410 likes | 659 Views
Canllawiau rheoli perfformiad. Rheoli perfformiad Rhan C: gwerthuswyr. Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 a rôl y gwerthuswr (i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013). Amcanion y sesiwn.
E N D
Rheoli perfformiadRhan C: gwerthuswyr Cyflwyniad i’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 a rôl y gwerthuswr (i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013)
Amcanion y sesiwn Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w rhoi ar waith yn effeithiol. Adolygu rôl rheoli perfformiad wrth godi safonau yn eich ysgol. Adolygu sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol. Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan ohoni. Deall rôl y gwerthuswr.
Atgrynhoi a throsolwg o’r gofynion rheoli perfformiad diwygiedig
Gofynion diwygiedig Amserlen Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012. Defnyddio’r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012. Diwygiadau Mae gan reoli perfformiad gysylltiad glir â: – safonau ac ymarfer proffesiynol – blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol – data perfformiad dysgwr – cynnydd tâl. Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu. Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli perfformiad yr ysgol. Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid. Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.
Diben rheoli perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)
Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol Mae rheoli perfformiad yn cefnogi: ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau. Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad ysgol i: ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol sicrhau boddhad yn y swydd lefelau uchel o arbenigedd dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth ddewisol.
Y cylch gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Gwerthuswr Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu a gwerthusai Dadansoddiad Datganiad gwerthuso strategol Gosod amcanion Cytuno ar ddatblygiad Monitro proffesiynol parhaus Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl yr athro/athrawes
Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad Partneriaid allweddol Corff llywodraethu/corff perthnasol. Pennaeth. Gwerthuswr(gwerthuswyr). Gwerthusai(gwerthuseion). Awdurdod lleol. Llywodraeth Cymru.
Rôl y gwerthuswr(gwerthuswyr) • Cytuno a chofnodi amcanion gyda’r gwerthusai. • Monitro ac adolygu perfformiad trwy gydol y cylch. • Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol. • Trefnu’r adolygiad gwerthuso. • Paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol. • Lle y bo’n briodol, gwneud argymhelliad ar gynnydd tâl lle mae gwerthusai’n gymwys am gynnydd tâl o dan Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon.
Cyfrifoldebau’r gwerthuswr(gwerthsuwyr) Mae gwerthuswr(gwerthuswyr) yn cynnal eu cyfrifoldebaudrwy: gynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai: – gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol – trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol – parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol) – cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad trefnu bod datganiad gwerthuso llawn ac atodiad i’r datganiad gwerthuso ar gael i’r personél priodol.
Gwybodaeth a dealltwriaeth Rhaid bod gan werthuswr(gwerthuswyr) dealltwriaeth gadarn o: gyd-destun yr ysgol data perfformiad ysgol gyfan gan gynnwys Set Data Craidd Cymru Gyfan blaenoriaethau gwella’r ysgol blaenoriaethau gwella’r awdurdod lleol a chenedlaethol y safonau proffesiynol diwygiedig ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru swydd y gwerthusai cynllun hyfforddi’r ysgol a’r gyllideb gysylltiedig gweithdrefnau rheoli perfformiad.
Nodweddion y gwerthuswr(gwerthuswyr) Dyma nodweddion i’w hystyried wrth ddewis gwerthuswyr: sgiliau cyfathrebu da sgiliau rhyngbersonol da sgiliau caffael gwybodaeth a dadansoddi data da, gan gynnwys y gallu i ddeall, dehongli a dadansoddi dangosyddion perfformiad allweddol sy’n ymwneud â pherfformiad yr ysgol perthynas waith dda gyda’r gwerthusai, wedi’i seilio ar ymddiriedaeth a pharch amser digonol i ymgymryd â rôl fel gwerthuswr a gwneud cyfiawnder â’r broses.
Hunanasesiad ar gyfer gwerthuswyr • Nodir canllawiau Llywodraeth Cymru nodweddion gwerthuswyr a nodir hefyd y dylai’r holl werthuswyr gael eu hyfforddi’n briodol i ymgymryd â’r rôl. • Dylai gwerthuswyr gwblhau hunanasesiad i nodi eu hanghenion datblygu. • Gellir gwneud mwy o hyfforddiant yn y meysydd i’w datblygu a nodir i sicrhau y gall gynnal y rôl yn effeithiol.
Y cyfarfod gwerthuso blynyddol Mae’n gyfle ffurfiol i: gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant trafod meysydd i’w gwella a datblygiad proffesiynol pellach ac os dymunir: cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch rheoli perfformiad dilynol.
Yr adolygiad perfformiad Rhaid i’r gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai gynnal adolygiad gwerthuso blynyddol gyda’r amcan o: asesu’r graddau y mae’r gwerthusai wedi cyflawni’r amcanion ar gyfer y cylch pennu a fu llwyddiant cyffredinol mewn perfformiad wrth gadarnhau bod y gwerthusai yn parhau i fodloni’r safonau proffesiynol ar gyfer athrawon nodi’r angen ar gyfer hyfforddiant cymorth a datblygiad ychwanegol paratoi’r datganiad gwerthuso. Dylid ystyried cofnod ymarfer, adolygu a datblygu y gwerthusai wrth adolygu perfformiad.
Cynllunio ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad. Rhaid i’r gwerthusai gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf deg niwrnod ysgol ymlaen llaw. Rhaid anfon y cofnod ymarfer, adolygu a datblygu at werthuswyr o leiaf pum niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.
