420 likes | 579 Views
Rheoli Perfformiad Rhan C: Gwerthuswr. Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig a rôl y Gwerthuswr Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013). Amcanion y Sesiwn. Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol
E N D
Rheoli Perfformiad Rhan C: Gwerthuswr Cyflwyniad i'r Rheoliadau Rheoli Perfformiad Diwygiedig a rôl y Gwerthuswr Ionawr 2011 (i'w rhoi ar waith erbyn mis Ionawr 2013)
Amcanion y Sesiwn • Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i'w rhoi ar waith yn effeithiol • Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol • Adolygu sut y bydd rheoli perfformiad yn rhan o gyd-destun ehangach proses gwella'r ysgol • Adolygu gweithredu'r broses rheoli perfformiad gan gynnwys rolau a chyfrifodebau'r rhai sy'n rhan ohoni • Deall rôl y gwerthuswr
Atgrynhoi a Throsolwg o Ofynion Rheoli Perfformiad Diwygiedig
Gofynion Diwygiedig Amserlen • Rheoliadau Diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012 • Defnyddio'r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012 Diwygiadau • Mae gan reoli perfformiad gysylltiad clir â - safonau proffesiynol • blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol • data perfformiad disgyblion • Mwy o gyfranogiad gan yr Awdurdod Lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion. • Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid
Diben Rheoli Perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac arweinwyr timau ysgolion. Mae'n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr i gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a'u hadolygu yng nghyd-destun cynllun gwella'r ysgol. Mae'n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Canllawiau Rheoli Perfformiad Ebrill 2010
Rôl Rheoli Perfformiad yn y Broses Gwella Ysgolion Mae Rheoli Perfformiad yn cefnogi • ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau • athrawon i ddiwallu anghenion plant a chodi safonau Mae Rheoli Perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i • ddatblygu'r holl ymarferwyr yn effeithiol • sicrhau boddhad yn y swydd • lefelau uchel o arbenigedd • dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol
Y Cylch Gwerthuso • Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro • Rhaid i'r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth • Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso
Y Cylch Gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu Gwerthuswr Dadansoddiad strategol Datganiad gwerthuso a Gosod Amcanion Gwerthusai Cytuno ar amcanion Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwi addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy'n briodol i rôl yr athro
Rolau a Chyfrifoldebau y Gwerthuswr
Rolau a Chyfrifoldebau yn y Broses Rheoli Perfformiad Aelodau Allweddol • Y corff llywodraethu/y corff priodol • Y Pennaeth • Gwerthuswr/gwerthuswyr • Y gwerthusai • Yr Awdurdod Lleol • Llywodraeth Cymru
Rôl y Gwerthuswr • Cytuno a chofnodi amcanion gyda'r person sy'n cael ei arfarnu • Monitro ac adolygu perfformiad trwy'r cylch • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol • Paratoi'r datganiad gwerthuso blynyddol • Gwneud argymhelliad ar gynnydd tâl lle mae'r person sy'n cael ei gwerthuso'n gymwys am gynnydd tâl o dan Ddogfen Tâl a Thelerau Athrawon Ysgol (STPCD), lle y bo'n briodol.
Cyfrifoldebau'r Gwerthuswr/Gwerthuswyr Maent yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy:- • Gynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai • Osod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol • Drafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol • Barhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol) • Gynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) • Weithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad • Drefnu i'r datganiad gwerthuso fod ar gael i'r personél priodol
Gwybodaeth a Dealltwriaeth Rhaid bod gwerthuswyr yn deall • cyd-destun yr ysgol • data perfformiad ysgol gan gynnwys Set Data Craidd Cymru Gyfan • blaenoriaethau gwella'r ysgol • blaenoriaethau gwella'r Awdurdod Lleol a chenedlaethol • y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer gweithwyr proffesiynol yng Nghymru • swydd y gwerthusai • cynllun hyfforddi'r ysgol a'r gyllideb briodol • gweithdrefnau rheoli perfformiad.
Nodweddion y Gwerthuswyr Dyma nodweddion i'w hystyried wrth ddewis gwerthuswyr: • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth a dadansoddi data da gan gynnwys y gallu i ddeall, dehongli a dadansoddi dangosyddion perfformiad allweddol sy'n ymwneud â pherfformiad yr ysgol • perthynas waith dda gyda'r gwerthusai, gan gynnwys ei ymddiriedaeth a'i barch • digon o amser i ymgymryd â'i rôl fel arfarnwr a gwneud cyfiawnder â'r broses.
