430 likes | 691 Views
Canllawiau rheoli perfformiad. Rheoli perfformiad Rhan B: rheoli perfformiad penaethiaid. Gweithredu’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011 ar gyfer rheoli perfformiad penaethiaid (i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013). Amcanion y sesiwn.
E N D
Rheoli perfformiadRhan B: rheoli perfformiad penaethiaid Gweithredu’r rheoliadau rheoli perfformiad diwygiedig Ionawr 2011ar gyfer rheoli perfformiad penaethiaid (i’w rhoi ar waith erbyn 1 Ionawr 2013)
Amcanion y sesiwn Deall gofynion y rheoliadau diwygiedig a sut i’w rhoi ar waith yn effeithiol. Adolygu rôl rheoli perfformiad ar gyfer y pennaeth wrth godi safonau. Adolygu sut mae rheoli perfformiad y pennaeth wedi’i wreiddio yng nghyd-destun ehangach prosesau gwella’r ysgol. Adolygu gweithredu’r broses rheoli perfformiad y pennaeth, gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau’r rhai sy’n rhan ohoni.
Atgrynhoi a throsolwg o’r gofynion rheoli perfformiad diwygiedig
Gofynion diwygiedig Amserlen Rheoliadau diwygiedig a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2012. Defnyddio’r trefniadau diwygiedig erbyn 31 Rhagfyr 2012. Diwygiadau Mae gan reoli perfformiad gysylltiad glir â: – safonau ac ymarfer proffesiynol – blaenoriaethau ysgol gyfan a chenedlaethol – data perfformiad dysgwyr – cynnydd tâl. Mae ymarferwyr yn cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu. Mwy o gyfranogiad gan yr awdurdod lleol ym mhroses rheoli perfformiad ysgolion. Rhaid i’r Brif Swyddog Addysg derbyn copi o’r datganiad gwerthuso. Mae gan Estyn fynediad i amcanion perfformiad penaethiaid. Dylech gadw dogfennau rheoli perfformiad am o leiaf tair blynedd.
Diben rheoli perfformiad ‘Mae rheoli perfformiad yn helpu ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith penaethiaid fel unigolion ac fel arweinwyr timau ysgol. Mae’n gosod fframwaith i athrawon ac arweinwyr gytuno ar flaenoriaethau ac amcanion a’u hadolygu yng nghyd-destun cynlluniau gwella’r ysgol. Mae’n canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain yn fwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)
Rôl rheoli perfformiad yn y broses gwella’r ysgol Mae rheoli perfformiad yn cefnogi: ysgolion i wella drwy gefnogi a gwella gwaith ymarferwyr fel unigolion ac mewn timau athrawon i ddiwallu anghenion dysgwyr a gwella safonau. Mae rheoli perfformiad yn arddangos ymrwymiad yr ysgol i: ddatblygu’r holl ymarferwyr yn effeithiol sicrhau boddhad yn y swydd lefelau uchel o arbenigedd dilyniant ymarferwyr yn eu galwedigaeth dewisol.
Y cylch gwerthuso Bydd y pennaeth yn pennu amser y cylch gwerthuso i bob athro/athrawes. Rhaid i’r corff llywodraethu bennu cylch gwerthuso ar gyfer y pennaeth. Fel arfer blwyddyn fydd hyd y cylch gwerthuso.
Y cylch gwerthuso AdolyguCynllunio Hunanfyfyrio Gwerthuswr Hunanddadansoddi Cyfarfod adolygu a gwerthusai Dadansoddiad Datganiad gwerthuso strategol Gosod amcanion Cytuno ar ddatblygiad proffesiynol parhaus Monitro Adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn Arsylwad addysgu Ffynonellau cytunedig eraill o dystiolaeth sy’n briodol i rôl yr athro/athrawes
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso Ym mha ffordd y mae’r corff llywodraethu’n: cefnogi gweledigaeth yr ysgol? cyfrannu at wella cyrhaeddiad a lles dysgwyr? cynorthwyo datblygiad proffesiynol yr holl staff? meithrin naws ymddiriedaeth rhwng yr athro/athrawes a’u gwerthuswr, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl? annog rhannu arfer da? ategu’r ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol? bodloni’r rheoliadau statudol diwygiedig? B.Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 5 i hwyluso’r drafodaeth.)
