1 / 40

Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc. Amcanion y modiwl. Darparu a thynnu sylw at weithgareddau effeithiol y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o’r ‘manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon banc, gan gynnwys cardiau banc’.*

Download Presentation

Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

An Image/Link below is provided (as is) to download presentation Download Policy: Content on the Website is provided to you AS IS for your information and personal use and may not be sold / licensed / shared on other websites without getting consent from its author. Content is provided to you AS IS for your information and personal use only. Download presentation by click this link. While downloading, if for some reason you are not able to download a presentation, the publisher may have deleted the file from their server. During download, if you can't get a presentation, the file might be deleted by the publisher.

E N D

Presentation Transcript


  1. Modiwl 4: Defnyddio cyfrif banc

  2. Amcanion y modiwl • Darparu a thynnu sylw at weithgareddau effeithiol y gellir eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o’r ‘manteision a’r anfanteision sy’n gysylltiedig â chyfrifon banc, gan gynnwys cardiau banc’.* • Rhannu gwybodaeth am yr adnoddau sydd ar gael i ddatblygu gwybodaeth dysgwyr o dermau a geirfa ariannol. • Darparu rhestr o adnoddau a gemau ar-lein defnyddiol wedi’u cysylltu â datblygu gwybodaeth dysgwyr o arian a bancio. * Deilliannau dysgu Blwyddyn 6 a Blwyddyn 7 o'r elfen 'Rheoli arian' yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh).

  3. Cysylltiadau â chydran rhifedd y FfLlRh • Sut mae defnyddio cyfrif banc yn cysylltu â chydran rhifedd y FfLlRh? • Mae’r sleidiau canlynol yn dangos ble yn y FfLlRh y mae’r modiwl gwaith hwn wedi’i dargedu. • Gellir defnyddio’r gweithgareddau a ddarperir yn y modiwl hwn i ddatblygu canfyddiadau dysgwyr a’u gwybodaeth o gyfrifon banc a chardiau banc. • Gall athrawon gyrchu a phenderfynu pa weithgareddau y gellir eu defnyddio yn ôl anghenion eu dysgwyr. • Gall yr adnoddau dan sylw gael eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth gynradd a hyd at Gyfnod Allweddol 4.

  4. Pwrs neu waled Poced Cadw-mi-gei Mewn sêff Dwylo O dan y gwely Swyddfa’r Post Banc Mewn jar Lleoedd i gadw arian yn ddiogel Tasg: Gofynnwch i’r dysgwyr restru’r lleoedd gan ddefnyddio’r dull Diemwnt 9 (y lle mwyaf diogel ar y brig a’r lleiaf diogel ar y gwaelod). (Gweler Adnodd 1.)

  5. Ymweld â banc • Efallai yr hoffai ysgolion fynd â dysgwyr i ymweld â banc lleol neu drefnu i wirfoddolwr o’r banc (rhiant/gofalwr o bosib) ddod i’r ysgol i siarad â’r dysgwyr. Gall anerchiadau neu ymweliadau roi cyfle i ddysgwyr ganfod: • sut mae banciau’n gweithio • sut y gallai pobl dalu arian i mewn a thynnu arian allan • sut y caiff adneuon ac alldyniadau eu cofnodi (megis cyfriflenni banc neu lyfrau cynilo) • gwybodaeth ar sut i agor cyfrif banc • y math o gardiau banc a chyfrifon sydd ar gael iddyn nhw ar oedran arbennig • defnyddio ATM a rhifau PIN • bancio diogel ar-lein. • Cewch ragor o wybodaeth gan Money Advice Service (www.moneyadviceservice.org.uk), sy’n cynnig canllawiau am ddim a llawer o wybodaeth, ac yn www.pfeg.org/learningaboutmoney • Efallai yr hoffai ysgolion sefydlu (neu eu bod eisoes wedi sefydlu) banc yr ysgol. Mae rhai undebau credyd wedi helpu ysgolion i sefydlu eu banciau eu hunain sydd wedi cael eu ‘rhedeg’ gan y dysgwyr. I gael rhagor o wybodaeth am eich undeb credyd lleol ewch i www.wales.gov.uk/topics/housingandcommunity/regeneration/debt/affordcredit/?skip=1&lang=cy

