120 likes | 278 Views
“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”. Sgil: Dehongliadau Cyfathrebu. GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924. Beth ydych chi’n credu sydd wedi digwydd?. Mater o amseru yw hi!.
E N D
“Dysgu i Arwain ein Bywydau” Sgil: Dehongliadau Cyfathrebu GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924
Mater o amseru yw hi! Ym 1917 roedd Rwsia yn dal i ddefnyddio’r calendr IŴL. Roedd gweddill Ewrop yn defnyddio calendr GREGORIa oedd 13 diwrnod ymlaen. Gall fod yn ddryslyd pryd y digwyddodd y ddau chwyldro ym 1917!
Pam y gorfodwyd y Tsar i ymddiorseddu ym mis Mawrth 1917? Sgil: AchosiaethSgil allweddol: Empathi • Rhoddir cymeriad i chi o Rwsia yn y cyfnod 1914 – 1917. • Gwyliwch y cyflwyniad canlynol a gweithiwch allan: • Pam y digwyddodd y pethau hyn? • Pa ran chwaraeodd eich cymeriad chi yn • Chwyldro 1af Rwsia!
Digwyddiadau 1914 – Mawrth 1917 Awst 1914 Dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf. Rwsia yn cyhoeddi rhyfel ar Yr Almaen a’r milwyr yn ymgasglu. Roedd y Tsar yn boblogaidd iawn. Medi 1914 Trechwyd dwy fyddin Rwsia ym mrwydrau Llynnoedd Masuria a Tannenberg.
Diwedd 1914 Roedd dros filiwn o filwyr Rwsia wedi marw. Ni allai diwydiant Rwsia gynhyrchu digon o arfau i gyflenwi’r holl filwyr. Nid oedd gan y fyddin ddigon o nwyddau, ac roedd y swyddogion weithiau’n anghymwys. 1914 – 1915 Roedd prinder bwyd, glo a deunyddiau diwydiannol yn y dinasoedd. Cynyddodd prisiau a chaeodd ffatrïoedd. Y llywodraeth oedd yn cael y bai.
Medi 1915 Penderfynodd y Tsar adael Petrograd a mynd i Ffrynt y Gorllewin i redeg byddin Rwsia. Gadawyd y Tsares a Rasputin i reoli, ac roedden nhw’n amhoblogaidd iawn, hyd yn oed ymhlith y pendefigion. Perswadiodd Rasputin y Tsares i roi ei ffrindiau ef yn lle gweinidogion nad oedd e’n eu hoffi. Roedd trefniadaeth cyflenwi bwyd i’r dinasoedd wedi torri lawr. Gaeaf 1916 Roedd y gaeaf yn un caled. Prin oedd y bwyd a’r tanwydd a gyrhaeddodd Petrograd. Ffurfiodd ciwiau bara a saethodd prisiau i fyny.
7fed Mawrth 1917 Roedd y sefyllfa’n argyfyngus. Aeth 40,000 o weithwyr yn ffatri Putilov ar streic. 8fed Mawrth 1917 Diwrnod Rhyngwladol y Merched. Ymunodd miloedd o fenywod yn y protestiadau. Roedd y protestwyr yn galw am fwyd, tanwydd a llywodraeth newydd.
12fed Mawrth 1917 Gorchmynnodd y Tsar i’r milwyr saethu ar y protestwyr. Gwrthododd llawer o filwyr ac ymuno â’r protestiadau. Gorymdeithiodd milwyr a gweithwyr i’r Dwma i fynnu ei bod yn cymryd rheolaeth dros Rwsia. 15fed Mawrth 1917 Ceisiodd y Tsar fynd yn ôl i Petrograd ond stopiwyd ef gan weithwyr y rheilffordd. Gorfodwyd ef i ffoi.
Pam y gorfodwyd y Tsar i ymddiorseddu ym mis Mawrth 1917? Sgil: Achosiaeth Sgil allweddol: Empathi • Gyda’ch cerdyn cymeriad mae’n rhaid i un o’r pâr siarad am 2 funud am :- • Eich teimladau am y Tsar • Eich teimladau am y rhyfel • Sut mae eich gwlad yn cael ei rheoli • Mae’n rhaid i chi ystyried gwybodaeth eich cymeriad a’r modd y byddent yn debygol o ymateb i’r gwahanol ddigwyddiadau a’r gwahanol gymeriadau. Rhybudd: Dylech fod yn barod i ateb cwestiynau ar ddiwedd eich anerchiad!
Posau Chwyldro p t u r s n a i t d r r g p e a o R a s p u t i n Llynnoedd Masuria y ll e n dd o n a i r u s m a â d m w u D w m â u P e t r o g r a d