Rolau a chyfrifoldebau yn y broses rheoli perfformiad Partneriaid allweddol Corff llywodraethu/corff perthnasol. Pennaeth. Panel gwerthuso. Awdurdod lleol. Llywodraeth Cymru.
Cyfrifoldebau’r corff llywodraethu/corff perthnasol dros reoli perfformiad y pennaeth Rhaid i’r corff llywodraethu/corff perthnasol: benodi panel gwerthuso i: – adolygu rheoli perfformiad y pennaeth drwy banel gwerthuso – cytuno ar amcanion ar gyfer y pennaeth – cytuno ar ddatganiad gwerthuso blynyddol – monitro perfformiad y pennaeth yn rheolaidd cynnwys person/pobl a enwebwyd gan yr awdurdod lleol ar banel gwerthuso a phroses rheoli perfformiad y pennaeth sicrhau y cynhelir proses rheoli perfformiad y pennaeth yn unol â gofynion statudol.
Rôl y pennaeth yn ei broses rheoli perfformiad ei hun Trafod a chytuno amcanion gyda’r gwerthuswyr. Cytuno ar drefniadau monitro. Cymryd rhan mewn trefniadau monitro ac adolygu gan gynnwys: – adolygu ei berfformiad ei hun gan ddefnyddio’r safonau arweinyddiaeth fel gefndir – cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu – mynychu trafodaethau anffurfiol rheoli perfformiad yn ystod y flwyddyn – awgrymu amcanion gwerthuso ar gyfer y cylch nesaf – ystyried y datganiad gwerthuso. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol.
Cyfrifoldebau’r pennaeth Trafod gosod amcanion gyda’r panel gwerthuso o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol. Hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data perthnasol a thystiolaeth o berfformiad. Cymryd rhan mewn trefniadau monitro. Cynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol. Cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol. Trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol.
Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso Ym mha ffordd y mae’r gwerthusai (y pennaeth) yn: trafod gosod amcanion gyda’r gwerthuswyr (panel gwerthuso) o fewn cyd-destun yr ysgol, y disgrifiad swydd a’r safonau proffesiynol priodol? hwyluso’r broses drwy nodi a darparu data a thystiolaeth berthnasol? cymryd rhan mewn trefniadau monitro a chynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol? cyfrannu at yr adolygiad blynyddol yn erbyn amcanion a pherfformiad cyffredinol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol i gefnogi ymarfer proffesiynol? B. Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 4 i hwyluso’r drafodaeth.)
Rôl y panel gwerthuso (llywodraethwyr ac enwebai(enwebeion) yr awdurdod lleol) Rhaid i’r panel gwerthuso: gytuno a chofnodi amcanion gyda’r pennaeth monitro ac adolygu perfformiad trwy gydol y cylch trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol y pennaeth paratoi’r datganiad gwerthuso blynyddol darparu copi o’r datganiad gwerthuso i’r pennaeth, cadeirydd y corff llywodraethu a’r Prif Swyddog Addysg darparu, ar gais, copi o ddatganiad gwerthuso y pennaeth i lywodraethwyr sy’n rhan o faterion yn gysylltiedig â chyflog, dyrchafu, disgyblaeth neu ddiswyddo y pennaeth.
Cyfrifoldebau’r gwerthuswr(gwerthuswyr) Mae gwerthuswr(gwerthuswyr) yn cynnal eu cyfrifoldebau drwy: gynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai: – gosod yr amcanion drwy ystyried adolygiad perfformiad y cylch blaenorol – trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol – parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol) – cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn) gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad trefnu bod datganiad gwerthuso llawn ac atodiad i’r datganiad gwerthuso ar gael i’r personél priodol.