  6. Beth yw’r balans ym ‘manc geiriau ariannol’ y dysgwyr? • Defnyddiwch weithgaredd paru cardiau i gael ychydig o fewnwelediad i ddealltwriaeth dysgwyr o derminoleg a geirfa ariannol (gweler Adnodd 2). • Rhowch gyfle i ddysgwyr gynnal hunanasesiad i ganfod pa eiriau ariannol y maen nhw’n eu gwybod a pha eiriau yr hoffen nhw wybod mwy amdanyn nhw (gweler Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru sydd wedi cael ei gynnwys fel download gyda’r modiwl hwn). • Gall gwahaniaethu ddigwydd yn naturiol yn dibynnu ar ba eiriau rydych chi’n penderfynu eu rhoi i’r dysgwyr yn y ddau weithgaredd.

  7. Debyd uniongyrchol Mewn credyd Gorddrafft Llog Cyfrif Archeb sefydlog Yn y coch Peiriant ATM Benthyciad Cerdyn debyd Ffi Cyfriflen banc Gweithgaredd paru cardiau (Gweler Adnodd 2.)

  8. Daw’r gweithgaredd hwn o Pecyn Cymorth Cyllid Personol Llywodraeth Cymru. Mae’r pecyn cymorth yn cynnwys llawlyfr athrawongyda chynlluniau gwersi, taflenni adnoddau a geirfa. Mae’r pecyn cymorth yn strwythuro’r dysgu ar draws chwe thestun, ac yn fframwaith hynod o hyblyg o weithgareddau byr, anffurfiol. Mae’r daflen adnoddau a ddangosir yma yn gofyn i’r dysgwyr hunanasesu eu gwybodaeth am eiriau arian. Gellir defnyddio’r gweithgaredd i greu trafodaeth ar beth mae dysgwyr yn awyddus i’w ddysgu mwy amdano.

  9. Sut ydyn ni'n talu am bethau? Tasg A: Gyda dysgwyr iau (neu is eu gallu ond hŷn), gofynnwch y cwestiynau canlynol i gael dealltwriaeth o’u gwybodaeth flaenorol.* Sut mae oedolion yn talu am eu siopa os nad oes arian parod neu newid ganddyn nhw? Beth sydd ddim cystal ynghylch talu heb arian parod? Beth sy’n dda am dalu heb arian parod? Tasg B: Gan ddefnyddio bwrdd gwyn, nodiadau gludiog neu fel gêm, gofynnwch i’r dysgwyr lunio dwy restr: un o’r holl ddulliau arian parod o dalu am nwyddau sydd ar gael (h.y. darnau arian ac arian papur (gan gynnwys arian cyfred tramor os yw’n briodol)), a’r llall o’r holl ffyrdd heb arian parod y gellir talu am eitemau. Gall dysgwyr gael eu hannog i gynnwys dewis eang o ddulliau talu heb arian parod, o stampiau cynilo’r archfarchnad, talebau i gardiau banc. Tasg C: Gofynnwch i’r dysgwyr drefnu’r mathau o ddulliau talu i’r rhai lle mae’n rhaid cael cyfrif banc a’r rhai lle nad oes rhaid cael cyfrif banc.

  10. Gallwch ddefnyddio’r cardiau ysgogi hyn fel pwyntiau trafod. Pa mor hen mae’n rhaid i chi fod i ddefnyddio pob un o’r mathau hyn o arian? Gyda pha rai o’r mathau hyn o ddulliau talu mae’n rhaid cael cyfrif banc?

  11. Pa fathau o arian allai pob lle eu derbyn? Pam allem ni ddefnyddio arian mewn cynifer o ffurfiau gwahanol? Diogelwch, cyfleustra a hawdd i’w brynu yw rhai o’r rhesymau. Pa fath allai fod orau ar gyfer prynu eitemau gwahanol?

