130 likes | 269 Views
“ Dysgu i Arwain ein Bywydau ”. Effaith y Rhyfel Cartref?. Sgil: Datrys Problemau. GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924. Beth sy'n digwydd yn y llun yma?. Llun trwy garedigrwydd Casgliad David King, Llundain. Meddyliwch: beth oedd nodau Comiwnyddiaeth?.
E N D
“Dysgu i Arwain ein Bywydau” Effaith y Rhyfel Cartref? Sgil: Datrys Problemau GCaD Cymru: Rwsia 1900-1924
Beth sy'n digwydd yn y llun yma? Llun trwy garedigrwydd Casgliad David King, Llundain
Meddyliwch: beth oedd nodau Comiwnyddiaeth? Gwerinwyr yn gweithio gyda’i gilydd i amaethu tir Rhoi rheolaeth dros y ffatrïoedd i’r gweithwyr Gweithwyr i weithio gyda’i gilydd a rheoli’r ffatrïoedd Rhoi rheolaeth dros y tir i’r werin Sut y gallai Lenin gyflawni hyn?
Ond mae gan Lenin a’r Bolsieficiaid broblemau ychwanegol y mae’n rhaid delio â nhw… A fydd y problemau canlynol yn ei gwneud yn haws neu’n fwy anodd i sefydlu Comiwnyddiaeth?
Roedd arian yn ddiwerth ac arferai pobl ffeirio i brynu a gwerthu nwyddau (ffeirio: cyfnewid). Roedd yn rhaid i’r llywodraeth fwydo’r gweithwyr oedd yn byw yn y dinasoedd a oedd dan ei rheolaeth. Roedd pobl yn gadael a bu terfysgoedd bwyd oherwydd eu bod yn newynu. Trefi Tyfodd Marchnadoedd Du (marchnadoedd yn gwerthu cynhyrchion anodd eu cael) lle gallai pobl ffeirio. Roedd pobl yn cyfnewid pethau drud, megis gemwaith, am fwyd… Defnyddiai pobl lyfrau a dodrefn yn lle coed tân oherwydd bod dim glo. Roedd llawer o weithwyr yn dechrau meddwl bod rheolaeth y Bolsieficiaid yn waeth na rheolaeth y Tsar! Doedden nhw ddim yn credu y byddai Sosialaeth yn gwella eu bywydau. Roedd yn rhaid i Lenin sicrhau bod ffatrïoedd a diwydiannau yn cynhyrchu arfau y gallai’r Cochion eu defnyddio yn y Rhyfel Cartref.
A fydd y problemau hyn yn ei gwneud yn haws neu’n fwy anodd i sefydlu Comiwnyddiaeth? Doedd y werin ddim eisiau gwerthu eu grawn am arian a oedd yn ddiwerth, felly roedd llawer o werinwyr yn crynhoi cyflenwadau. Penderfynodd llawer o werinwyr na fyddent yn cynaeafu cymaint o rawn fel na ellid ei gymryd oddi wrthyn nhw. Lladdwyd un comisâr gan werinwyr a llenwi ei folaâ grawn. Dangosai hyn gymaint oedd y werin ddim yn barod i rannu.
A fydd y problemau hyn yn ei gwneud yn haws neu’n fwy anodd i sefydlu Comiwnyddiaeth? Y Rhyfel Cartref Aeth y Bolsieficiaid i ryfel yn erbyn lluoedd y Tsar o 1918 hyd 1921 Roedd angen arfau a nwyddau eraill ar y Fyddin Bolsiefaidd. Beth fyddai’n digwydd pe bai’r gweithwyr ddim yn gallu eu cyflenwi? Roedd angen bwydar y Fyddin Bolsiefaidd (Byddin Goch). Beth fyddai’n digwydd pe bai’r werin ddim yn rhoi’r bwyd?
Pa broblemau ddylai Lenin ddelio â nhw gyntaf? Cefn Gwlad Y Rhyfel Cartref Trefi
Nodau Comiwnyddiaeth Y problemau yn y trefi, y dinasoedd a’r rhyfel cartref Dyfarniadau Tachwedd a Rhagfyr Datrysiad: Comiwnyddiaeth Rhyfel!
Dyfarniadau Tachwedd a Rhagfyr 1917 • Ffatrïoedd yn cael eu rhoi dan reolaeth Pwyllgorau’r Gweithwyr • Cymryd tir oddi ar landlordiaid a’i roi i’r werin Pa broblemau fydd yn cael eu datrys yn Rwsia? Pa broblemau sy’n aros?
Comiwnyddiaeth Rhyfel O 1918 galwai’r Bolsieficiaid eu hunain yn Gomiwnyddion. Cymerodd y Llywodraeth Gomiwnyddol reolaeth dros ddiwydiant, a dweud wrth y ffatrïoedd beth i gynhyrchu. Gwaharddwyd undebau llafur ac nid oedd caniatâd i’r gweithwyr adael y dinasoedd. Roedd gan y comiwnyddion lu o heddlu cudd o’r enw Cheka. Roedden nhw’n gorfodi’r werin i roi grawn iddyn nhw. Os oedden nhw’n credu bod y werin yn crynhoi grawn, bydden nhw’n eu cosbi’n greulon.. Gwaharddwyd masnachu preifat gan y Comiwnyddion. Ar wahân i’r Llywodraeth ni châi neb brynu na gwerthu dim.
Ymarfer arholiad: defnyddiwch y ffynhonnell hon a’ch gwybodaeth eich hun i ateb y cwestiwn canlynol: COPRU Llun trwy garedigrwydd Casgliad David King, Llundain Pa mor ddefnyddiol yw’r ffynhonnell hon i hanesydd sy’n astudio’r problemau a wynebai Lenin ym 1917?
Crogwr Comiwnyddiaeth Rhyfel… Mae’n rhaid i’r geiriau a ddewiswch chi ymwneud â gwers heddiw!