80 likes | 247 Views
Cyflwyniad i Chwyddiant. Diffinnir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’.
E N D
Diffinnir chwyddiant fel – ‘cynnydd cyffredinol yn lefelau prisiau’ • Mae'r llywodraeth yn ceisio mesur chwyddiant bob mis drwy brisio basged o nwyddau sy'n ceisio copïo gwariant teulu cyfartalog ar incwm cyfartalog. Y prif fesur o chwyddiant yw'r Indecs Prisiau Defnyddwyr – y CPI. • Mae'r ‘fasged o nwyddau’ yn cynnwys bwyd, teithio, gwyliau, yswiriant, dillad, nwyddau trydanol, dodrefn a gweithgareddau hamdden fel tocynnau sinema. Mae'r llywodraeth yn casglu prisiau'r fasged o nwyddau bob mis. • Mae 650 o nwyddau yn y fasged – ac mae'r rhain yn newid gydag amser. Rhai o'r nwyddau newydd diweddaraf a ychwanegwyd at y fasged yw ffonau smart ac apps, a ffioedd asiantaethau chwilio am gariad!
Hanes Chwyddiant • Mae gan Fanc Lloegr fideo byr ar hanes chwyddiant - dolen Mae'r siart uchod yn dangos chwyddiant yn y DU dros y 10 mlynedd diwethaf. Er bod rhai o'r brigau’n edrych yn uchel, bu chwyddiant yn uwch na 5% am 1 mis yn unig, a'r gyfradd gyfartalog yw tua 3%.
Chwyddianty DU yn yr 1970au Cymharwch chwyddiant isel y DU dros y deng mlynedddiwethaf â lefelauchwyddiant yr 1970au. Gan ddechrau ar tua 6% yn 1970, erbyn 1976 roedd chwyddiant wedi cynyddu ifwyna 20%!
Pam mae lefelau uchel o chwyddiant ynwael? • Mae prisiau uwch am nwyddau’r DU yn golygu ein bod yn allforio llai – felly caiff swyddi eu colli. • Mae cwmnïau'n buddsoddi llai, sy'ngolygullai o swyddi yn y dyfodol. • Mae nwyddau a wneir dramor yn dod ynrhatacho’ucymharu â nwyddau a wneir yn y DU, felly mae mewnforion yn cynyddu – collir mwy o swyddi. • Oni bai fod gweithwyr yn caelcodiadyneucyflog sydd o leiafmoruchel â chwyddiant, byddeusafon byw yn gostwng. • Yn aml mae chwyddiant uchel yn golygu cyfraddau llog uchel – efallai na fydd pobl yn gallu ad-dalueumorgeisiau, felly maen nhw'n colli eu cartrefi, ac oherwyddcostau benthyca uwch gall cwmnïau fynd i'r wal. • Mae pobl sydd â chynilion yngweld bod gallu gwario eu cynilion yn gostwng – felly maen nhw'n mynd yn dlotach.
Gorchwyddiant • Ar adegau prin iawn, mae chwyddiant yn mynd dros ben llestri, ac mae prisiau'n dechrau saethu i fyny – gall prisiau ddyblu mewn blwyddyn, neu fis neu hyd yn oed ddiwrnod! • Yn yr Almaen ym 1922-23, cododd prisiau fwy nag ychydig. • Yn y flwyddyn hyd at fis Mehefin 1922 roedd chwyddiant yn 600% • Dros y flwyddyn nesaf cynyddodd i 18000% • Ac erbyn diwedd 1923, roedd prisiau nwyddau 1 filiwn gwaith yn uwch na’r flwyddyn flaenorol – pe bai hyn yn digwydd yn y DU byddai torth o fara'n costio £1 filiwn, litr o betrol yn costio £1,300,000, iPadyn costio £400,000,000.
Mynd i siopa yn yr Almaen yn 1923 Llosgi arian i gadw’n gynnes
Sut mae'r llywodraeth yn rheoli chwyddiant? • Mae gan y llywodraeth darged chwyddiant o 2%. • Er mwyn cadw chwyddiant o gwmpas y lefel hon, mae'n gofyn i Fanc Lloegr newid cyfraddau llog, yn ôl yr amgylchiadau economaidd. • Prisiau'n cynyddu – cyfraddau llog yn mynd i fyny. • Prisiau'n gostwng – cyfraddau llog yn mynd i lawr. • Mae'r system hon wedi gweithio'n eithaf da dros y 15 mlynedd diwethaf, ond mae problemau ar hyn o bryd – am ragor o wybodaeth edrychwch ar y nodiadau a'r PowerPoint ar Gyfraddau Llog.