  12. Cyfrifon banc Syniad i’w drafod: Beth mae cyfrif cynilo neu gyfrif cyfredol yn ei gynnig i’w gwsmeriaid? Syniad i’w drafod: Pam ydyn ni’n defnyddio cyfrifon banc?

  13. Adnabod nodweddion cyfrif cynilo Tasg: Rhowch daflen i’r dysgwyr o fanc ffug (enghraifft i’w weld yma). (Gweler Adnodd 3.)

  14. Syniadau i’w trafod • Darllenwch y daflen yna atebwch y cwestiynau. • Pa fanc sydd wedi cyhoeddi’r daflen hon? • Faint o arian sydd ei angen arnoch i agor cyfrif? • Pa fath o gyfrif sy’n cael ei gynnig? • I bwy mae’r cyfrif? • Pwy all agor y cyfrif? • Beth sydd angen arnoch er mwyn agor y cyfrif? • Pa gyfradd llog sy’n cael ei gynnig? • Beth yw llog? • Sut ydych chi’n agor cyfrif? • Allwch chi feddwl am fanteision agor cyfrif cynilo? • Beth sydd yn y pecyn cychwynnol? • Pam ydych chi’n meddwl bod y banc yn cynnig pecyn cychwynnol?

  15. Cyfrifon banc i bobl ifanc • Mae ymchwil yn awgrymu bod nifer o blant yn eu harddegau yn fwyfwy awyddus i newid eu ‘cadw-mi-gei’ am gardiau plastig er mwyn iddyn nhw gael annibyniaeth ariannol, ac o ganlyniad mae banciau’n darparu cyfrifon i blant yn eu harddegau. Efallai fod gan nifer o ddysgwyr ryw fath o gyfrif cynilo sylfaenol sy’n cael ei weithredu gan eu rhieni/gofalwyr yn ôl pob tebyg. • Dyma rai syniadau o’r hyn y mae amryw o fanciau yn ei gynnig i bobl ifanc. • O 11 oed, gallan nhw gael cerdyn arian parod i dynnu arian o ATM (ar yr amod bod arian yn y cyfrif). • O 13 oed, gallan nhw gael cerdyn debyd i brynu eitemau mewn siopau ac ar-lein (ar yr amod bod arian yn y cyfrif a swm cyfyngedig i’w wario bob dydd). • O 16 oed, gallan nhw gael mynediad i’w cyfrif drwy fancio symudol a bancio ar-lein.

  16. Agor cyfrif Tasg: Gofynnwch i’r dysgwyr ymchwilio (ar-lein neu ymweld â’u banc lleol) nodweddion allweddol y mathau o gyfrifon a allai gael eu cynnig iddyn nhw. Esboniwch i’r dysgwyr bod rhaid i bobl ifanc ddangos prawf adnabod pan fyddan nhw’n agor cyfrif. Pam? Pa mor hen mae’n rhaid i chi fod i agor y cyfrif? Oes angen unrhyw ganiatâd rhieni? Beth mae’r cyfrif yn ei gynnig? Beth allwch chi ei ddefnyddio i brofi pwy ydych chi? Beth allwch chi ei ddefnyddio i brofi ble rydych chi’n byw?

  17. Gweithgaredd trafod Bydd dysgwyr yn cael profiadau amrywiol o gael neu ddefnyddio cyfrif banc. Mae’n bosib y bydd cyfrifon cynilo ganddyn nhw. Gall fod cyfrif cyfredol gan rai ohonyn nhw a mynediad i’w harian, gall eraill ddefnyddio cyfrif banc bob wythnos neu bob mis, ond ni fydd rhai dysgwyr yn y grŵp hwn yn cael unrhyw un o’r profiadau hyn. Tasg: Mae Gareth yn 14 oed. Mae rownd bapur ganddo ac mae wedi cael bron £100 yn ddiweddar ar gyfer ei ben-blwydd. Mae’n bwriadu cynilo i brynu moped yr hoffai ei gael pan fydd yn 16 oed. Pa gyfrif banc yw’r dewis gorau? (Gweler Adnodd 4.)