Hunanasesiad Gwerthuswr • Dylai gwerthuswr gwblhau hunanasesiad i nodi eu hanghenion datblygu. • Gellir gwneud mwy o hyfforddiant yn y meysydd datblygu a nodir i sicrhau y gwneir y rôl yn effeithiol • Nodir yng Nghanllawiau Llywodraeth Cymru y dylai'r holl gwerthuswyr gael eu hyfforddi'n briodol i ymgymryd â'r rôl hyderus iawn angen datblygu • sgiliau cyfathrebu da • sgiliau rhyngbersonol da • sgiliau caffael gwybodaeth da • y gallu i farnu perfformiad yn seiliedig ar dystiolaeth bod yn gyfarwydd â gweithdrefnau rheoli perfformiad.
Adolygu Perfformiad
Y Cyfarfod Gwerthuso Blynyddol Cyfle ffurfiol i: • gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant • trafod meysydd ar gyfer gwella • cytuno ar flaenoriaethau'r dyfodol, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch Rheoli Perfformiad canlynol
Yr Adolygiad Perfformiad • Rhaid i'r gwerthuswyr a'r gwerthusai gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda'r amcan o • Asesu'r graddau y mae'r gwerthusai wedi cyflawni'r amcanion ar gyfer y cylch • Pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y pennaeth wedi bodloni'r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon • Nodi'r angen am gefnogaeth, hyfforddiant a datblygiad ychwanegol • Dylid ystyried AYD y person sy'n cael ei arfarnu wrth adolygu perfformiad
Paratoi ar gyfer Adolygiad Perfformiad Blynyddol • Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad • Rhaid i'r person sy'n cael ei gwerthuso gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw • Rhaid anfon y Cofnod Adolygu a Datblygiad Proffesiynol (PRD) at gwerthuswyr o leiaf 5 niwrnod cyn y cyfarfod adolygu
Paratoi ar gyfer yrAdolygiad Perfformiad Blynyddol • Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu datganiad arfarnu • Nodi data a thystiolaeth briodol i'w defnyddio yn unol â'r rheoliadau • Penderfynu sut caiff amcanion o'r cylch diwethaf eu hystyried • Dylai'r person sy'n cael ei arfarnu hunanfyfyrio cyn y cyfarfod • Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu
Hunanfyfyrio'r Gwerthusai Dylai'r gwerthusai ystyried perfformiad yn erbyn: • Ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion • Tystiolaeth o berfformiad yn y cylch • Manteision unrhyw ddatblygiad proffesiynol a gafwyd • Adolygiadau a gynhaliwyd mewn unrhyw flwyddyn • Unrhyw ffactorau sy'n effeithio ar berfformiad • Amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf
Dogfennaeth i'w hystyried • Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol perthnasol • Cynllun Gwella Ysgolion/Cynllun Ardal • Y cofnod hunanwerthuso ysgol/ardal • Cynllun ôl-arolygiad Estyn • Y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru • Deunyddiau perthnasol o adolygiadau'r awdurdod lleol - matrics categoreiddio rhanbarthol
Paratoi ar gyfer yrAdolygiad Perfformiad Blynyddol • Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad • Dylech gytuno ar arsylwadau addysgu ymlaen llaw gan roi o leiaf 5 niwrnod o rybudd • Dylai bod athrawon yn cael rhybudd ymlaen llaw am ddyddiad y cyfarfod adolygu • Dylai'r cofnod PRD gael ei anfon at arfarnwyr o leiaf 5 niwrnod cyn y cyfarfod adolygu
Y Datganiad Gwerthuso • Rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod ysgol • Rhaid darparu anghenion hyfforddiant a datblygiad mewn atodiad • Gall yr athro ychwanegu sylwadau i'r datganiad o fewn 10 niwrnod • Bydd hyn yn rhan o'r datganiad • Mae'r datganiad gwerthuso yn bersonol ac yn gyfrinachol
Gosod Amcanion
Gosod yr Amcanion • Byddai tri amcan fel arfer yn ddigon • Dylai amcanion y gwerthuswr • Gyfrannu at wella datblygiad disgyblion yn yr ysgol • Ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol • Ganolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy'n seiliedig ar dystiolaeth
Mae angeniamcanionfodyn: • Glir: heb unrhyw amwysedd na dryswch ynghylch y canlyniad a fwriedir. • Cryno: gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau â phosib i gyfleu'r bwriad. • Mesuradwy: wedi'u mynegi yn y fath fodd fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a gyflawnwyd amcan ai peidio. • Heriol: dylent fod yn ddigon heriol, gan ystyried amgylchiadau'r ysgol, gan achosi gwelliant sylweddol. • Datblygiadol: gan gefnogi gwella'r ysgol a'r arfarnai.
