200 likes | 367 Views
Derbyn Cyd-destunol yn yr amgylchedd cystadleuol Digwyddiad SPA: Profiad Ymgeiswyr yng Nghymru - 4 Mehefin 2014 Janet Graham, Cyfarwyddwr SPA. Ysgogwyr polisi allanol yn effeithio ar dderbyn 1.
E N D
Derbyn Cyd-destunol yn yr amgylchedd cystadleuolDigwyddiad SPA: Profiad Ymgeiswyr yng Nghymru - 4 Mehefin 2014Janet Graham, Cyfarwyddwr SPA
Ysgogwyr polisi allanol yn effeithio ar dderbyn 1 • Marchnad gystadleuol newydd - chwilio am effeithlonrwydd a phwyntiau gwerthu unigryw o ran safon gwasanaeth a'r hyn a gynigir, tra'n gwella mynediad i fyfyrwyr dan anfantais a sicrhau derbyn teg • Cystadleuaeth gynyddol rhwng SAUau a gyda darparwyr AU ac AB a darparwyr annibynnol newydd, UK plc: cystadleuaeth fyd-eang, tablau cynghrair • Newidiadau a datblygiadau i'r cwricwlwm cyn-AU - diwygio lefel TGAU, A/AS, Bagloriaeth Cymru - newidiadau eraill o gwmpas y DU • Cod Ansawdd y DU Asiantaeth Sicrhau Ansawdd - Pennod B2 yn ymdrin â derbyn
Ysgogwyr polisi allanol yn effeithio ar dderbyn 2 • Newidiadau UCAS - i broses dderbyn a Thariff UCAS • Problemau ynglŷn â chyngor a chanllawiau i ddarpar fyfyrwyr • Dadreoleiddio rheoli niferoedd myfyrwyr yn Lloegr - yr effaith ar draws y DU • Ffioedd dysgu ac arian myfyrwyr - polisïau'n amrywio o gwmpas y DU • Ymgyrchu am fynediad teg ac i ymestyn mynediad • Demograffeg - llai o ymgeiswyr ifanc hyd at 2020 • Darparwyr AU yn recriwtio ar draws y DU, gan newid patrymau ymddygiad AU
Heriau Sefydliadol sy'n wynebu Derbyn • Cyrraedd targedau o ran niferoedd myfyrwyr a grwpiau a dangynrychiolir - cael y cydbwysedd cywir • Cadw cofnodion da, systemau TG ar gyfer dadansoddi data derbyn a gwybodaeth am y farchnad • Rheoli newid - cynllunio, derbyn a recriwtio myfyrwyr yn cydweithio • Gweithredu polisi - Tracio a Gwerthuso: yn fewnol, UCAS Strobe • Safon profiad ymgeiswyr a myfyrwyr, yn cynnwys ymgysylltu, gwybodaeth ac arweiniad cyn mynediad a chefnogaeth dysgu • Hyrwyddo llwyddiant academaidd - mynediad, pontio, cadw, cyflogadwyedd
Derbyn teg mewn amgylchedd cystadleuol Mae'r gystadleuaeth rhwng darparwyr AU yn cynyddu. Mae yna angen cynyddol i chwilio am fyfyrwyr â photensial o ystod ehangach o gefndiroedd.
Beth yw derbyn cyd-destunol? • Diffinnir derbyn cyd-destunol fel gwybodaeth gyd-destunol a data cyd-destunol yn cael ei ddefnyddio gan ddarparwyr AU i asesu cyraeddiadau blaenorol ymgeiswyr a'u potensial i lwyddo mewn addysg uwch yng nghyd-destun yr amgylchiadau y bu iddynt lwyddo ynddynt. • Adroddiad SPA: • http://www.spa.ac.uk/information/contextualdata/spasworkoncontextual/cdresearch2013/
Rhagoriaeth Academaidd Cystadleuaeth Cronfa dystiolaeth Cynyddu'r gronfa ymgeiswyr Ysgogwyr polisi allanol Amrywiaeth fel gwerth addysgol Derbyn teg "Rydym yn ymwybodol iawn o'r gwahaniaethau sydd allan yna, ac mae'n amlwg pan fo myfyrwyr yn dod atom i astudio nad yw'r rhai disgleiriaf bob amser yn cyrraedd â'r graddau gorau." Pan fod data cyd-destunol yn cael ei ddefnyddio?
Derbyn teg mewn amgylchedd cystadleuol • Felly a yw hyn yn golygu symud oddi wrth gadernid academaidd a safonau uchel? Nac ydyw. • Mae'n ymwneud â chefnogi cyflwyno derbyn teg a chynnal safonau academaidd uchel. • Mae'n ymwneud â cheisio rhagoriaeth drwy adnabod yr ymgeiswyr 'gorau' sydd â'r potensial a'r tebygolrwydd mwyaf o raddio'n llwyddiannus.