  18. ‘Cyfrif Cerdyn’ Banc y Sgwâr • Cerdyn i dynnu arian. • Taleb CD am ddim. • Dim llog. • ‘Cyfrif Cynilo’ Banc y Sgwâr • Dim cerdyn. • Llog o 5%. • Rhaid cadw o leiaf £100 yn y cyfrif. • Tynnu arian dros y cownter yn y banc. • ‘Cyfrif Cynilo’ Banc y Dref • Llog o 6%. • Rhaid cadw’r arian yn y cyfrif am 3 blynedd. • ‘Cyfrif Arddegau’ Banc y Dref • Llog o 3%. • Rhaid cadw o leiaf £1 yn y cyfrif. • Cerdyn i dynnu arian. Gweithgaredd trafod Mae Gareth yn 14 oed. Mae rownd bapur ganddo ac mae wedi cael bron £100 yn ddiweddar ar gyfer ei ben-blwydd. Mae’n bwriadu cynilo i brynu moped yr hoffai ei gael pan fydd yn 16 oed. Pa gyfrif banc yw’r dewis gorau?

  19. Beth yw ystyr ‘llog’? Ydy e’n rhywbeth mae’r banc yn ei roi i mi, neu’n rhywbeth y mae’n rhaid i mi ei roi i’r banc? Pa gyfrif ddylwn i ei ddewis? Ddylwn i fynd am gyfrif gyda chanran llog isel neu uchel? Beth mae’n ei olygu pan ddywedir bod ‘cerdyn’ yn dod gyda’r cyfrif? • Gall y gweithgaredd hwn: • arwain at drafodaethau am y mathau o gardiau, megis cerdyn debyd, cerdyn arian parod, cerdyn credyd • bod yn gyfle i wneud cyfrifiadau yn cynnwys llog syml • arwain at wneud gwaith ar adlog • arwain at drafodaethau ynghylch sut mae’r gyfradd llog ar gyfrif cynilo yn wahanol i’r gyfradd llog ar fenthyciad.

  20. Mathau o gardiau credyd a debyd Cardiau credyd Cardiau sy’n gadael i chi fenthyca arian a’i dalu yn ôl yn ddiweddarach Cardiau debyd Cardiau siop Cardiau sy’n gadael i chi wario’r arian sydd gennych eisoes neu o fewn cyfleuster gorddrafft wedi’i gytuno Cardiau rhagdaledig Cardiau talu

  21. Gwybodaeth am y mathau o gardiau credyd a debyd Mae’r sleidiau canlynol yn rhoi gwybodaeth y gellir ei rhannu â’r dysgwyr er mwyn trafod cardiau banc a’u helpu i benderfynu ar fanteision ac anfanteision y mathau o gardiau credyd a debyd. Mae gwybodaeth ar gael gan Money Advice Service. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.moneyadviceservice.org.uk

  22. Cardiau credyd Mae cerdyn credyd yn ffordd o brynu pethau nawr a thalu’n ddiweddarach. Gallwch gael bil hyd at derfyn wedi’i chytuno a’i dalu wedi hynny, unwaith y mis fel arfer ar ddyddiad talu penodol. I bwy mae’r cardiau hyn? Dim ond i bobl sy’n drefnus iawn gyda’u harian – fel arall mae risg gwirioneddol o fynd i ddyled. Hyd yn oed os ydych yn sefydlu debyd uniongyrchol i dalu’r swm llawn bob mis, os nad ydych yn cadw golwg ar eich cyfrif banc, gallech fynd i orddrafft pan ddaw’r taliad allan. Maen nhw ar gael i bobl dros 18 oed yn unig. • Mae cardiau credyd yn rhoi diogelwch da yn erbyn twyll. • Mae cardiau credyd yn darparu diogelwch ychwanegol os oes problemau gyda nwyddau a gwasanaethau rydych wedi’u prynu sy’n costio rhwng £100 a £30,000. • Mae cardiau credyd yn cynnig ffordd hawdd i dalu am yr annisgwyl. • Os nad ydych yn talu’r swm llawn yn ôl codir llog ar yr arian rydych wedi’i fenthyca. Cardiau credyd

