40 likes | 186 Views
Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Cylchoedd a Chroesau
E N D
Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Cylchoedd a Chroesau Drwy amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys trafodaeth, gwneud penderfyniadau a chwarae rôl, anogir disgyblion i werthfawrogi a dathlu gwahaniaeth diwylliannol ac amrywiaeth. Addysgir disgyblion hefyd i adnabod sut y gall stereoteipiau arwain at ragfarn neu droseddau casineb. Ymddygiad Cymdeithasol a’r Gymuned Cyfnod Sylfaen Da neu Ddrwg? Drwy drafodaeth a drama bydd disgyblion yn ystyried a yw ystod o weithredoedd yn dda neu’n ddrwg. Yn ystod ‘amser dweud wrth Tarian’, byddant yn atgoffa Tarian sut i ddangos parch, gofal ac ystyriaeth tuag at eraill. Cyfnod Allweddol 3 Torri’r Cylch Gan ddefnyddio amrywiaeth o ffotograffau a senarios bydd disgyblion yn dysgu dangos empathi gyda phrofiadau a theimladau pobl eraill. Byddant yn ystyried effeithiau niweidiol bwlio a dulliau pendant o ddelio ag ef. Mae’r wers hefyd yn amlygu y gall agweddau ar fwlio ddod yn droseddau yn ddiweddarach mewn bywyd. Cyfnod Allweddol 2 Isaf Cerrig a Ffyn Bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau bywiog er mwyn adnabod y gwahanol fathau o fwlio a deall yr effaith y mae’n ei gael ar eraill. Byddant yn dysgu beth i’w wneud a lle i fynd am gymorth. CyfnodAllweddol 3 HunaniaethDdiwylliannol Drwydrafodaethddosbarth, gwaith pâr ac ystyriaethfeirniadol, bydddisgyblionynarchwilio’rangeniddeallgwahaniaethaudiwylliannol ac adnabodmynegiant o ragfarn a stereoteipio. Anogirdisgyblioniwerthfawrogicyflecyfartal, amrywiaethddiwylliannol a chrefyddol a pharchueuhurddaseuhunain ac urddaspobleraill. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Wnes i Ddim Meddwl Mae’r DVD a’r wers hon yn edrych ar ymddygiad gwrthgymdeithasol a’i ganlyniadau o safbwynt y dioddefwr a’r tramgwyddwr. Gwneir hyn drwy weithgareddau rhyngweithiol yn cynnwys gwaith grŵp. Cyfnod Allweddol 4 COW Mae’r wers hon yn defnyddio darnau o’r DVD "COW" i archwilio peryglon tynnu sylw wrth yrru. Drwy weithgareddau rhyngweithiol a gwaith grŵp mae’n amlygu’r gyfraith parthed gyrru ac yn archwilio’r canlyniadau ar gyfer pawb sy’n gysylltiedig, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol. CyfnodAllweddol 3 ’Dewis Kiddo’ Bydddisgyblionynarchwiliocanlyniadautrosedd o fewn y system cyfiawnderieuenctidgydachymorth DVD. Byddasiantaethaueraillmegis y TimauTroseddauIeuenctid, YnadonHeddwch, GwasanaethCarchardai EM, CymorthiDdioddefwyrâ’rGwasanaethTânynymunoâ’rheddluigyflwynogweithdairhyngweithiol. Cyfnod Allweddol 4 Hawliau a Chyfrifoldebau Bydd disgyblion yn archwilio’r angen i fod yn ymwybodol ac, os bydd angen, i herio anghyfiawnder cymdeithasol, cam-fanteisio ac atal hawliau dynol. Mae’r wers yn ceisio codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag agweddau, disgwyliadau ac ymddygiad mewn cymdeithas tuag at berthynas gan gynnwys y gwahaniaeth rhwng priodasau a drefnir a phriodasau dan orfod. CyfnodAllweddol 4 AmrywiaethCymunedol Drwydrafodaeth a gwaith grŵpbyddpoblifancyndysgugwerthfawrogiamrywiaethddiwylliannol ac ynadnabodsut y gall stereoteipiauarwain at ragfarn a throseddaucasineb. Byddsenariosdatrysproblemauyneucynorthwyoiddodynfwyymwybodol o asiantaethaucymorthyn y gymuned.