Nodi Anghenion Datblygiad Proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: • gefnogi gwella gwybodaeth a sgiliau • gefnogi amcanion cytunedig • ddatblygu cryfderau • fynd i'r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol
Monitro Perfformiad
Monitro Perfformiad • Dylai gweithdrefnau monitro: • gael eu trafod a'u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio • gynnwys amrywiaeth o ddulliau • Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn • Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol i sicrhau llunio barn gadarn • Rhaid i'r person sy'n cael ei arfarnu gadw cofnod adolygu a datblygu arfer diweddar (PRD)
Monitro Gweithgarwch Dylai bod amrywiaeth o weithgarwch monitro sy'n casglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys:- • Cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng yr gwerthuswr/gwerthuswyr a'r gwerthusai • Cofnod Arfer, Adolygu a Datblyu'r gwerthusai • Cynllun Gwella Ysgol • Data a gwybodaeth perfformiad ysgol • Proses hunanwerthuso barhaus yr ysgol • Arsylwadau addysgu (lle y bo'n addas)
Arsylwadau addysgu • Rhaid bod gan arsylwyr SAC • Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw • Rhaid rhoi o leiaf 5 niwrnod ysgol o rybudd • O leiaf un arsylwad y flwyddyn - mwy â chaniatâd • Rhoddir adborth cyn gynted â phosib • Dylid cofnodi canlyniadau'r arsylwad • Gall yr athro ychwanegu sylwadau
Rheoli Tanberfformiad • Nid yw'r cyfarfod adolygu a'r datganiad gwerthusiad yn rhan o weithdrefnau disgyblu cymhwysedd na gallu ffurfiol. • Bydd rheolaeth linell effeithiol â disgwyliadau clir a chefnogaeth briodol yn helpu wrth nodi a chyfeirio at unrhyw wendid mewn perfformiad. • Gall y rhai sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch materion perfformio, tâl, dyrchafu, y diswyddo neu ddisgyblu ystyried datganiadau gwerthuso
Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae arfarnwyr yn • Cynllunio'r cylch gwerthuso gyda'r gwerthusai? • Gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol? • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? • Parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch RhP (adolygiad ffurfiannol)? • Gweithredu'n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? • Cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda'r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? • Trefnu i'r datganiad gwerthuso fod ar gael i'r personél priodol? B. Sut mae RhP yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso'r drafodaeth
Rolau a Chyfrifoldebau’r Gwerthuseion
Rôl y Gwerthusai • Trafod a gosod set o amcanion gyda'r gwerthuswr/gwerthuswyr • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol
Cyfrifoldebau'r Gwerthusai • Trafod gosod amcanion gyda'r gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol • Hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data perthnsaol a thystiolaeth o berfformiad • Cymryd rhan wrth fonitro trefniadau a chynnal a chadw cofnod datblygu ac adolygu arfer diweddar • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol
Myfyrio a Thrafod A. Ym mha ffyrdd y mae'r gwerthusai’n: • Trafod gosod amcanion gyda'r gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a'r safonau proffesiynol priodol? • Hwyluso'r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth priodol? • Cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod AYD diweddar? • Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi arfer proffesiynol? B. Sut ydych chi'n gwybod yr hyn sy'n digwydd ac a yw'n rhan o broses gwella'r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso'r drafodaeth
Dyma Arfer Gorau Mewn Rheoli Perfformiad: • Ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles disgyblion; • Gwerthfawrogi'r rôl hanfodol sydd gan athrawon; • Ymrwymiad i berfformiad a lles staff; • Ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl; • Annog rhannu arfer da; • Integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol.
Myfyrio a Thrafod - Hunanwerthuso A. Ym mha ffyrdd y mae'r Broses Rheoli Perfformiad yn • Cefnogi gweledigaeth yr ysgol? • Cyfrannu at wella cyflawniad a lles disgyblion? • Helpu gyda datblygiad proffesiynol yr holl staff? • Meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro a'r gwerthuswr, sy'n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i'w datblygu'n drwyadl? • Annog rhannu arfer da? • Ategu ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli'r ysgol? • Bodloni'r rheoliadau statudol diwygiedig? B. Sut ydych chi'n gwybod bod y broses yn effeithiol ac yn rhan o broses gwella'r ysgol? C. Oes unrhyw agweddau y mae angen eu hadolygu a'u gwella? Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso'r drafodaeth
Ac yn olaf.... ‘Mae rheoli perfformiad yn rhoi sylw i wneud addysgu ac arweinyddiaeth yn fwy effeithiol er lles disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli Perfformiad i Athrawon LlC 073/2012