  23. Cardiau debyd Mae cerdyn debyd fel cyswllt uniongyrchol i’ch cyfrif banc – pan fyddwch yn siopa neu’n prynu gwasanaethau mae’r arian yn cael ei dynnu o’ch cyfrif yn syth. I bwy mae’r cardiau hyn? Bron pawb sydd â chyfrif cyfredol safonol y DU, ond os ydych yn bwriadu ei ddefnyddio dramor dylech holi i weld pa daliadau a godir yn gyntaf. Mae cardiau debyd yn cael eu cynnig gyda rhai cyfrifon adnau erbyn hyn hefyd. • Mae cardiau debyd yn cynnig rhywfaint o ddiogelwch yn erbyn twyll ond nid cymaint â chardiau credyd. • Nid oes unrhyw fenthyca, ac eithrio os ydych yn mynd i mewn (neu dros) eich gorddrafft. Cardiau debyd

  24. Cardiau siop Mae cardiau siop yn fath o gerdyn credyd y gallwch ei ddefnyddio mewn un gadwyn o siopau yn unig. Cardiau siop I bwy mae’r cardiau hyn? Yn syniad da dim ond i bobl sy’n gwario llawer mewn siop arbennig, ac yn hollol sicr y byddan nhw’n talu’r bil bob mis. • Maen nhw’n cynnig bargeinion a disgowntiau yn y siop. • Codir cyfradd llog uchel iawn os ydych yn mynd i ddyled neu’n talu swm bach yn ôl bob tro yn unig.

  25. Cardiau rhagdaledig Mae cerdyn rhagdaledig yn gweithio fel cerdyn rhodd – rydych yn ychwanegu arian ato a gallwch wario hyd at y swm hwnnw yn unig. • Maen nhw’n fwy diogel nag arian parod oherwydd gallwch ganslo’r cerdyn os ydych yn ei golli neu os yw’n cael ei ddwyn. • Ni chânt eu derbyn ymhob man, ac efallai y byddwch yn talu ffioedd am eu defnyddio neu am ychwanegu arian atyn nhw. Cardiau rhagdaledig I bwy mae’r cardiau hyn? Cânt eu defnyddio gan deithwyr yn aml i gludo arian gwyliau, a chan unrhyw un heb gyfrif banc arferol – plant, plant yn eu harddegau a phobl â statws credyd gwael fel rheol.

  26. Cardiau talu Mae cardiau talu yn gweithio’n debyg i gardiau credyd – rydych yn prynu nawr ac yn talu’r arian yn ôl ar eich dyddiad ad-dalu misol – ond gyda cherdyn talu mae’n rhaid i chi dalu’r gweddill bob mis. Ni allwch gael bil a thalu’r swm yn ôl yn ddiweddarach. I bwy mae’r cardiau hyn? Yn gyffredinol dim ond i bobl ar incwm uchel neu at ddefnydd busnes. Hefyd ceir rhai cardiau talu sylfaenol, ond does dim llawer o fantais iddyn nhw o’u cymharu â chardiau credyd. Cardiau talu • Nid oes unrhyw derfyn gwario yn aml ac maen nhw’n cynnig manteision ychwanegol. • Os nad ydych yn talu’ch bil gall yffioedd fod yn uwch na llog cerdyn credyd – a gall eich cerdyn gael ei ganslo.

  27. Gweithgaredd trafod Mae Lisa yn 18 oed. Mae swydd ganddi a hoffai ei chyflogwr dalu ei chyflog yn syth i’w chyfrif banc. Hoffai Lisa symud i fflat ac mae’n rhaid iddi dalu rhent. (Disgwylir iddi dalu’r biliau tŷ hefyd.) Mae’r landlord yn gofyn am flaendal o £500. • Cwestiynau posibl • Pam mae angen cyfrif banc ar Lisa? • Pwy fydd yn cael mynediad i gyfrif Lisa? • Beth yw biliau tŷ? • Pa filiau eraill sy’n rhaid i Lisa eu hystyried? • Sut byddai Lisa yn gallu cael £500 o’i banc i dalu’r blaendal ar gyfer y fflat? • Beth all Lisa ei wneud i gael gwybod mwy am gyfrifon banc?