Camddefnyddio Sylweddau Cyfnod Sylfaen Pwy? Beth? Ble? Cymer Ofal! Bydd disgyblion yn cyfarfod Tarian y ddraig byped. Gyda’i gilydd byddant yn penderfynu beth i’w wneud â chwdyn a ddaethpwyd o hyd iddo sy’n cynnwys casgliad o wrthrychau bob dydd a allai wneud niwed iddynt. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Felly, beth yw’r broblem? Bydd disgyblion yn dysgu am effeithiau andwyol camddefnyddio alcohol a thoddyddion. Bydd clip DVD yn ysgogi trafodaeth ynglŷn ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, yfed sbri a’i effaith ar y gymuned. Rhoddir gwybodaeth ynglŷn â ble i fynd am gymorth. Cyfnod Allweddol 2 Isaf T.A.S.K Lu Drwy arddangosfa goginio llawn hwyl, bydd disgyblion yn gwella eu gwybodaeth am dybaco, alcohol a thoddyddion. Cyfnod Allweddol 3 Datrys y Broblem Defnyddir DVD i annog disgyblion i ystyried peryglon a chanlyniadau arogli toddyddion. Bydd gwaith grŵp a gweithgareddau cadair boeth yn rhoi cyfleoedd i ddisgyblion drafod cwestiynau allweddol am bwysau cymheiriaid a chymryd risgiau. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Adenydd i Hedfan/ Eich Dewis Chi Bydd disgyblion yn datblygu eu hymwybyddiaeth o beryglon a chanlyniadau cyffuriau anghyfreithlon. Naill ai drwy wylio disgyblion hŷn yn perfformio ‘Adenydd i Hedfan’ neu drwy gymryd rhan mewn carwsél o weithgareddau yn ‘Eich Dewis Chi’’. Cyfnod Allweddol 3 Meddwl am Yfed! Gêm fwrdd a darn o DVD sy’n herio gwybodaeth y disgybl am alcohol a’r gyfraith a’r ffyrdd yn gall alcohol effeithio ar eich ymddygiad. Rhoddir negeseuon diogelwch cadarnhaol a chanllawiau i’r disgyblion gyda gwybodaeth am linellau cymorth. Cyfnod Allweddol 3 Edifar y Dydd, Ar ôl gwylio’r fideo ‘Edifar y Dydd’ gall y bobl ifanc archwilio’r broses gyfreithiol o fod a rhan mewn, bod ym meddiant neu gyflenwi sylweddau anghyfreithlon. Cyfnod Allweddol 4 Trwbwl Dwbwl Anogir disgyblion i ystyried effeithiau camddefnyddio alcohol. Mae clipiau DVD emosiynol yn archwilio canlyniadau camddefnyddio alcohol. Yna bydd disgyblion yn ystyried sut i leihau’r risg i’w diogelwch personol a chynigir canllawiau iddynt ynglŷn â ble i fynd am gymorth. Cyfnod Allweddol 4 Cyfraith Cyffuriau Drwy wers ryngweithiol bydd disgyblion yn cynyddu eu gwybodaeth am ddosbarthiad cyffuriau a cyffuriau newydd sy’n ymddangos (NEDs) a’r canlyniadau a’r cyfreithiau sy’n llywodraethu camddefnyddio sylweddau.
Diogelwch Personol Cyfnod Sylfaen Pobl Sy’n Ein Helpu! Bydd cymhorthion gweledol yn helpu disgyblion i nodi’r pum gwasanaeth a all eu helpu mewn argyfwng. Drwy chwarae rôl byddant yn ymarfer gwneud galwadau 999 priodol ac yn egluro wrth Tarian beth y maent wedi ei ddysgu. Cyfnod Allweddol 2 Isaf Ffrind neu Elyn! Drwy waith grŵp a thrafodaeth bydd disgyblion yn dechrau sylweddoli y gall dieithriad gysylltu â hwy yn eu cartref, dros y ffôn ac yn y gymuned. Bydd senarios yn eu cynorthwyo i ddewis y camau cywir i’w cymryd. Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Byddwch yn Seiber Ddiogel Mae’r wers hon yn canolbwyntio ar ferch ifanc sydd yn ddiarwybod yn dod yn ddioddefwr bwlio seibr. Dengys y DVD pa mor agored i niwed y mae plant i’r math hwn o fwlio a’r effaith y gall ei gael ar eu bywydau. Mae’r wers yn amlygu'r broblem ac yn hyrwyddo trafodaeth a dadl ynglŷn â’r mater. Cyfnod Allweddol 3 Perthnasoedd Diogelach Drwy ddiffinio beth sy’n gwneud perthynas dda bydd pobl ifanc yn dechrau deall y pum math o gam-drin domestig. Anogir hwy i ddod yn ymwybodol o’r hyn y gellir ei wneud a’r asiantaethau sydd ar gael i roi cefnogaeth. CyfnodAllwedol 3 EdrychwchPwysy’nSiaradDiogelwchar y Rhyngrwyd Yn y wershonbydddisgyblionyndysgusutiarosynddiogelar y rhyngrwyddrwyamrywiaeth o weithgareddau a gwaith grŵp. Bydddisgyblionyntrafoddefnyddcadarnhaol a negyddol y rhyngrwyd, ynarbennigmewnperthynas â dieithriad. Cyfnod Allweddol 4 Na yw Na! Mae’r wers hon yn cyflwyno’r syniad o gydsynio ac yn datblygu strategaethau sy’n rymuso’r bobol ifanc i ddeall cydsyiad rhywiol. Bydd y disgyblion yn gwylio DVD er mwyn agor y ddadl am gydsyniad rhywiol, y gyfraith a’r canlyniadau gan archwilio scenarios sy’n galluogi’r disgyblion i wneud penderfyniadau gwybodus. Mae’r wers hefyd yn tynnu sylw at yr asiantaethau cefnogol lleol a chenedlaethol.
