110 likes | 261 Views
SGILIAU SYRCAS : SGILIAU CYDBWYSEDD. At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC. GÊM UN. Gêmau ystwytho corfforol. Sownd yn y Mwd
E N D
SGILIAU SYRCAS: SGILIAU CYDBWYSEDD At ddefnydd TGAU Celfyddydau PerfformioCBAC
GÊM UN Gêmau ystwytho corfforol Sownd yn y Mwd • Mae un person ‘arno’. Nod y gêm yw ticio aelodau eraill y grŵp. Pan gewch eich ticio rhaid ichi ‘rewi’ â’ch coesau ar led a’ch breichiau i fyny. I’ch ‘dadrewi’ rhaid i aelodau eraill y grŵp gropian rhwng eich coesau. Diwedd y gêm fydd pan fydd pob aelod o’r grŵp wedi rhewi neu bod yr arweinydd yn galw am orffen y gêm. • Noder: Does dim modd ticio (rhewi) aelodau’r gêm pan fyddant wrthi’n dadrewi rhywun arall! • Gallwch amrywio’r gêm drwy ddewis gwahanol safleoedd i rewi ynddyn nhw, fel safle ci (safle ffrâm-A). Gall hyn helpu ystwytho gwahanol rannau o’r corff.
GÊM DAU Gêm cydsymud Ôl Traed Nain • Rhaid i bawb sefyll â’u cefnau yn erbyn y wal, ac un aelod (A) i sefyll ar ochr arall yr ystafell gyda rhywbeth wrth ei draed. Rhaid i weddill aelodau’r grŵp groesi’r ystafell a bod y cyntaf i godi’r eitem er mwyn ennill y gêm. • Tra bydd A yn edrych ar y grŵp rhaid iddyn nhw beidio symud – rhaid iddyn nhw ‘rewi’ yn eu hunfan. Wedyn bydd A yn troi ei gefn ar y grŵp a fydd yn nesáu at yr eitem gymaint ag y gallant cyn i A droi i’w hwynebu, pryd bydd raid iddynt ‘rewi’ eto. Aiff y gêm yn ei blaen fel hyn nes i un person gipio eitem A. Os bydd A yn gweld unrhyw un yn symud, gall ei anfon yn ôl at y wal i gychwyn eto. • Fel amrywiadau, gellir cael thema fel bod rhaid i bobl rewi mewn ystum sy’n gweddu i thema fel ‘Y Traeth’ neu ‘Arwyr comig’ er enghraifft.
GÊM TRI Gêm canolbwyntio Cylch Cyswllt Llygaid • Ffurfiwch gylch. Bydd un person yn gwneud cyswllt llygaid â rhywun arall yn y grŵp, wedyn yn dechrau cerdded tuag ato/ati. Unwaith mae’r weithred yn amlwg, rhaid i’r un a dderbyniodd y cyswllt llygaid wneud cyswllt llygaid ag aelod arall o’r cylch a dechrau cerdded tuag ato/ati. Bydd y patrwm wedyn yn mynd ymlaen fel hyn. • Gwnewch gyswllt llygaid amlwg a CHLIR ag aelodau eraill y grŵp a byddwch yn effro ac yn barod i ymateb pan fydd rhywun yn dewis gwneud cyswllt llygaid â chi. • I’w gwneud yn anoddach, cerddwch yn gyflymach neu ddechrau patrwm arall fel bod dau neu ragor o batrymau’n mynd ar yr un pryd.
Sgiliau sylfaenol • Ar ddechrau pob sesiwn bydd eich athro’n ymarfer elfennau sylfaenol y sgiliau’n gyflym. Bydd hyn yn help i gadarnhau’r hyn sy’n cael ei ddysgu ac yn gwella eich techneg gyffredinol. • Os ydych chi o hyd yn ceisio triciau newydd heb fyth ymarfer y sgiliau sylfaenol, ni fydd dim o’ch triciau’n gadarn i’w perfformio. Bydd hyn hefyd yn eich ystwytho’n barod i roi cynnig ar driciau mwy heriol. • Rhestrir rhai o’r sgiliau sylfaenol ar y sleidiau nesaf.
SGÌL UN Stiltiau • Cerdded – pan fyddwch wedi meistroli hyn mae’n dal yn bwysig ymarfer y sgìl sylfaenol hon yn rheolaidd er mwyn osgoi codi arferion drwg fel peidio codi’r pengliniau’n iawn, troi’r traed tuag i mewn, neu ymddaliad gwael. • Neidio – bydd eich athro’n ceisio datblygu eich hyder yn raddol yn hyn o beth drwy ymarfer neidio’n rheolaidd gan sicrhau bod y dechneg gywir gennych chi.
SGÌL DAU Rola Bola • Yn bennaf oll, peth da yw dal i chwarae â’r cydbwysedd sylfaenol. Sicrhewch eich bod yn gallu cadw cydbwysedd a sadrwydd ar y rola bola ac wedyn arbrofwch i weld pa mor bell y gallwch ogwyddo’r bwrdd wrth ddal i gadw cydbwysedd.
SGÌL TRI Beic un olwyn • Yr hanfod cyntaf yw gwneud yn siŵr eich bod yn gallu reidio’r beic. Os nad ydych, bydd eich athro’n rhoi cymorth lle bo angen. • Stamina – gall reidio beic un olwyn am unrhyw gyfnod o amser fod yn waith blinedig iawn felly mae’n hanfodol adeiladu stamina. Gellir gwneud hyn a chael hwyl ar yr un pryd drwy reidio cylch penodol neu o gwmpas tir yr ysgol. • Sefyllian – sgìl hanfodol iawn er mwyn rheolaeth a llawer o driciau anoddach, felly da o beth yw ichi ymarfer hyn mor gynnar ag sy’n bosib.
Sgiliau uwch a dilyniant • Ar ôl treulio ychydig o amser yn mynd trwy’r sgiliau sylfaenol, bydd eich athro/athrawes yn siarad â chi i weld pa driciau newydd yr hoffech eu dysgu ac yn cynnig cyngor ynghylch pa dechnegau sydd orau i’w hymarfer. • Wrth ganolbwyntio ar un tric newydd am sesiwn, byddwch yn aml yn gallu ei ddysgu erbyn diwedd y wers, a byddwch yn teimlo ichi gyflawni rhywbeth.
Creu trefniant sylfaenol • Mae creu trefniant yn rhan hanfodol o berfformio syrcas, felly syniad da iawn yw dysgu’r sgiliau sylfaenol nawr. • Perfformiwch y triciau y rydych chi’n gyfforddus â nhw yn gyntaf, cyn gorffen gyda’r tric newydd y buoch chi’n ei ymarfer yn y sesiwn honno.
Dangos yr hyn a ddysgwyd • Mae perfformio’n rheolaidd o flaen cynulleidfa’n hanfodol hefyd wrth ddysgu syrcas. • Cynhaliwch sioe fach ar ddiwedd pob sesiwn lle gall pob un berfformio yn ei dro, yn unigol, fesul dau neu mewn grwpiau. • Bydd hyn yn gwella eich presenoldeb llwyfan yn aruthrol ac yn helpu lleihau nerfau yn y dyfodol. • Mae’n bwysig eich bod yn gefnogol iawn i’ch cyd-berfformwyr yn y rhan hon o’r sesiwn.