  28. Dewis o gyfrifon banc Meddyliwch am y dewis o gyfrifon banc sydd ar gael i Lisa. (Gweler Adnodd 5.) Nodau Nod y gweithgaredd hwn yw rhoi cyfle i’r dysgwyr drafod yr eirfa a ddefnyddir yn y pedair enghraifft (Adnodd 5) ac atgyfnerthu eu dealltwriaeth o’r termau yn y gweithgaredd paru cardiau blaenorol (Adnodd 2). Mae’n rhoi senario i’r dysgwyr sy’n eu galluogi i nodi manteision ac anfanteision cyfrifon banc. Mae Lisa yn 18 oed. Mae swydd ganddi a hoffai ei chyflogwr dalu ei chyflog yn syth i’w chyfrif banc. Hoffai Lisa symud i fflat ac mae’n rhaid iddi dalu rhent. (Disgwylir iddi dalu’r biliau tŷ hefyd.) Mae’r landlord yn gofyn am flaendal o £500.

  29. Cyfriflenni banc Syniad i’w drafod: Pam gallai hi fod yn bwysig i gadw cofnodion o wariant? Syniad i’w drafod: Beth mae cyfriflenni banc yn ei ddangos i ni?

  30. Gweithgaredd 1: Deall y trafodion ar gyfriflen banc • Gweler Adnodd 6 (tudalennau 1–2). • Mae’r gweithgaredd yn nodi’r trafodion ar gyfrif banc Lisa drwy ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol: • cerdyn • debyd uniongyrchol • siec • ATM • credyd. • Tasg: Defnyddiwch yr wybodaeth i gwblhau’r gyfriflen banc bapur. • Nod: Nod y gweithgaredd hwn yw rhoi cyfle i’r dysgwyr adnabod y termau a ddefnyddir ar gyfriflen banc a defnyddio eu sgiliau rhifedd i gadw gweddill cyfredol.

  31. Efallai yr hoffech chi roi dewisiadau i’r dysgwyr ar gyfer y golofn hon, e.e. • cerdyn • debyd uniongyrchol • siec 000000 • ATM neu beiriant tynnu arian • credyd.

  32. Gweithgaredd 2: Darllen a deall cyfriflen banc ar-lein Gweler Adnodd 6 (tudalennau 3–4). Tasg: Defnyddiwch y gyfriflen ar-lein brintiedig (ar dudalen 3) i ateb y cwestiynau a awgrymir (tudalen 4). Nid yw’n rhestr gyflawn o gwestiynau a gellir ymestyn y gweithgaredd drwy roi cyfle i’r dysgwyr greu eu cyfriflenni neu eu cwestiynau eu hunain.

  33. Gweithgaredd 3: Adnabod trafodion a chyfrifo gweddill cyfredol Gweler Adnodd 6 (tudalennau 5–7). Tasg: Defnyddiwch yr wybodaeth a roddir (tudalen 5) am y dyddiadau pan wariodd Lisa arian, a’r debydau uniongyrchol sydd wedi digwydd, er mwyn cwblhau’r gyfriflen ar-lein brintiedig (tudalen 6).

  34. Gweithgaredd 4: Wythnos Philip Gweler Adnodd 7. Mae’r gweithgaredd ‘ymarferol’ hwn yn gweithio orau pan fydd dysgwyr yn gweithio mewn parau neu grwpiau bach yn hytrach nag ar eu pennau eu hunain. Nod: Mae’r dysgwyr yn darllen stori am fywyd oedolyn a’r trafodion ariannol sy’n digwydd yn ystod mis arferol. Gan ddefnyddio’r trafodion wedi’u lamineiddio a’r gwerthoedd arian, mae’r dysgwyr yn cwblhau fersiwn mawr (A3) o gyfriflen banc Philip, gan gadw golwg ar y gweddill cyfredol, y codau a ddefnyddir ar gyfriflenni banc a’r dyddiadau pan ddigwyddodd y trafodion. Gall athrawon ganiatáu i’r dysgwyr ddefnyddio cyfrifianellau, yn dibynnu ar allu’r grŵp. Anelir y dasg at ddysgwyr mwy galluog a thalentog er bod modd ei gwahaniaethu drwy ddarparu mwy o wybodaeth ar y gyfriflen banc, addasu’r stori gyda gwerthoedd arian a geirfa a fydd yn cefnogi’r nodau dysgu ar y lefel sy’n ofynnol ar gyfer y grŵp.