Cyfnod Allweddol 2 Uchaf Dychmygwch Hyn! Drwy amrywiaeth o weithgareddau, yn cynnwys trafodaeth a gwaith grŵp, bydd disgyblion yn dysgu sut i ddefnyddio ffôn symudol yn ddiogel ac adnabod bwlio ffôn symudol. Bydd disgyblion hefyd yn dysgu sut i riportio digwyddiad ddefnydd amhriodol o ffôn symudol. Diogelwch Personol Cyfnod Sylfaen Chwarae yn Saff Mae’r wers hon yn defnyddio amrywiaeth o adnoddau gweledol, propiau a stori sy’n helpu disgyblion i adnabod lleoedd diogel i chwarae gan atgyfnerthu pwysigrwydd dweud wrth oedolyn yr ydynt yn ymddiried yn ble fyddant pob amser. CyfnodAllweddol 2 Uchaf HawlifodynDdiogel Mae’rwershonyncanolbwyntioarhawlpobplentyn a phersonifancideimlo’nddiogel. Drwyweithgareddaudosbarth a gwaith grŵpgofynniriddisgyblionystyriedamrywiolsefyllfaoedddiogel ac anniogel, sut y gellirlleihaurisg ac at bwy y gallant droiosbyddangencymorthneugefnogaetharnynt. Cyfnod Allweddol 2 Isaf Cadw’n SMART Addysgir y disgyblion am gadw’n ddiogel arlein trwy gwylio animeiddio am Rhys a Celyn sy’n chwarae gêm arlein. Mae gweithgareddau’r gwersi wedi selio ar reolau SMART. Cyfnod Allweddol 3 Diogelwch Personol Ganweithioynbarau a grwpiaubyddpoblifancyntrafodardaloedd o broblemauynlleola’rtuhwnt. Maentynystyried y ffactorau a all effeithioareudiogelwchpersonol a phryd y gallaihynddodynfateri’rheddlu. Byddsenariosyneucynorthwyoiarchwiliostrategaethaui’wdefnyddioyneubywydaueuhunain. CyfnodAllweddol 2 Uchaf CriwCraff Bydddisgyblionyncyfranogimewncyfres o weithdaidiogelwchiystyriedpryd, ble a sut y gallant fodmewnperygl. Cyflwynir y rhainganystodeang o asiantaethau. Cyfnod Allweddol 4 Twyll Peryglus Yn seiliedig ar ddigwyddiad bywyd go iawn mae’r DVD yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio stori Lucy. Cysylltiwyd â hi gan ddyn ar y rhyngrwyd a oedd yn dynwared Asiantaeth Modelu. Mae e’n meithrin perthynas amhriodol gyda Lucy a chyn bo hir mae Lucy’n dioddefwr o gamfanteisio rhywiol. Gan ddefnyddio trafodaeth a gweithgareddau rhyngweithiol mae’r wers yn canolbwyntio ar adnabod yr arwyddion rhybudd cynnar sy’n dangos nad yw popeth yn iawn ac mae’n annog y disgyblion i ddarganfod cyfleoedd er mwyn gwneud dewisiadau cadarnhaol ac i gadw’n ddiogel. CyfnodAllweddol 3 Ar y Bws Mae’rwershonynatgyfnerthu'rangenideithio’nddiogelardrafnidiaethysgol ac ynarchwilioymddygiadanghyfrifol a chanlyniadaudifrifolymddwynmewnmoddperyglus. Mae’ramrywiaeth o weithgareddauynpwysleisio bod cadw at reolauynhanfodolargyfereudiogelwchhwyeuhunain ac eraill. CyfnodAllweddol 3 Pam Arfau? Gan ddefnyddio amrywiaeth o weithgareddau bydd disgyblion yn dysgu deall risgiau a chanlyniadau cario arfau. Mae’r wers yn codi ymwybyddiaeth o sefyllfaoedd risg, y gyfraith ynglŷn ag arfau mewn mannau cyhoeddus, ar dir ysgol ac ymateb yr heddlu.