20 likes | 244 Views
Cylchlythyr Iaith a Chwarae. Croeso i rifyn diweddaraf Cylchlythyr Lap/Nap Abertawe. Rydym wedi cael amser prysur, gan weithio mewn mwy o ysgolion, meithrinfeydd dydd, grwpiau rhieni a phlant bach a gwarchodwyr plant. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio mewn mwy o leoliadau
E N D
Cylchlythyr Iaith a Chwarae Croeso i rifyn diweddaraf Cylchlythyr Lap/Nap Abertawe. Rydym wedi cael amser prysur, gan weithio mewn mwy o ysgolion, meithrinfeydd dydd, grwpiau rhieni a phlant bach a gwarchodwyr plant. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio mewn mwy o leoliadau Dechrau'n Deg a hefyd yn hyfforddi staff Dechrau'n Deg i ddefnyddio iaith a chwarae yn eu lleoliadau. Rydym am groesawu Sioned o MYM sy'n cyflwyno IaCh yn eu grwpiau chwarae. Yr Haf 2008 Gwarchodwyr plant Cyflwynodd Louisa raglen iaith a chwarae gyda grŵp o warchodwyr plant o Abertawe. Gwnaethant fwynhau rhannu syniadau ar gyfer gweithgarwch yn eu lleoliadau'n fawr a bydd mwy o blant yn elwa o ddatblygiad iaith ychwanegol. Rydym wedi dysgu llawer o syniadau creadigol newydd i'w defnyddio gyda'r plant gan wneud ein swyddi'n haws. (Gwarchodwyr plant)
Grŵp Chwarae Ysgol Gynradd y Cwm Rydym wedi parhau i gefnogi'r gwasanaeth hwn gydag adnoddau a chefnogaeth ac maent hwythau yn eu tro wedi bod yn cynnal rhaglen iaith a chwarae. Maent wedi parhau i gyrraedd teuluoedd yn yr ardal gan helpu i wella datblygiad iaith. Canolfan Blant Abertawe Mae CBA yn un o leoliadau Dechrau'n Deg yn Abertawe sydd wedi cynnal rhaglen iaith a chwarae i rieni Dechrau'n Deg. Cyflwynodd Luciana'r sesiynau hyn gyda grŵp brwdfrydig, oll yn mwynhau chwarae a gwneud crefftau gyda'r plant. Cysylltiadau Rydym wedi parhau i ddatblygu ein cysylltiadau â TWF a Dechrau Da, gan gefnogi diwrnod TWF gydag S4C yn yr LC2 newydd ac wythnos Dechrau Da yn y llyfrgell ganolog newydd yn y ganolfan ddinesig. Rydym hefyd yn parhau i weithio gyda WPPA, yn cyflwyno iaith a chwarae mewn amrywiol leoliadau rhieni a phlant bach yn Abertawe gyda'u gweithiwr LAP Yvonne Shore. Roedd yr hyfforddiant yn dda, yn enwedig y cyfle i gwrdd ag eraill a thrafod syniadau. Bellach mae gennyf syniadau i'w profi yn fy lleoliad i. (Hyfforddai ar y cwrs) Hyfforddiant a Digwyddiadau Rydym wedi bod yn brysur yn mynychu digwyddiadau hyfforddi amrywiol, megis Cynhadledd Sgiliau Sylfaenol y Blynyddoedd Cynnar yng Nghaerdydd ac rydym yn parhau i gyflwyno ein hyfforddiant ein hunain i fwy o ymwelwyr iechyd, gweithwyr plant a gofalwyr. Os oes gennych ddiddordeb yn yr hyfforddiant AM DDIM neu am gynnal cwrs Lap neu Nap AM DDIM, ffoniwch: Tracie Jennett ar 01792 572063