E N D
Amcanion y modiwl • Rhoi cyfle i edrych ar y deilliannau dysgu yn yr elfen ‘Rheoli arian’ yng nghydran rhifedd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) i weld ble mae addysgu dysgwyr am gyfrifo gan ddefnyddio arian tramor yn bodoli yn y cwricwlwm yng Nghymru. • Tynnu sylw at yr adnoddau a’r gweithgareddau y gellir eu defnyddio yng Nghyfnodau Allweddol 3 a 4 i ddatblygu sgiliau rhifedd dysgwyr yng nghyd-destun cyfrifo gan ddefnyddio arian tramor. • Sylwch: Bydd gwahaniaethu, syniadau ymestyn a chwestiynu effeithiol yn cael eu hawgrymu’n aml yn y nodiadau o fewn y PowerPoint i athrawon/hyfforddwyr eu defnyddio yn ôl yr angen.
Nodau’r dysgwyr • Mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r broses o gyfrifo gan ddefnyddio cyfraddau cyfenwid ac arian tramor. • Bydd dysgwyr yn gallu: • gwerthfawrogi lleoedd/ffyrdd gwahanol o brynu arian tramor • gwneud cyfrifiadau gan ddefnyddio cyfradd cyfnewid benodol • deall a dangos y broses go iawn o gyfnewid arian tramor.
Y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) • Mae'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (FfLlRh) yn canolbwyntio ar bedwar llinyn rhifedd: • Llinyn 1: Datblygu ymresymu rhifyddol • Llinyn 2: Defnyddio sgiliau rhif • Llinyn 3: Defnyddio sgiliau mesur • Llinyn 4: Defnyddio sgiliau data.
Cydran rhifedd y FfLlRh • Llinyn: Defnyddio sgiliau rhif • Elfennau: • Defnyddio ffeithiau rhif a’r berthynas rhwng rhifau • Ffracsiynau, degolion, canrannau a chymhareb • Cyfrifo gan ddefnyddio dulliau meddwl ac ysgrifenedig • Amcangyfrif a gwirio • Rheoli arian
Deilliannau dysgu’r FfLlRh Mae’r tablau canlynol yn dangos y deilliannau dysgu fel y’u nodir yng nghydran rhifedd y FfLlRh. Mae’r modiwl hwn yn canolbwyntio ar y pwnc arian tramor ac mae’r deilliannau dysgu penodol wedi’u hamlygu mewn teip trwm.
Arian tramor Gweithgaredd cychwynnol: Beth yw cyfradd cyfenwid? Pam mae cyfraddau cyfnewid yn bodoli?
Arian tramor a chyfraddau cyfenwid Gweithgaredd trafod: Ble allwch chi brynu arian tramor? Ydyn nhw i gyd yn cynnig yr un gyfradd cyfnewid?
Adding up to a lifetime Adnodd ar-lein rhad ac am ddim yw hwn sy’n dilyn pedwar cymeriad a sut maen nhw’n delio â sefyllfaoedd ariannol. Mae’n addas ar gyfer Cyfnodau Allweddol 3 i Gyfnod Allweddol 5. Mae’r pecyn yn cynnwys tua 25 awr o weithgareddau dysgu y gall dysgwyr eu cwblhau ar-lein. Caiff ei gyflwyno fel pum modiwl: • Bywyd fel myfyriwr (14 oed a hŷn) • Bywyd gwaith • Perthnasoedd • Bywyd newydd • Ymddeoliad egnïol. Mae’r modiwlau’n cynnig yr ystod lawn o bynciau rheoli arian. www.addinguptoalifetime.org.uk Mae tiwtorial sain gyda phob modiwl y gallwch wrando arno yn Gymraeg neu yn Saesneg.
Adding up to a lifetime Mae’r modiwl ‘Bywyd fel myfyriwr (Life as a student)’ yn archwilio amryw o bynciau. Ewch i www.addinguptoalifetime.org.uk (Saesneg yn unig), cliciwch ar ‘Menu’ a dewiswch y pwnc ‘Holidays’. Mae’r adnodd yn cwmpasu cyllidebu ar gyfer gwyliau, cyrchfannau, arian (tramor) ac yswiriant. Gall y gwaith gefnogi datblygiad sgiliau llythrennedd a rhifedd dysgwyr ac unrhyw waith prosiect ar wyliau.
Ar gyfer pob punt rwy’n cael 1.17 ewro. Ar gyfer pob punt rwy’n cael ychydig dros un a hanner gwaith yn fwy o ddoleri UDA. Ar gyfer pob punt rwy’n cael ychydig llai na 3 lira Twrci.
