160 likes | 560 Views
Graffiau Cyflwyniad. Beth yw graff?. Cynrychioliad gweledol o berthynas rhwng dau newidyn, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, yw graff.
E N D
Beth yw graff? Cynrychioliad gweledol o berthynas rhwng dau newidyn, ond heb fod yn gyfyngedig i hynny, yw graff. Fel arfer, bydd graff yn ffigur un- neu ddau-ddimensiwn. Er bod graffiau tri-dimensiwn ar gael, ystyrir bod y rhain fel arfer yn rhy gymhleth i’w deall yn rhwydd. Mae graff, fel rheol, yn cynnwys dwy echelin a elwir yn echelin-x (llorweddol) ac echelin-y (fertigol). Gall graff ddangos mathau o ddata Arwahanol neu Ddi-dor. Y mathau o ddata sy’n pennu pa graff i’w ddefnyddio.
Arwahanol neu Ddi-dor Arwahanol: Data y gellir ei wahanu gan gyfnod o ryw fath, er enghraifft: Cofnodi maint esgidiau disgyblion dosbarth – graff Bar Di-dor: Pan fydd y data a gasglwyd yn ddi-dor, er enghraifft: Cofnodi tymheredd – graff Llinell
Graff yw hwn 25 Echelin-Y Graddfa neu Gynyddiadau 20 Mae elfennau cyffredinol yn perthyn i bob graff (heblaw Siart Cylch): • Echelin x ac y (hefyd z mewn graffiau 3D) • Labeli echelin • Teitl • Graddfeydd neu Gynyddiad • Gall gynrychioli gwerthoedd negatif 15 Label echelin -Y 10 5 Tarddbwynt – does dim rhaid iddo ddechrau ar 0,0 bob tro Echelin -X 10 20 30 40 50 -20 -10 Label echelin -X -5 Graddfa neu Gynyddiadau -10
Os tynnwn ni linell fertigol o unrhyw bwynt ar echelin-x Cyfesurynnau 25 echelin-Y a llinell lorweddol o’r echelin-y 20 mae’r pwynt lle mae’r ddwy linell yn cyfarfod yn rhoi i ni’r cyfesuryn A (3,15) 15 B (-4,10) 10 5 1 2 3 4 5 -5 -4 -3 -2 -1 -5 Echelin-X -10 -15 C (-5,-15) Nôl
Mathau o Graffiau Pedwar math sylfaenol o graff neu siart Llinell Cylch Bar Gwasgariad
Gweler cyflwyniad creu graff llinell Graffiau Llinell Ffordd dda o ddangos y berthynas rhwng dau newidyn Ymarfer a Chyfradd Curiad y Galon Pwls – Curiadau bob munud Alan – cyn athletwr 28 oed Janet – ysgrifenyddes athletwr 28 oed Amser mewn Munudau Nôl
Siart / Graff Bar Yn cael ei ddefnyddio i gymharu gwerthoedd mewn categori neu rhwng categorïau Braster mewn Cawsiau Braster / 100 g cyfanswm Mae’r graff a welir yma yn rhoi cymhariaeth weledol o gyfanswm y braster sydd mewn gwahanol fathau o gaws Cawsiau
Siart / Graff Bar Gall fod yn ddefnyddiol i astudio tueddiadau dros gyfnod o amser Amrywiad mewn tymheredd o ddydd i ddydd Amser (24 awr) Tymheredd (ºC)
Gweler cyflwyniad creu graff bar Siart / Graff Bar Mae graffiau bar cyfansawdd (neu grŵp) yn cymharu’r berthynas rhwng setiau sydd â pherthynas agos rhyngddynt Iechyd Deintyddol Dannedd parhaol plant yn well nag erioed Plant 12 oed Plant 6 oed Plant 15 oed Nôl Ffigur 1:Cyfran y plant sydd â phrofiad amlwg o bydredd erbyn yr oedran (Y Deyrnas Unedig, 1983, 1993, 2003) Ffynhonnell: Gwefan Ystadegau Cenedlaethol (2004)
Gweler cyflwyniad creu siart cylch Siartiau Cylch Defnyddir siart cylch i ddangos sut mae rhan o rywbeth yn berthnasol i’r cyfan. Mae’r math hwn o graff yn arbennig o addas ar gyfer dangos canrannau. Arolwg o liw gwallt merched Coch Amryliw 7% Golau Brwnét Nôl
Pwysau (kg) Uchder (cm) Graff Gwasgariad Mae tynnu graff gwasgariad yn debyg i dynnu graff llinell gan fod cyfesurynnau yn cael eu defnyddio i blotio’r pwyntiau. Mae mwy o bwyntiau i’w plotio mewn graff gwasgariad fel arfer a gall y pwyntiau fod mewn grwpiau, felly nid yw’n bosib tynnu llinell drwy bob un o’r pwyntiau. Mae graff gwasgariad yn dangos faint o gydberthynas sydd rhwng dau newidyn rydych yn eu trafod e.e. taldra a phwysau fel sydd i’w weld yma: Mae’n ddefnyddiol weithiau tynnu “llinell ffit orau” i ddangos y tuedd Llinell ffit orau Nôl
Crynodeb Mae graff da yn: Dangos y data yn fanwl gywir Tynnu sylw’r darllenydd Cynnwys teitl a labeli Syml a thaclus Dangos yn glir unrhyw dueddiadau neu wahaniaethau yn y data Fanwl gywir yn weledol (h.y., os yw gwerth un ffigwr yn 25 ac un arall yn 50, yna dylai 50 ymddangos ddwywaith yn fwy o faint na 25).