170 likes | 340 Views
Cyflwyniad ar Worldskills. Mark Bradley WorldSkills UK, Rheolwr Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru. WorldSkills. Sefydlwyd y Gystadleuaeth Sgiliau Rhyngwladol yn 1950. Cyfeiriwyd atynt cyn hyn fel “Gemau Olympaidd Sgiliau” Caiff ei chynnal bob dwy flynedd
E N D
Cyflwyniad ar Worldskills Mark Bradley WorldSkills UK, Rheolwr Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru
WorldSkills • Sefydlwyd y Gystadleuaeth Sgiliau Rhyngwladol yn 1950. • Cyfeiriwyd atynt cyn hyn fel “Gemau Olympaidd Sgiliau” • Caiff ei chynnal bob dwy flynedd • Ar hyn o bryd mae 51 o wledydd yn cymryd rhan • Cofrestrwyd rhyw 40 o sgiliau swyddogol • Mae’r digwyddiadau yn para am 22 awr dros 4 diwrnod • Mae’r terfyn oed o dan 23 oed ar gyfer y rhan fwyaf o’r cystadlaethau • Gwobrau: Aur, Arian, Efydd, Medaliynau Rhagoriaeth. • 1000 o gystadleuwyr, 250,000 o ymwelwyr • www.worldskills.com
WorldSkills Llundain 2011 • Ym mis Mai 2006 enillodd y DU eu cais i wahodd WorkSkills yn 2011. • Arweiniodd UK Skills y cais gyda chymorth gan bartneriaid a Llywodraethau yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban. • Caiff ei chynnal rhwng 6 a 9 Hydref 2011 yn ExCeL Llundain. Bydd tua 1,200 o gystadleuwyr o oddeutu 60 gwlad yn cystadlu ar 40 o sgiliau dros gyfnod o bedwar diwrnod o gystadlu brwd. • Y nod yw defnyddio WorldSkills Llundain 2011 i greu gwaddol a fydd o fudd i’r Deyrnas Unedig cyn y digwyddiad, yn ystod y digwyddiad ac wedyn. • www.worldskillslondon2011.com
Canlyniadau’r DU • 1 Fedal Aur • 1 Fedal Arian • 2 Fedal Efydd • 9 Medaliwn Rhagoriaeth • Cafodd enillydd y Fedal Aur y drydedd sgôr uchaf erioed yn y Gystadleuaeth • 11eg safle o’r 48 o wledydd a fu’n cystadlu • 2x4ydd lle, 1x5ed lle, 1x6ed lle
Pam cymryd rhan? • Cystadleuwyr: • Profi a herio eu sgiliau – deall pa mor dda ydyn nhw – mesur eu hunain yn erbyn rhai eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol • Cynrychioli eu gwlad, eu diwydiant, eu sgil ar Lwyfan y Byd • Codi safon eu sgiliau a derbyn yr hyfforddiant a’r datblygiad gorau sydd gan y DU i’w cynnig • Y posibilrwydd o dderbyn cymwysterau ychwanegol er mwyn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd ganddynt • Eu gwneud eu hunain yn atyniadol i gyflogwyr ac yn wahanol i bobl eraill • Cael profiad a fydd yn newid eu bywydau!
Pam cymryd rhan? • Cyflogwyr / Sefydliadau Hyfforddi: • Hyrwyddo’r diwydiant a’r sgiliau sydd eu hangen i’w gynnal drwy ddangos rhagoriaeth • Cysylltu eich corff â hyfforddiant o’r radd uchaf • Denu pobl dalentog i weithio a derbyn hyfforddiant o fewn eich diwydiant neu sefydliad • Cael cydnabyddaieth, cyfleoedd marchnata a chysylltiadau cyhoeddus – y gallu i ddangos bod eich busnes neu sefydliad hyfforddi yn wahanol i rai eraill • Meincnodi sgiliau gweithwyr a phobl dan hyfforddiant yn erbyn eraill yn rhanbarthol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol • Codi safonau sgiliau a datblygu hyfforddiant i ddiwallu’r anghenion o ran sgiliau • Hyrwyddo hyfforddiant galwedigaethol a phrentisiaethau a newid agweddau a safbwyntiau tuag at gymwysterau galwedigaethol
WorldSkills UK • WorldSkills UK yw’r enw ar gystadlaethau sy’n cael eu rheoli gan UK Skills a phartneriaid ar draws y DU • Cystadlaethau WorldSkills UK yw’r llwybr i gystadlaethau International WorkSkills • Ar hyn o bryd mae rhyw 60 o gystadlaethau WorldSkills UK yn cael eu cynnal ar wahanol lefelau o sgiliau - www.worldskillsuk.org • Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn cael eu rheoli, eu datblygu a’u cefnogi gan bartneriaid o fewn y diwydiant, Cynghorau Sgiliau Sector ac addysg. • Cynhelir y cystadlaethau yn ystod y flwyddyn academaidd • Nid oes tâl am gystadlu
Cystadlaethau WorldSkills UK Ffeithiau defnyddiol • Cyfyngir ar nifer y cystadleuwyr sy’n cofrestru o un sefydliad hyfforddi unigol. • Dewiswch y cystadleuwyr gorau i’w hanfon i’r gystadleuaeth. • Caniateir cystadleuwyr ychwanegol os ydynt yn dod o gampws gwahanol ac adrannau o fewn sefydliadau hyfforddi mwy o faint. • Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn cael eu cynnig ar wahanol lefelau. • Cystadlaethau ar Lefel Estynedig (Lefel 3) a Lefel Uwch (Lefel 4) yw’r rhai y caiff cystadleuwyr eu hystyried fel rheol ar gyfer rhestr fer. • Os yw cystadleuydd yn ennill yn y rhagbrofion ni chaiff ei wahodd yn awtomatig i’r rownd derfynol genedlaethol. • Caiff cystadleuwyr eu gwahodd ar sail y sgorau uchaf a gafwyd yn yr holl gystadlaethau rhagbrofol.
