260 likes | 409 Views
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant a rhieni maeth Myfyrio a gwerthuso. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD. Cyffredinol Diymwad Annatod
E N D
agenda • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant a rhieni maeth • Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol
EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Yr rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad • Grŵp monitro
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I GYNHALWYR maeth 1 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Sicrhau bod oedolion a phlant yn gwybod am hawliau Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ac yn eu deall • Sicrhau bod y teulu, yr ysgol, cymunedau a sefydliadau’n parchu barn plant • Sicrhau bod plant yn cael eu diogelu rhag ymyrraeth anghyfreithlon â’u hawl i breifatrwydd • Gwahardd pob math o gosbi corfforol yn y teulu • Ei gwneud hi’n llai derbyniol i daro plant trwy hybu dulliau cadarnhaol, di-drais o ddisgyblu plant • Darparu addysg a hyfforddiant ar sut i fagu plant yn gadarnhaol i rieni ac oedolion sy’n gweithio gyda phlant
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I GYNHALWYR maeth 2 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol 7. Cynnig rhagor o gymorth i rieni a gwarcheidwaid i’w helpu i fagu eu plant 8. Sicrhau nad yw plant yn cael eu rhoi mewn gofal oherwydd nad yw eu rhieni’n ennill llawer o arian • Ystyried barn plant ym mhopeth sy’n ymwneud â’r teulu a bod mewn gofal a sicrhau bod plant yn gallu gwneud cwyn yn hawdd os oes angen 10. Sicrhau bod plant sydd ag un rhiant neu ddau riant yn y carchar yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt • Monitro plant sy’n derbyn gofal maeth, yn cynnwys ymweld yn rheolaidd â’r plant hyn • Sicrhau y gellir dechrau trefniadau cyswllt fel y gall plant sy’n byw ar wahân i’w rhieni a’u brodyr a’u chwiorydd gael cyswllt gyda nhw
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I GYNHALWYR maeth 3 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Darparu hyfforddiant ac addysg i helpu i baratoi plant sy’n byw mewn gofal ar gyfer bywyd fel oedolion • Sicrhau bod yna wasanaethau da i helpu plant sydd wedi eu camdrin neu eu hesgeuluso • Dylid gwario mwy ar wasanaethau iechyd meddwl i blant a chanolbwyntio ar rai grwpiau yn cynnwys plant mewn gofal • Sicrhau addysg ragorol i blant nad ydynt yn mynd i’r ysgol • Sicrhau bod plant mewn gofal yn cael rhywun i gynrychioli ac amddiffyn eu buddiannau • Sicrhau bod pob plentyn, yn enwedig plant mewn gofal, yn gallu apelio i dribiwnlys AAA am yr addysg a’r cymorth a dderbyniant
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I GYNHALWYR MAETH 1 • Erthygl 5 – dylai’r llywodraeth barchu hawliau a chyfrifoldebau teuluoedd i gyfeirio ac arwain eu plant • Erthygl 7 – hawl i gael gwybod pwy yw eich rhieni ac i gael gofal ganddynt • Erthygl 8 – dylai llywodraethau barchu hawl plant i gysylltiadau teulu • Erthygl 9 – hawl i gadw mewn cysylltiad â’r ddau riant • Erthygl 14 – hawl i arfer eich crefydd • Erthygl 15 – hawl i gyfarfod ag eraill
YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I GYNHALWYR MAETH 2 • Erthygl 18 – dylai’r ddau riant rannu cyfrifoldeb dros fagu eu plant • Erthygl 19 – amddiffyn rhag camdriniaeth • Erthygl 20 – os na all dy deulu dy hun ofalu amdanat, rhaid i ti dderbyn gofal priodol • Erthygl 25 – hawl i blentyn mewn gofal gael ei sefyllfa wedi’i adolygu’n rheolaidd • Erthygl 26 – dylai’r llywodraeth roi arian ychwanegol ar gyfer plant teuluoedd mewn angen
YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I GYNHALWYR MAETH 3 • Erthygl 27 – hawl i fwynhau safon byw da a chael cymorth gan y llywodraeth i ddarparu hyn • Erthygl 30 – hawl i ddefnyddio iaith ac arferion dy deulu • Erthygl 39 – dylai llywodraethau hybu adferiad corfforol a seicolegol plant sydd wedi’u camdrin a/neu eu hesgeuluso • Erthygl 42 – dylai’r llywodraeth wneud y confensiwn yn hysbys i bob rhiant a phlentyn
ENGHREIFFTIAU O HAWLIAU ERAILL • Erthygl 3 – lles gorau’r plentyn • Erthygl 13 – hawl i dderbyn a rhannu gwybodaeth • Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd • Erthygl 29 – dylai addysg ddatblygu dy bersonoliaeth • Erthygl 37 – amddiffyn rhag arteithio a cholli rhyddid