80 likes | 245 Views
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBAC Uned 1 ac Uned 3 Tasg 1. Technoleg Cerdd Creadigrwydd wrth gyfansoddi. Tasg 1 Offerynnau a lleisiau. Ymchwiliwch i alluoedd gwahanol offerynnau/ lleisiau drwy ymchwil personol ar y we.
E N D
At ddefnydd TGAU Celfyddydau Perfformio CBACUned 1 ac Uned 3 Tasg 1 Technoleg Cerdd Creadigrwydd wrth gyfansoddi
Tasg 1 Offerynnau a lleisiau • Ymchwiliwch i alluoedd gwahanol offerynnau/ lleisiau drwy ymchwil personol ar y we. • Gwnewch dabl gydag enwau’r offerynnau a’u hamrediad traw ac unrhyw bwyntiau technegol y gallai fod angen eu cofio. • Gwnewch restr o fanteision defnyddio offerynnau penodol a’r gofynion technegol perthnasol wrth ysgrifennu ar gyfer offerynnau penodol.
Tasg 2 - Cyfuno • Gwrandewch ar ddarnau o gerddoriaeth sy’n defnyddio gwahanol gyfuniadau o offerynnau a lleisiau. • Trafodwch ba effaith y mae gwahanol offerynnau/ leisiau’n ei chael ar gyfansoddiadau penodol. • Ystyriwch sut y byddai un darn yn swnio’n wahanol o newid un offeryn. • Defnyddiwch ffeiliau MIDI i gludo darn i mewn i ddilyniannwr a newid y synau i weld beth yw’r effaith.
Tasg 3 – Cyweiriau a graddfeydd • Cyn dechrau cyfansoddi arbrofwch gyda gwahanol gyweiriau a graddfeydd. • Ymchwiliwch i’r cyweiriau a’r graddfeydd canlynol a gwrandewch ar enghreifftiau: • Cywair Mwyaf • Cywair Lleiaf • Cywair Moddol • Graddfa Tonau Cyfan • Graddfa Gromatig • Graddfa Bentatonig
Tasg 4 – Alaw dda • Cyfansoddwch gyfres o alawon byr: • Alaw 1 – gyda symudiadau camu yn unig. • Alaw 2 – gyda symudiadau naid yn unig. • Alaw 3 – cyfuniad o gamu a neidio. • Alaw 4 – camau i gyd ac un naid. • Alaw 5 – neidiau i gyd ac un cam. • Beth yw nodweddion da a gwael pob alaw?
Tasg 5 - Cordiau • Cyfansoddwch gyfres o ddilyniannau cordiau: • Cyfansoddwch 4 bar gan ddefnyddio cordiau I, IV a V yn eu safle gwreiddiol. • Cyfansoddwch 4 bar gan ddefnyddio cordiau I, IV a V mewn unrhyw safle. • Cyfansoddwch 4 bar gan ddefnyddio cordiau I, IV, V, ii a vi mewn unrhyw safle. Gwerthuswch nodweddion da a gwael pob dilyniant cordiau a meddyliwch sut y gallech wella pob un.
Tasg 6 –Datblygu alaw • Cyfansoddwch alaw 4 bar gan ddefnyddio curiadau crosiet yn unig. • Ailysgrifennwch yr alaw gan ddefnyddio amrywiaeth o wahanol rythmau. • Gwnewch hyn dair gwaith fel eich bod wedi datblygu pedair alaw wahanol o un syniad gwreiddiol. • Pa alaw yw’r orau/ waethaf yn eich barn chi? Esboniwch eich atebion.
Tasg 7 - Strwythur • Gwrandewch ar amrywiaeth o ganeuon/ ddarnau offerynnol a nodwch beth yw adeiledd cyffredinol y darn. • Cymharwch elfennau tebyg a gwahanol rhwng caneuon a darnau offerynnol. • Penderfynwch ar strwythur a chyfansoddwch eich darn eich hun o fewn y strwythur hwn.