Tystiolaeth 1: Beth sy'n bwysig wrth fesur potensial academaidd? 'Safon aur' gwyddonol: data da ar lefel unigol Cafeatau: Argaeledd data Arbenigedd a chost Cyfyngiadau (yn aml, ymgeiswyr AU ifanc yn byw yn y DU) Allgymorth neu / a derbyn
Mae myfyrwyr o wahanol fathau o ysgolion yn perfformio'n wahanol. Yn y rhan fwyaf o'r ymchwil, mae’r myfyrwyr o ysgolion gwladol yn perfformio'n well na myfyrwyr o ysgolion annibynnol neu mae'r rhai o ysgolion sy'n perfformio'n salach yn perfformio'n well na'r rhai o ysgolion sy'n perfformio'n well. (Rhydychen, Bryste, Caerdydd, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr , Sefydliad yr Alban) Nid yw hyn yn cael ei gadarnhau mewn un astudiaeth achos gan nad oedd yr ysgol yn effeithio ar ganlyniadau gradd (Caergrawnt) Mae astudiaethau'n defnyddio gwahanol ffyrdd o ystyried a mesur anfantais yn ogystal â chyrhaeddiad. Tystiolaeth 2: Yr un graddau yr un potensial
Buddion cadarnhaol i ddarparwyr unigol (recriwtio, cyfnewid, dangosyddion perfformiad) "...gall hyn ond gweithio os ydych yn cael yr ymgeiswyr....i wneud hynny mae'n rhaid i chi newid y syniad nad yw'r brifysgol 'yn gweddu i fi'." Mae ymchwil cymharol i berfformiad myfyrwyr cyd-destunol yn cefnogi'r dull Mae ymchwil i ganlyniadau grwpiau allgymorth WP yn cadarnhau perfformiad (e.e. PARTNERIAID, CAMAU) Creu ymrwymiad i'r rhai â dderbynnir Tystiolaeth 3:Dilyniant cadarnhaol pan fo myfyrwyr yn cael eu derbyn gan ddefnyddio data cyd-destunol
Tystiolaeth 4: Troi tystiolaeth yn weithredu Cymhwyso data cyd-destunol yn 'ffurfiol' i broses benderfynu holistig 'F' - fflagio; 'T' - triongliant; 'A' - addasu sgoriau (h.y. cyfrifo graddau a addaswyd er mwyn adlewyrchu perfformiad cymharol yn ogystal â defnyddio gwir raddau). 'C' tebygol iawn neu gyfweliad gwarantedig; CG - cynnig gwarantedig; CC/CA - cynnig wedi'i gymhwyso ar sail unigol/ cynnig wedi'i addasu - ar ben isaf yr ystod
Data cyd-detunol ar gyfer Darparwyr Addysg Uwch, am ddim, drwy UCAS ar gyfer 2014 • Cefndir Addysgol • Perfformiad ysgol: % y myfyrwyr sy'n llwyddo i gael 5+ TGAU A*-C yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gyfwerth yn Yr Alban) • Sgôr pwyntiau cyfartalog yn ôl ysgol, "8 gorau" TGAU (neu berfformiad gradd safonol SCQF lefel 4) • Cymedr pwyntiau QCA am bob lefel A ac am bob myfyriwr (neu gyfwerth yn Yr Alban) • Cefndir Economaidd Gymdeithasol • % y myfyrwyr sydd â hawl i gael cinio ysgol am ddim yn ôl Ysgol (data hanesyddol yn unig gan Awdurdodau Lleol) • % y myfyrwyr sydd â hawl i gael LCA (ac eithrio Lloegr) • Bywydau mewn cymdogaeth â dilyniant isel i addysg uwch (POLAR 2 a POLAR 3) yn deillio o god post • SIMD Mynegai'r Alban o Amddifadedd Lluosog (fersiwn SFC) • Cyflenwir gan UCAS, os bydd prifysgolion a cholegau'n cofrestru i'w dderbyn. Basged Ddata
Defnyddio setiau data lluosog Delio â data coll (D.S. Safoni) Defnyddio dangosyddion lluosog Triongliant Gwirio gwybodaeth - yn arbennig gwybodaeth wedi'i datgan gan yr unigolyn, e.e. gwirio 'mewn gofal' Defnyddio data wedi ei rancio ar gyfer gwneud penderfyniadau Defnyddio gwybodaeth ychwanegol ar gyfer penderfyniadau ffiniol Arferion defnyddiol
Defnyddio data cyd-destunol a gwybodaeth wedi eu halinio â chenhadaeth strategol Gall data cyd-destunol fod yn rhan fuddiol o dderbyn holistig Uwch dîm rheoli yn ei dderbyn ac yn rhoi cymorth rhagweithiol Cadw cofnodion da Systemau wedi eu cysylltu â’i gilydd er mwyn ehangu cyfranogiad, derbyn, cynllunio, dilyniant myfyrwyr, graddio a thu hwnt - cylch bywyd myfyriwr Creu / defnyddio cronfa ddata 'sylfaenol' y Sefydliadau Addysg Uwch eu hunain O'r adroddiad i'r arferiad:
Gwybod pa ddata sydd ar gael a sut i'w ddefnyddio Staff wedi'u hyfforddi'n briodol Tryloywder ynglŷn â sut a phryd y defnyddir data cyd-destunol Dull wedi’i integreiddio o ran allgymorth/WP a derbyn Ac yn ddelfrydol er mwyn cefnogi profiad myfyrwyr, cadw myfyrwyr a graddio 'Nid yw mynediad heb gefnogaeth yn gyfle' Os yn bosibl, rhannu arbenigedd, creu cronfa ddata gymharol O'r adroddiad i'r arferiad:
Pwysigrwydd strategol derbyn cyd-destunol: Mae‘n cefnogi profiad ymgeiswyr Mae'n helpu i ganfod ymgeiswyr allai fanteisio ar gefnogaeth ychwanegol Mae'n hwyluso cyrraedd targedau Mae'n gwella safon y rhai a dderbynnir drwy ganfod potensial Mae'n ehangu cyfranogiad ac yn gwella amrywiaeth y myfyrwyr Gall gynorthwyo gyda symudedd cymdeithasol Mae'n help gyda gweithredu derbyn teg Mae'n help gydag asesu ymgeiswyr ar gyfer cefnogaeth ariannol
Janet Graham, Cyfarwyddwr, SPA Ffôn 01242 544919 e-bost: j.graham@spa.ac.uk Diolch www.spa.ac.uk