio atgynhyrchiol dynol mewn llawer o wledydd, dadleuon parhaus o hyd ynghylch clonio dynol ‘therapiwtig’, clonio anifeiliaid yn aml yn ddireol, neu’n cael ei reoleiddio trwy ddeddfau arbrofi ar anifeiliaid
4. Clonio – yr ofnau
5. Defnyddio clonio anifeiliaid Heb addasu genetig
Bridiau a rhywogaethau prin (cadwraeth)
Llinellau gwaed pwysig
Ffermio, dyblygiad cyflym o anifeiliaid sy’n cynhyrchu llawer
‘Atgynhyrchu’ anifeiliaid anwes
Heb addasu genetig
Anifeiliaid labordy sydd â nodweddion neilltuol (modelau afiechyd, ac ati.)
Ffermio er mwyn datblygu cynnyrch fferyllol
Cyflwyno deunydd genetig newydd mewn anifeiliaid fferm o bosibl
Celf
8. Y materion moesegol Lles anifeiliaid
Materion clonio penodol
Dim ond at ddibenion pwysig?
Materion cyffredinol yn ymwneud â chynhyrchu anfeiliaid modern
Diogelwch defnyddwyr
Cynhyrchion wedi’u clonio yn y gadwyn fwyd
Gall arwain at dderbyn clonio atgynhyrchiol dynol
9. Cwestiynau ymchwil A oes angen deddfwriaeth benodol o ran clonio anifeiliaid fferm?
A oes angen cydgordio Ewropeaidd yn y maes hwn?
A yw hwn yn fater sy’n ymwneud â diogelu’r defnyddiwr neu’r anifail (neu’r ddau)?
A yw’n fater brys?
10. A yw’n fater brys?
12. Problemau wrth reoleiddio gweithdrefnau clonio Mae rhai gwledydd eisiau “mantais reoleiddio”
Mae rhai gwledydd eisiau “mantais foesegol”, e.e. bydd y cynnig arfaethedig yn Senedd Denmarc yn cyfyngu clonio i ddibenion pwysig, ac nid yw’r rhain yn cynnwys clonio stoc fridio
Gellir clonio o anifail mewn un awdurdod mewn awdurdod arall
13. Problemau wrth reoleiddio cynhyrchion sydd wedi’u clonio Bydd cig o anifail sydd wedi’i glonio yn cael ei gyfrif fel ‘bwyd newydd’ a bydd angen caniatâd marchnata penodol ar ei gyfer, ond beth am laeth, wyau? (a beth am wlân?!?)
Beth am ddisgynyddion yr anifeiliaid sydd wedi’u clonio?
Nid yw clonio yn gadael unrhyw arwyddion arwyddocaol = problemau o ran gorfodi
14. A fydd yna gydgordio Ewropeaidd? Bydd, rheoleiddio ‘cynhyrchion wedi’u clonio’ oherwydd y dadleuon sy’n rhethregol o gryf o ran diogelu defnyddwyr a dadleuon cyfochrog i’r ddadl am fwyd sydd wedi’i addasu’n enetig
Efallai, rheoleiddio gweithdrefnau clonio
15. Cysoni trwy ddiffyg? Cyfarwyddeb 18/2001/CE (y “Gyfarwyddeb GMO”)
Erthygl 22
Dosbarthu rhydd
“Heb ragfarn i Erthygl 23, ni all Aelod-wladwriaethau wahardd, cyfyngu neu rwystro GMOs fel cynhyrchion neu ynddynt, sy’n cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb hon rhag cael eu rhoi ar y farchnad.”
Byddai’r gyfarwyddeb hon yn gofyn i anifeiliaid sydd wedi’u clonio a oedd hefyd wedi’u haddasu’n enetig gael eu dosbarthu’n rhydd (os oeddent yn cydymffurfio â’r Gyfarwyddeb), ond nid anifeiliaid sydd wedi’u clonio sydd heb eu haddasu’n enetig
Ond, gellir dadlau y byddai’n anarferol i Aelod-wladwriaeth wahardd anifeiliaid sydd wedi’u clonio rhag cael eu mewnforio, tra’n caniatáu mewnforio anifeiliaid sydd wedi’u clonio a’u haddasu’n enetig
16. Problemau yn y dyfodol Her WTO o wlad sy’n defnyddio clonio ac yn caniatáu gwerthu ‘cynhyrchion wedi’u clonio’ yn ei marchnad gartref (Tsieina, Gwlad Thai, Brasil, Yr Ariannin, ac ati)
– A oes yna ddiddordeb gwirioneddol mewn diogelu’r cyhoedd?
Mae’n siwr y bydd hyn yn dibynnu ar ddatblygiadau dehongliad WTO o’r ‘egwyddor ragofalus’ yn y dyfodol
17. Ai lles anifeiliaid yw’r unig beth sydd gennym ni ar ôl? A yw goblygiadau sylweddol clonio i les anifeiliaid yn golygu y dylid ei reoli’n llym?
Beth yw’r gweithgaredd cymharu perthnasol mewn ffermio ? The production of Belgian Blue cattle (involving caesarean section because of increased muscle mass)?
IVF, Large offspring syndromeThe production of Belgian Blue cattle (involving caesarean section because of increased muscle mass)?
IVF, Large offspring syndrome
18. Manylion cyswllt Canolfan Moeseg, Cyfraith a Chymdeithas Caerdydd
www.ccels.cf.ac.uk
Dr. Jennifer Gunning
gunning@caerdydd.ac.uk
Yr Athro Sřren Holm
holms@caerdydd.ac.uk
19. Gwybodaeth bellach Clonio mewn prosiect cyhoeddus
www.bioethics.kvl.dk/cloninginpublic.htm
CYFARWYDDEB 2001/18/EC SENEDD EWROP A’R CYNGOR ar 12 Mawrth 2001 ar ryddhau organebau sydd wedi’u haddasu’n enetig i’r amgylchedd yn bwrpasol a diddymu Cyfarwyddeb y Cyngor 90/220/EEC
Grwp Cyswllt Rhyngadrannol ar Asesu Risg
www.hse.gov.uk/aboutus/meetings/ilgra/pppa.htm Cyagra
www.cyagra.com
Genetic Savings & Clone
www.savingsandclone.com
Cloning and Stem Cells 2004, rhifyn 6(2), cyhoeddiad arbennig ar glonio anifeiliaid fferm