Dylai’r gwerthusai ystyried perfformiad yn erbyn: ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion tystiolaeth o berfformiad yn y cylch manteision unrhyw datblygiad proffesiynol a gafwyd unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar berfformiad amcanion posib ar gyfer y cylch nesaf. Hunanfyfyrio’r gwerthusai
Dogfennaeth i’w hystyried Unrhyw ddata a gwybodaeth perfformiad ysgol perthnasol. Cynllun gwella’r ysgol/cynllun gwella’r ardal. Cofnod hunanwerthuso’r ysgol. Cynllun ôl-arolygiad Estyn. Y safonau proffesiynol ar gyfer ymarferwyr addysg yng Nghymru. Unrhyw ddeunyddiau perthnasol eraill gan gynnwys y rheini o adolygiadau’r awdurdod lleol.
Y datganiad gwerthuso Rhaid cyflwyno datganiad ysgrifenedig o fewn 10 niwrnod ysgol. Rhaid darparu anghenion hyfforddiant a datblygu mewn atodiad. Gall y gwerthusai ychwanegu sylwadau at y datganiad o fewn 10 niwrnod – bydd y rheini yn ffurfio rhan o’r datganiad. Mae’r datganiad gwerthuso’n bersonol ac yn gyfrinachol. Dylid rhoi copi o’r datganiad gwerthuso i’r personél priodol.
Gosod yr amcanion Byddai tri amcan fel arfer yn ddigonol. Dylai amcanion y gwerthusai: – gyfrannu at wella cynnydd dysgwyr yn yr ysgol – ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol – canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy’n seiliedig ar dystiolaeth – cael eu cofnodi yn y datganiad o amcanion.
glir– heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â’r deilliant a fwriedir cryno– gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau a phosib i gyfleu’r bwriad mesuradwy– wedi’u mynegi fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw’r amcan wedi’i gyflawni ai peidio heriol– yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau’r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol datblygol– yn cefnogi gwelliant yr ysgol a’r gwerthusai. Mae angen i’r amcanion fod yn:
Nodi anghenion datblygiad proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: gefnogi’r gwerthusai wrth wella sgiliau a gwybodaeth cefnogi amcanion cytunedig datblygu cryfderau mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol nodi cyfleoedd i rannu arfer da.
Monitro perfformiad Dylai gweithdrefnau monitro: – gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio– cynnwys amrywiaeth o ddulliau. Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn. Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Rhaid i’r gwerthusai gynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol.
Monitro cynnydd Gall ddefnyddio amrywiaeth o ddulliau monitro i gasglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys: cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y gwerthuswr(gwerthuswyr) a’r gwerthusai cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r gwerthusai cynllun gwella’r ysgol data a gwybodaeth perfformiad ysgol proses hunanwerthuso barhaus yr ysgol arsylwadau addysgu (lle y bo’n addas).
Arsylwadau addysgu Natur, diben a chanolbwynt wedi’u cytuno rhwng y gwerthuswr a’r gwerthusai cyn yr arsylwi. Rhaid i arsylwadau at ddiben rheoli perfformiad gael eu cyflawni gan arsylwr â statws athro/athrawes cymwysedig (SAC) yn unig. Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw. Rhaid rhoi o leiaf pum niwrnod ysgol o rybudd. O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad. Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn pum niwrnod ysgol fel arfer). Dylid cofnodi canlyniadau’r arsylwad, gan gynnwys adborth – dylid rhoi cyfle i’r gwerthusai ychwanegu sylwadau.
Rheoli tanberfformiad Nid yw rheoli perfformiad yn ffurfio rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu, cymhwysedd neu allu ffurfiol. Gall y rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch materion perfformio, cyflog, dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu ystyried datganiadau gwerthuso. Bydd rheolaeth linell effeithiol, gyda disgwyliadau clir a chefnogaeth briodol, yn helpu wrth nodi a mynd i’r afael ag unrhyw meysydd i’w gwella mewn perfformiad yn gynnar yn y broses.
Lle ceir penderfyniad i gychwyn ar weithdrefn cymhwysedd neu allu ffurfiol, yna bydd y weithdrefn honno’n disodli’r trefniadau rheoli perfformiad. Gellir gohirio’r broses rheoli perfformiad unrhyw bryd. Amgylchiadau eithriadol
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso Ym mha ffordd y mae’r gwerthuswr(gwerthuswyr) yn: cynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai? gosod yr amcanion gan ystyried adolygiad rheoli perfformiad y cylch blaenorol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol)? gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? trefnu i’r datganiad gwerthuso fod ar gael i’r personél priodol? B.Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch taflen ysgogi 3 i hwyluso’r drafodaeth.)
Rôl y gwerthusai Trafod a chytuno amcanion gyda’r gwerthuswr(gwerthuswyr). Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.
Cyfrifoldebau’r gwerthusai Trafod gosod amcanion gyda’r gwerthuswr o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol. Hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad. Cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol. Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol.
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso Ym mha ffordd y mae’r gwerthusai yn: trafod gosod amcanion gyda’i werthuswr(gwerthuswyr) o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol? hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol? cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol? cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.)
Y broses rheoli perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan athrawon ymrwymiad i berfformiad a lles staff meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’u gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl annog rhannu arfer da integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso A. Ym mha ffordd y mae’r broses rheoli perfformiad yn: cefnogi gweledigaeth yr ysgol? cyfrannu at wella cyrhaeddiad a lles dysgwyr? cynorthwyo datblygiad proffesiynol yr holl staff? meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng y gwerthuswr a’r gwerthusai, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a meysydd i’w datblygu’n drwyadl? annog rhannu arfer da? ategu’r ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso’r drafodaeth.)
Ac yn olaf . . . ‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i athrawon (Llywodraeth Cymru, 2012)