80 likes | 223 Views
Cyflwyniad i Chwyddiant. Diffinir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’.
E N D
Diffinir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’ • Mae'r llywodraeth yn ceisio mesur chwyddiant bob mis trwy brisio basged o nwyddau sy'n ceisio copïo gwariant teulu cyfartalog ar incwm cyfartalog. Y prif fesur o chwyddiant yw'r MPD – y Mynegrif Prisiau Defnyddwyr • Mae'r ‘fasged o nwyddau’ yn cynnwys bwyd, teithio, gwyliau, yswiriant, dillad, nwyddau trydanol, dodrefn, a gweithgareddau hamdden fel tocynnau sinema. Mae'r llywodraeth yn casglu prisiau'r fasged o nwyddau bob mis. • At ei gilydd ceir 650 o nwyddau yn y fasged – ac mae'r rhain yn newid gydag amser. Mae rhai o'r nwyddau newydd diweddaraf a ychwanegwyd at y fasged yn cynnwys ffonau smart ac apps, a ffioedd asiantaethau chwilio am gariad!
Hanes Chwyddiant • Mae gan fanc Lloegr fideo byr ar hanes chwyddiant - dolen Mae'r siart uchod yn dangos chwyddiant yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Er bod rhai o'r brigau’n edrych yn uchel, bu chwyddiant yn uwch na 5% am 1 mis yn unig, a'r gyfradd gyfartalog yw tua 3%.
Chwyddiant yn y DU yn y 1970au Cymherwch chwyddiant isel y DU dros y deng mlynedd diwethaf â’r lefelau o chwyddiant a welwyd yn y 1970au. Gan ddechrau ar tua 6% ym 1970, erbyn 1976 roedd chwyddiant wedi cynyddu i dros 20%!
Pam fod lefelau uchel o chwyddiant yn beth drwg? • Mae prisiau uwch am nwyddau Prydeinig yn golygu ein bod yn allforio llai – felly caiff swyddi eu colli. • Mae cwmnïau'n buddsoddi llai, sy'n golygu llai o swyddi yn y dyfodol. • Mae nwyddau a wneir dramor yn dod yn rhatach o gymharu â nwyddau a wneir yn y DU, felly mae mewnforion yn cynyddu – collir mwy o swyddi. • Oni bai fod gweithwyr yn cael codiad yn eu cyflog sydd o leiaf cyn uched â chwyddiant yna bydd eu safonau byw yn gostwng. • Yn aml mae chwyddiant uchel yn golygu cyfraddau llog uchel – efallai na fydd pobl yn gallu ad-dalu eu morgeisi, felly maen nhw'n colli eu cartrefi, a gall costau benthyca uwch olygu y gall cwmnïau fynd i'r wal. • Mae pobl sydd â chynilion yn gweld bod gallu gwario eu cynilion yn gostwng – felly maen nhw'n mynd yn dlotach.
Gorchwyddiant • Ar achlysuron prin, mae chwyddiant yn mynd dros ben llestri, ac mae prisiau'n dechrau saethu i fyny – gall prisiau ddyblu mewn blwyddyn, mis neu hyd yn oed diwrnod! • Yn yr Almaen ym 1922-23, cododd prisiau yn fwy nag ychydig. • Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 1922 roedd chwyddiant yn 600% • Dros y flwyddyn nesaf cynyddodd i 18000% • Ac erbyn diwedd 1923, roedd prisiau nwyddau 1 filiwn gwaith yn uwch na’r flwyddyn flaenorol – pe bai hyn yn digwydd yn y DU byddai torth o fara'n costio £1m, litr o betrol yn £1,300,000, iPad yn £400,000,000.
Mynd i siopa'n yr Almaen ym 1923 Llosgi arian i gadw’n gynnes
Sut mae'r llywodraeth yn cadw rheolaeth ar chwyddiant? • Mae gan y llywodraeth darged chwyddiant o 2%. • Er mwyn cadw chwyddiant o gwmpas y lefel hon, mae'n gofyn i Fanc Lloegr newid y cyfraddau llog, yn ôl yr amgylchiadau economaidd. • Prisiau'n cynyddu – cyfraddau llog yn mynd i fyny. • Prisiau'n gostwng – cyfraddau llog yn mynd i lawr. • Mae'r system hon wedi gweithio'n eithaf da dros y 15 mlynedd diwethaf, ond ceir problemau ar hyn o bryd – am ragor o wybodaeth ewch at y nodiadau a'r PowerPoint ar Gyfraddau Llog.