240 likes | 428 Views
CYFLWYNIAD I HAWLIAU PLANT. Gwaith gr ŴP. agenda. Beth yw hawliau plant? Pam hawliau plant? Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn Hawliau plant yng Nghymru Hawliau plant a’r heddlu Myfyrio a gwerthuso. HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD. Cyffredinol Diymwad Annatod
E N D
agenda • Beth yw hawliau plant? • Pam hawliau plant? • Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • Hawliau plant yng Nghymru • Hawliau plant a’r heddlu • Myfyrio a gwerthuso
HAWLIAU DYNOL – EGWYDDORION CRAIDD • Cyffredinol • Diymwad • Annatod • Atebol
EGWYDDORION FREDA • Tegwch a rhyddid (Fairness and freedom) • Parch (Respect) • Cydraddoldeb (Equality) • Urddas (Dignity) • Ymreolaeth (Autonomy)
DEDDFAU V HAWLIAU • Mae rhai deddfau’n cyfateb i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • e.e. Hawl i fyw / Deddfau llofruddiaeth • Mae rhai deddfau’n gwrthdaro â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn • e.e. Hawl i gyfiawnder / cadw am 28 diwrnod heb achos llys
PAM MAE ANGEN HAWLIAU YCHWANEGOL AR BLANT? • Aeddfedrwydd • Heb lais ac yn anweledig • Eiddo
DYMUNIADAU, ANGHENION A HAWLIAU • Dymuno – awydd i gael rhywbeth • Angen – y cyflwr o fod angen cymorth, neu â phrinder hanfodion sylfaenol fel bwyd • Hawl – hawl foesol neu gyfreithiol i gael neu wneud rhywbeth
4 ELFEN HAWL • Y sawl sydd â’r hawl (yr unigolyn) • Y gwrthrych (yr hyn y mae ganddynt hawl i’w gael) • Y rhai â dyletswydd (pobl neu sefydliad) • Y cyfiawnhad (mwy o urddas i’r unigolyn, datblygiad cymdeithasol, cymdeithas heddychlon)
CONFENSIWN Y CENHEDLOEDD UNEDIG AR HAWLIAU’R PLENTYN • 54 erthygl • 41 prif erthygl • 3 pharth
4 HAWL SYLFAENOL Erthygl 2 – Dim gwahaniaethu Erthygl 3 – Lles y plentyn Erthygl 6 – Hawl i fywyd Erthygl 12 – Hawl i gael eich clywed
Y SAFONAU CENEDLAETHOL AR GYFER CYFRANOGIAD PLANT A PHOBL IFANC 1. Gwybodaeth – sy’n hawdd i blant a phobl ifanc ei deall 2. Eich dewis chi – digon o wybodaeth ac amser i wneud dewis gwybodus 3. Dim gwahaniaethu – mae gan bob person ifanc yr un cyfle i gymryd rhan 4. Parch – byddwn yn parchu’ch barn chi 5. Byddwch chi ar eich ennill hefyd – byddwch chi’n mwynhau’r profiad 6. Adborth - byddwch chi’n gwybod pa wahaniaeth mae’ch barn chi wedi’i wneud 7. Gwella ein ffordd o weithio – bydd oedolion yn gofyn i chi sut gallan nhw wella eu ffordd o weithio gyda chi yn y dyfodol
Y BROSES ADRODD • Bob 5 mlynedd • Adroddiadau i’r Cenhedloedd Unedig: • Llywodraeth y DU (gan gynnwys adran gan Lywodraeth y Cynulliad) • Adroddiadau Cyrff Anllywodraethol • Adroddiad pobl ifanc • Adroddiadau’r Comisiynwyr Plant (4 gwlad) • Sylwadau i gloi • Cynllun gweithredu Llywodraeth y Cynulliad • Grŵp monitro
Pwerau datganoledig • Addysg • Gwaith ieuenctid • Chwarae • Datblygu cymunedol • Gwasanaethau Cymdeithasol • Pwerau annatganoledig • Heddlu • Gwasanaeth Erlyn • y Goron • Llysoedd • Y ddalfa PWERAU DATGANOLEDIG AC ANNATGANOLEDIG Timau/Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R HEDDLU 1 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol • Darparu hyfforddiant ar Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn i bob oedolyn sy’n gweithio gyda phlant, yn cynnwys yr heddlu • Gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod lles gorau’r plentyn yn rhan o bob deddf neu bolisi sy’n effeithio ar blant, yn cynnwys ym maes cyfiawnder troseddol a mewnfudo • Hyrwyddo’r egwyddor o barch i farn y plentyn yn y llysoedd ac mewn unrhyw achosion eraill sy’n effeithio ar y plentyn • Meddyliwch eto am y defnydd o ASBOs – efallai eu bod yn mynd yn groes i hawliau plant i symud o gwmpas yn rhydd ac i ymgynnull • Meddyliwch eto am y defnydd o ddyfeisiau mosgito a mesurau eraill – efallai eu bod yn mynd yn groes i hawliau plant i symud o gwmpas yn rhydd ac i ymgynnull
SYLWADAU CLO’R CENHEDLOEDD UNEDIG 2008 SYDD FWYAF PERTHNASOL I’R HEDDLU 2 Rhaid i Lywodraeth y Cynulliad/y DU wneud y canlynol 6. Sicrhau bod plant yn cael eu diogelu gan y gyfraith ac yn ymarferol rhag ymyrraeth anghyfreithlon dianghenraid â’u hawl i breifatrwydd 7. Ymchwilio i pam mae pobl ifanc yn eu harddegau yn defnyddio cyffuriau ac alcohol er mwyn gallu datblygu rhaglenni i leihau’r defnydd o gyffuriau ac alcohol 8. Codi oedran cyfrifoldeb troseddol 9. Canfod atebion eraill yn lle cadw plant sydd mewn trafferth gyda’r heddlu yn y ddalfa 10. Sicrhau mai’r dewis olaf fydd cadw plant yn y ddalfa a bod hynny’n cael ei wneud am y cyfnod byrraf posibl
DEDDFWRIAETH A PHOLISÏAU HAWLIAU PLANT YNG NGHYMRU • Deddf Plant 2004 – mabwysiadodd Llywodraeth y Cynulliad Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn fel sail i bob polisi plant • Saith nod craidd – yn seiliedig ar y Confensiwn • Cynllun Gweithredu Cenedlaethol – Gwneud Pethau’n Iawn 2009 – yn mynd i’r afael ag 16 blaenoriaeth ar gyfer Cymru • Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) – pasiwyd yn 2010 • Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) – bydd Gweinidogion yn gorfod ystyried y Confensiwn wrth wneud eu holl benderfyniadau
YR ERTHYGLAU MWYAF PERTHNASOL I’R HEDDLU • Erthygl 12 – hawl i gael eich clywed • Erthygl 15 – hawl i gyfarfod plant a phobl ifanc eraill • Erthygl 16 – hawl i breifatrwydd • Erthygl 22 – mae gan blant sy’n ffoaduriaid yr un hawliau â phlant a anwyd yng Nghymru • Erthygl 31 – hawl i chwarae • Erthygl 37 – os yw pobl ifanc yn torri’r gyfraith, ni ddylid eu trin yn greulon • Erthygl 40 – os yw pobl ifanc yn cael eu cyhuddo o dorri’r gyfraith, dylid darparu cymorth cyfreithiol iddynt