Cystadlaethau WorldSkills UK Ffeithiau defnyddiol • Os yw cystadleuydd yn ennill y gystadleuaeth genedlaethol derfynol ni chaiff le yn awtomatig ar y rhestr fer ar gyfer y DU na’r Sgwad na’r T î m. • Rhaid ystyried ffactorau pwysig eraill cyn dewis. • Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn agored i bob oedran. • Mae cyfyngiadau o ran oedran ar gyfer y gystadleuaeth ryngwladol sy’n golygu mai cystadleuwyr sy’n bodloni’r meini prawf penodol o ran oedran yn unig y gallwn eu dewis. • Mae cystadlaethau WorldSkills UK yn agored i holl breswylwyr y DU. • Bydd angen i gystadleuwyr gael pasbort y DU fodd bynnag er mwyn gallu cystadlu ar ran y DU yng nghystadlaethau WorldSkills.
Rhan Cymru • Mae cystadlaethau yng Nghymru sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth y Cynulliad (drwy ESF) yn dwyn y brand deuol ’SkillsCompetition Cymru’ • Yng ‘nghylch’ cystadlaethau 08/09 – cymerodd 681 o bobl ran yn y Cystadlaethau Sgiliau ar draws nifer o sectorau • Fel rheol bydd cystadlaethau yng Nghymru yn cael eu cynnal o fis Hydref i fis Mai bob blwyddyn • Mae’r cystadlaethau a gynhelir yng Nghymru ar gyfer pob oed ond er mwyn mynd ymlaen i gystadleuaeth International WorldSkills rhaid i ymgeiswyr fod o dan 23 oed o hyd • John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau yn Llywodraeth y Cynulliad, sy’n arwain agenda WorldSkills yng Nghymru a bydd yn cyfarfod Gweinidogion eraill y DU bob tri mis
Cystadlaethau WorldSkills UK Fframwaith nodweddiadol y cystadlaethau yng Nghymru Y model nodweddiadol yng Nghymru • Lle cystadlaethau ‘Cymru’ yn fframwaith cystadlaethau terfynol WorldSkills UK. • Rhaid i gystadlaethau terfynol Cymru fodloni gweithdrefnau a safonau WorldSkills UK o ran rheoli ansawdd • Yn y rhagbrofion bydd y cystadleuwyr yn cystadlu yn erbyn yr un safonau a chyfyngiadau amser • Rhaid i’r beirniaid fod yn • ddiduedd • Rhaid i’r trefnwyr, y rhai • sy’n cynnal y gystadleuaeth • a’r beirniaid gadw • at reolau’r gystadleuaeth
Gwahanol gyfrifoldebau • Swyddog arweiniol y gystadleuaeth – cyflwyno cais ar ran y bartneriaeth, yn gyfrifol am y gwaith datblygu cyffredinol, rheoli ac adrodd yn ôlo ran y cystadlaethau. Cydgysylltu’r rhagbrofion a’r rownd derfynol yng Nghymru. Sicrhau bod y gystadleuaeth yn gymwys i fod yn rhan o gystadleuaeth derfynol WorldSkills UK • Dod o hyd i bobl i gymryd rhan a’u hannog a’u cynorthwyo drwy’r broses. Helpu i ddatblygu’r gystadleuaeth yn eich ardal (colegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith, cyflogwyr, partneriaid mewn diwydiant a rhieni ac ati) • Hyrwyddo cystadlaethau WorldSkills UK a SkillsCompetition Wales – dolenni ar y wefan, cofrestru ar e-gylchgronau, hyrwyddo drwy rwydweithiau ac ati • E-bost: worldskills@wales.gsi.gov.uk • Sicrhau bod gwybodaeth ar gael ar www.wales.gov.uk/worldskills a www.worldskillsuk.org/wales
Cais am gyllid • Cyn hir bydd Llywodraeth y Cynulliad yn lansio proses ymgeisio i gynnal cystadlaethau sgiliau (SkillsCompetition Wales) yn 2009/10 • Hyd at 50% o gyllid i ddatblygu a chynnal cystadlaethau sgiliau • Rhaid i’r cais fod ar ran partneriaeth a chynnwys darparwr o dan gontract i APADGOS sy’n darparu Prentisiaethau • Rhaid i elfennau o’r gystadleuaeth fod ar gyfer pob oedran a bod yn gymwys i fynd yn eu blaen i WorldSkills UK • Rhaid i gystadleuwyr ddilyn y drefn arferol wrth gofrestru a chael gwybod y caiff eu gwybodaeth ei rhannu âLlywodraeth y Cynulliad a UK Skills • Rhaid cyflwyno adroddiadau misol a chadw gwybodaeth ar ffurf y gellir ei harchwilio mewn perthynas âcheisiadau ESF • Caiff y manylion eu cyhoeddi cyn hir a rhoddir yr wybodaeth ar wefan: www.wales.gov.uk/worldskills a www.worldskillsuk.org/wales neu anfonwch e-bost: Worldskills@wales.gsi.gov.uk
WorldSkills UK ‘Rhestr siopa’ cystadlaethau (07/08) *Cyfanswm 2112 Cafwyd dros 4000 yn cystadlu yn 08/09 – disgwyl dadansoddiad fesul sector
WorldSkills UK Manylion rhanbarthol
Diolch yn fawr Unrhyw gwestiwn? Mark Bradley WorldSkills UK, Rheolwr Cymru Llywodraeth Cynulliad Cymru 01443 663783 mark.bradley@wales.gsi.gov.uk