  35. Arian Philip – wythnos ym mis Rhagfyr Wythnos ym mis Rhagfyr . . . Cafodd Philip drafferth yn ceisio mynd drwy fis Tachwedd heb ddefnyddio’i orddrafft. Yn y pendraw, ar 30 Tachwedd roedd ei falans agoriadol yn £12.45 yn y coch. Ond, roedd Philip wedi gwneud llawer o waith goramser ym mis Tachwedd ac fe gafodd bron £1,000 ei dalu i mewn i’w gyfrif banc ddydd Gwener 1 Rhagfyr. Roedd mor hapus aeth at yr asiant teithio lleol y bore dydd Sul wedyn. Talodd am wyliau munud olaf dros Nadolig ar ei gerdyn debyd, a thalu ychydig yn fwy nag un rhan o dair o’r cyflog roedd e newydd ei gael! Ychydig ddyddiau wedyn, roedd Philip yn y dref gyda ffrind ac fe gododd arian parod o’r peiriant twll yn y wal. Roedd e’n bwriadu codi £115, ond dim ond papurau £20 oedd ar gael yn y peiriant . . . Tasg: Ewch ymlaen i ddarllen y stori a chwblhewch y gyfriflen banc. (Gweler Adnodd 7.)

  36. Gwefannau ac adnoddau www.pfeg.org • Pecyn Cymorth Cynradd Fy Arian (lawrlwythiad) • Dysgu am Arian yn yr Ystafell Ddosbarth Gynradd (lawrlwythiad) www.barclaysmoneyskills.com/Information/Resource-centre/School-Children.aspx • Pedwar Pecyn Adnoddau Sgiliau Arian Barclays i ddadlwytho ar gyfer dysgwyr 4 i 7 oed, dysgwyr 7 i 11 oed, dysgwyr 11 i 14 oed a dysgwyr 14 i 16 oed. www.moneysense.natwest.com/schools/resources/ • Rheoli’ch arian (adnodd ar-lein i'w gyrchu gan athrawon a myfyrwyr) www.nationwideeducation.co.uk • Sgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau a thaflenni gwaith i ddysgwyr 4 hyd at 18 a fwy (adnoddau argraffadwy a gemau ar-lein) www.dysgu.cymru.gov.uk • Rhifedd: addysg ariannol

  37. Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn o’r enw Adding up to a lifetime sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. www.addinguptoalifetime.org.uk Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.

  38. Gemau ar-lein https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/_layouts/NGFLSolution/MaterialDescription.aspx?LearningMaterialId=39431&lang=cy gemau arian https://hwb.wales.gov.uk/cms/hwbcontent/Shared%20Documents/vtc/2009-10/maths/financial-literacy//cym/all-the-way-to-the-bank.html Gêm ar-lein sy’n annog dysgwyr i gadw golwg ar yr hyn maen nhw’n ei wario a’r arian y maen nhw’n ei dderbyn ac yna mae’n gofyn iddyn nhw roi’r gweddill yn y banc. www.funtosave.org Gêm ryngweithiol aml-lefel hawdd ei defnyddio i addysgu plant ifanc am egwyddorion craidd arian a manteision cynilo. Mae cymorth a deunyddiau adnoddau yn cael eu darparu i athrawon a rhieni/gofalwyr. www.moneymatterstome.co.uk/interactive-workshops/atm.htm ATM rhyngweithiol sy’n rhoi cyfle i ddysgwyr ymgyfarwyddo â nodweddion defnyddio ATM, e.e. PIN 4 digid, ymholiad gweddill, tynnu arian mewn lluosrifau o 10, cael gweddill printiedig, ac ati.

More Related