Arwyddion arian tramor Mae arwydd arian tramor yn symbol graffig a ddefnyddir fel llaw-fer ar gyfer enw’r arian tramor, a chaiff ei ddefnyddio i gynrychioli swm o arian. Ble mae’r arwydd wedi’i leoli – o flaen neu ar ôl y rhifau? Wrth ysgrifennu swm o arian mae safle'r symbol yn amrywio yn ôl yr arian tramor. Mae arian tramor yn defnyddio pwynt degol weithiau ac mae rhai yn defnyddio coma. $
Papurau punt a cheiniogau Syniad trafod: Faint o geiniogau sydd mewn punt? Faint o sentiau sydd mewn un doler UDA? Sawl sent sydd mewn un ewro? Syniad trafod: Oes papur £3? Neu ddarn arian 25¢? Beth yw’r darn arian mwyaf sydd ar gael mewn ewros? $
$100, $50, $20, $10, $5, $2, $1 Gall dysgwyr ymchwilio i ba ddarnau arian a phapurau punt sy’n cael eu defnyddio yn yr arian tramor o’u dewis. Rhoddir dwy enghraifft uchod. Mewn cyd-destun go iawn, wrth efelychu prynu arian tramor ar-lein, efallai y bydd dysgwyr yn sylwi y caiff y swm ei dalgrynnu i’r papur neu’r darn arian agosaf. Mae’n bosib y bydd hyn yn cynnwys comisiwn.
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfnewid Defnyddiwch y cyfraddau cyfenwid a roddwyd i gyfrifo swm yr arian tramor y byddwch chi’n ei gael am £400. Ceisiwch annog y dysgwyr i feddwl hefyd am y gwerthoedd bras y gallen nhw eu defnyddio i wneud y cyfrifiad.
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfnewid Defnyddiwch y cyfraddau cyfenwid a roddwyd i gyfrifo swm yr arian tramor y byddwch yn ei gael am £400. Ceisiwch annog y dysgwyr i feddwl hefyd am y gwerthoedd bras y gallen nhw eu defnyddio i wneud y cyfrifiad.
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid • Aeth Finley ar daith i Efrog Newydd. • Newidiodd £750 i ddoleri ($) pan oedd y gyfradd cyfnewid yn £1 = $1.54.Faint o ddoleri oedd ei wedi’u cael? • Yn Efrog Newydd, prynodd Finley gamera newydd am $199. Gan ddefnyddio’r un gyfradd cyfenwid, cyfrifwch gost y camera, gan roi eich ateb i’r bunt agosaf. • Pan ddaeth Finley adref newidiodd $115 yn ôl i bunnoedd (£) pan oedd y gyfradd cyfenwid yn £1 = $1.64. Faint oedd e wedi’i gael? • Ymestyn • Oedd Finley ar ei ennill oherwydd bod y gyfradd cyfnewid yn $1.64 yn lle $1.54 pan newidiodd ei ddoleri yn ôl i bunnoedd? Rhowch esboniad i gefnogi eich ateb.
Cyfrifo gyda chyfraddau cyfenwid Mae Olivia a James yn rhannu un babell ac yn aros dau noson yn safle gwersyllfa Ewro-wersylla. Maen nhw’n newid punnoedd i ewros ar gyfradd cyfnewid o 1.13 ewro i’r bunt. Cyfrifwch y gost, mewn punnoedd am aros dau noson mewn pabell fach heb unrhyw drydan.
Cyfnewid arian tramor ac ieithoedd tramor modern • Syniadau i’r dysgwyr: • Lluniwch fwydlen bwyty/caffi gyda’r prisiau wedi’u newid o brisiau go iawn. • Prisiwch wyliau o wefan safle gwersylla neu barc thema Ewrop yn eich iaith dramor o ddewis. Os yw’r prisiau mewn ewros, rhan o’r dasg yw cyfrifo’r pris mewn sterling. • Newidiwch y gost i brynu eitemau o wefan ar-lein lle mae’r prisiau a’r wybodaeth yn cael eu rhoi yn yr iaith dramor a addysgir. • Cymharwch arian poced a gweithgareddau gwario dysgwyr o wlad wahanol, neu cymharwch gyflogau mewn ewros â galwedigaethau cyfatebol mewn sterling.
Gwefannau ac adnoddau Gellir defnyddio’r canlynol i helpu gyda gwaith ar arian tramor. • www.nationwideeducation.co.ukSgiliau Arian: gemau, taflenni ffeithiau* a thaflenni gwaith* i ddysgwyr 4 i 18 oed a hŷn (adnoddau argraffiadwy a gemau ar-lein).* Fersiynau Cymraeg ar gael. • www.Addinguptoalifetime.org.ukMae’r modiwlau’n cynnig yr ystod lawn o bynciau rheoli arian gan gynnwys cyllidebu. • www.pfeg.orgMae pfeg (Personal Finance Education Group) yn elusen annibynnol sy’n darparu cyfoeth o adnoddau i gefnogi addysg ariannol mewn ysgolion. • www.xe.com/currencyconverter Cyfraddau cyfnewid ac aps newid arian tramor am ddim ar gael.