170 likes | 302 Views
“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”. Pam oedd Rwsia yn wlad mor anodd ei rheoli ym 1900?. Sgil: Gwybodaeth a Dealltwriaeth. GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924. Rwsia – Golwg cyffredinol. Diweddu’r Sioe. Rwsia: Golwg cyffredinol. 4,000 milltir O’r Dwyrain i’r Gorllewin
E N D
“Dysgu i Arwain ein Bywydau” Pam oedd Rwsia yn wlad mor anodd ei rheoli ym 1900? Sgil: Gwybodaeth a Dealltwriaeth GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924
Rwsia – Golwg cyffredinol Diweddu’r Sioe
Rwsia: Golwg cyffredinol • 4,000 milltir O’r Dwyrain i’r Gorllewin • 2,000 milltir O’r Gogledd i’r De • Cymaint ag arwynebedd y lleuad a welir yn y nos. • 11 o wahanol ranbarthau amser. • Y tu hwnt i fynyddoedd yr Wral, roedd Rwsia yn lle gwyllt gydag aneddiadau ar y ffin. Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes
Yng nghefn gwlad ychydig iawn o ffyrdd palmantog oedd. Tu hnwt i’r prif ddinasoedd, byddai’r ffyrdd yn troi’n fwd mewn glaw trwm. Gwnâi hyn unrhyw deithio yn araf iawn. Yn ôl i fap Rwsia Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes
Gwlad Pwyl Roedd 130 miliwn o bobl yn byw yn Rwsia, ond roedd dros 50% ddim yn Rwsiaid. Roedd yr anrwsiaid yn dod o bob math o hiliau, er enghraifft, Pwyliaid o Wlad Pwyl. Roedd llawer o’r anrwsiaid hyn yn ddig oherwydd bod swyddogion Rwsia yn eu rheoli. Gwnaeth y Rwsiaid i’r anrwsiaid siarad Rwseg, gwisgo dillad Rwsiaidd a dilyn arferion Rwsiaidd. Gelwid y polisi hwn yn “Rwsieiddio” Yng Ngwlad Pwyl gwaharddwyd addysgu plant trwy gyfrwng y Bwyleg. Y Rwsiaid, nid y Pwyliaid oedd yn cael y swyddi pwysig i gyd. Yn ôl i fap Rwsia
Petrograd / Moscow – y dinasoedd mwyaf Petrograd Moscow
Petrograd / Moscow – y dinasoedd mwyaf Petrograd oedd prifddinas Rwsia. Roedd y Tsar a’i Weinidogion yn rheoli’r wlad o’r fan honno. Tua 1900, cafwyd twf diwydiannol yn Rwsia a chodwyd llawer o ffatrïoedd yn Petrograd a Moscow. Eu perchnogion oedd gwŷr busnes cyfoethog a oedd yn ciniawa ar gafiâr ac eog mwg mewn tai bwyta ysblennydd, neu’n ymweld â’r bale a chyngherddau. Roedd yr elw a wnaent yn mynd ar eu tai crand. Roedd y gweithwyr ffatri yn byw ger y dinasoeddmewn trefi noswyl aflan, gorlawn a llawn heintiau. Nid oedd llawer o breifatrwydd. Weithiau byddai gwelyau yn brysur am 24 awr y dydd gan 2 weithiwr yn eu tro. Nid oedd y gweithwyr yn fodlon gyda chyflog isel ac oriau gwaith hir! Yn ôl i fap Rwsia
Mynyddoedd yr Wral Y tir amaeth gorau – rhanbarth y “pridd du”
Y tir amaeth gorau 25% yn unig o Rwsia oedd yn dir amaeth da. Roedd y rhan fwyaf yn Ne neu Orllewin y wlad, yn enwedig yn Wcráin, “Basged fara” Rwsia. Roedd gweddill Rwsia naill ai’n ddiffeithwch, yn dwndra arctig neu’n taiga (coedwigoedd). Roedd 4 o bob 5 Rwsiad yn werin. Roedd eu bywyd yn galed gyda newyn a haint yn gyffredin. Pam?
Defnyddiai’r werin ddull stribedi o amaethu, offer pren, ac nid oedd ganddynt ond ychydig anifeiliaid. Roeddent yn bwyta bara rhyg a chawl bresych. Roedd cig yn brin. Roeddent yn byw mewn tai pren a gwellt, yn cysgu ar welyau o wellt a gwisgo crysau gwlân, bras . Gwisgai’r mwyaf tlawd sandalau a wnaed o risgl coeden. Yn aml, roedd y werin mewn dyled i’w landlordiaid, yr uchelwyr. Ffurfiai’r uchelwyr 1% o’r boblogaeth ond perchnogent bron 25% o’r tir. Roedden nhw’n gyfoethog iawn, gyda 2 dŷ, a mwynheuent y bale a digwyddiadau cymdeithasol eraill. Os oedd y werin yn protestio (yn ystod cyfnodau o newyn e.e.), byddai’r Tsar yn defnyddio ei filwyr Cosac brawychus yn eu herbyn. Yn ôl i fap Rwsia
Siberia Rheilffordd Traws-Siberaidd
Llun trwy garedigrwydd Keith McInnes Teithio yn Siberia yn yr Haf amser presennol: Dychmygwch sut oedd pethau yn y gorffennol!
Siberia Eithriadol o oer (hyd at –60 gradd C). Mawr iawn. Adnoddau naturiol enfawr ond poblogaeth fach iawn. Yn draddodiadol, roedd rheolwyr Rwsia wedi anfon unrhyw berson a’i gwrthwynebai i Siberia. Roedd mwyafrif rheilffyrdd Rwsia yn Rwsia Ewropeaidd ar wahân i’r Rheilffordd traws-Siberaidd. Cymerai wythnos i deithio o un pen i’r llall, felly roedd cyfathrebu yn anodd iawn. Rheolwyd pob rhan o Rwsia, yn cynnwys Siberia, gan Weision Sifil a weithredai ddymuniadau’r Tsar. Gan fod cyflogau Gweision Sifil yn isel, a chan eu bod ymhell o lywodraeth ganol (yn enwedig yn Siberia), roedd llawer o lygredd a llwgrwobrwyo. Yn ôl i fap Rwsia