60 likes | 182 Views
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Technoleg Cerdd Cyd-destun a dehongli eich trac sain. Tasg 1 – Arddull a chyfnod. Ymchwiliwch i arddull, cyfnod a chefndir y cyd-destun/ thema sydd wedi’i ddewis ar gyfer eich perfformiad.
E N D
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Technoleg Cerdd Cyd-destun a dehongli eich trac sain
Tasg 1 – Arddull a chyfnod • Ymchwiliwch i arddull, cyfnod a chefndir y cyd-destun/ thema sydd wedi’i ddewis ar gyfer eich perfformiad. • Gallai hyn fod ar ffurf prosiect; dylech gynnwys • Enghreifftiau o ddarnau o gerddoriaeth (mp3 / midi) • Hanes y genre • Cyfansoddwyr enwog • Perfformwyr enwog • Arddull a ffasiynau’r cyfnod
Tasg 2 - Trefnu • Cyn creu eich trefniant eich hun mae’n hanfodol eich bod yn gwrando ar drefniannau eraill. • Os gallwch ddod o hyd i fwy nag un, cymharwch nhw. • Ymchwiliwch ar y we i ganfod unrhyw sgoriau digidol a allai fod ar gael ichi fel man cychwyn. • Oes yna ffeil MIDI o’r alaw ar gael?
Tasg 3 – Alaw a geiriau • Cyfansoddwch eich geiriau eich hun neu chwiliwch am set o eiriau i’w defnyddio. • Dodwch y prif acenion ar eich geiriau. • Ydy gair cyntaf pob llinell yn bwysig, neu air yn y canol? • Meddyliwch sut y byddech chi’n rapio’r geiriau. • Meddyliwch am y patrymau rhythmig fel rhan o’r broses gyfansoddi a cheisiwch nodiannu’r rhythmau – gallech benderfynu ar fwy nag un patrwm cyn gwneud penderfyniad terfynol.
Tasg 4 - Naws • Cyfansoddwch jingl hysbyseb fer i greu naws hapus mewn dim mwy na phedwar bar. • Cyfansoddwch ragflas byr i ffilm i greu naws drist/ brawychus mewn dim mwy na phedwar bar. • Beth oedd yn hawdd / anodd am y dasg hon? • Beth fyddech chi’n ei newid yn y dyfodol yn y ddau ddarn?
Tasg 5 – Gwrando ar enghreifftiau • Gwyliwch a gwrandewch ar berfformiad drama, pantomeim neu ffilm lle defnyddir cerddoriaeth i atgoffa’r gynulleidfa am gymeriad neu leoliad. • Gwerthuswch effaith y gerddoriaeth. • Ble a sut y caiff y gerddoriaeth ei hailadrodd? • Oes yna thema i bob cymeriad/ lleoliad? • Ble mae’r gerddoriaeth yn hapus / yn drist / yn ddramatig? • Ydy’r gerddoriaeth yn rhan o’r olygfa neu’n gerddoriaeth gefndir?