Nodir canllawiau Llywodraeth Cymru nodweddion gwerthuswyr a nodir hefyd y dylai’r holl werthuswyr gael eu hyfforddi’n briodol i ymgymryd a’r rôl. Dylai gwerthuswyr gwblhau hunanasesiad i nodi eu hanghenion datblygu. Gellir gwneud mwy o hyfforddiant yn y meysydd datblygu a nodir i sicrhau y gall gynnal y rôl yn effeithiol. Hunanasesiad ar gyfer gwerthuswyr
Penodi’r panel gwerthuso Rhaid i o leiaf dau lywodraethwr gael eu penodi gan y corff llywodraethu. Rhai i un neu ddau enwebai gael eu penodi gan yr awdurdod lleol. Yn ogystal, lle ceir gwerthusiad pennaeth ysgol â chymeriad crefyddol, gall yr awdurdod esgobaethol benodi gwerthuswr. Lle mae’r amser sy’n cael ei dreulio gan bennaeth yn addysgu yn gyfran sylweddol o’i rôl, dylid ystyried cynnwys gwerthuswr a statws athro/athrawes cymwysedig (SAC). Ni all unrhyw lywodraethwr gael ei benodi fel gwerthuswr y pennaeth os ydynt yn athro/athrawes neu’n aelod o staff yr ysgol.
Enwebai(enwebeion) yr awdurdod lleol Bydd yr awdurdod lleol yn: enwebu un neu ddau gynrychiolydd a fyddai fel arfer â gwybodaeth am yr ysgol, rôl y pennaeth a blaenoriaethau’r awdurdod lleol a chenedlaethol perthnasol lle bo’n addas, rhoi ystyriaeth benodol i gynnwys gwerthuswr â statws athro/athrawes cymwysedig (SAC) ymgynghori â’r pennaeth ar bwy a fydd yn cael ei benodi fel eu henwebeion i’r panel gwerthuso.
Ym mha ffordd y mae’r gwerthuswr(gwerthuswyr) yn: cynllunio’r cylch gwerthuso gyda’r gwerthusai? gosod yr amcanion gan ystyried adolygiad rheoli perfformiad y cylch blaenorol? trafod a nodi anghenion datblygiad proffesiynol? parhau i adolygu cynnydd a monitro perfformiad yn erbyn amcanion yn rheolaidd trwy gydol y cylch rheoli perfformiad (adolygiad ffurfiannol)? gweithredu’n briodol a hwyluso cefnogaeth pan geir tanberfformiad? cynnal adolygiad blynyddol o berfformiad gyda’r gwerthusai (adolygiad crynodol gan gynnwys llunio barn)? trefnu i’r datganiad gwerthuso fod ar gael i’r personél priodol? B.Sut mae rheoli perfformiad wedi’i wreiddio ym mhrosesau gwella’r ysgol? C. A oes unrhyw agweddau y gellir eu gwella? (Defnyddiwch daflen ysgogi 3 i hwyluso’r drafodaeth.) Myfyrio a thrafod – hunanwerthuso
Y cyfarfod gwerthuso blynyddol Mae’n gyfle ffurfiol i: gydnabod cyflawniadau a dathlu llwyddiant trafod meysydd i’w gwella a datblygiad proffesiynol pellach ac os dymunir: cytuno ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol, gan gynnwys amcanion ar gyfer y cylch rheoli perfformiad dilynol.
Cynllunio ar gyfer yr adolygiad perfformiad blynyddol Caniatáu digon o amser ar gyfer yr adolygiad. Rhaid i’r pennaeth gael gwybod yn ysgrifenedig am ddyddiad y cyfarfod adolygu o leiaf 10 niwrnod ysgol ymlaen llaw. Rhaid anfon y cofnod ymarfer, adolygu a datblygu at werthuswyr o leiaf pum niwrnod cyn y cyfarfod adolygu.
Rheoli’r proses adolygu Penodi cadeirydd ar gyfer y panel gwerthuso. Pennu sut i gadw cofnodion ac ysgrifennu’r datganiad gwerthuso. Nodi data a thystiolaeth briodol i’w defnyddio yn unol â’r rheoliadau. Penderfynu sut caiff amcanion o’r cylch blaenorol eu hystyried. Dylai’r pennaeth hunanfyfyrio cyn y cyfarfod. Cytuno ar drefniadau monitro ac adolygu.
Hunanfyfyrio’r pennaeth Dylai’r pennaeth ystyried perfformiad yn erbyn: ei asesiad ei hun o berfformiad yn erbyn yr amcanion tystiolaeth o berfformiad yn y cylch manteision unrhyw ddatblygiad proffesiynol a gafwyd unrhyw adolygiadau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn unrhyw ffactorau sydd wedi effeithio ar berfformiad amcanion posib am y cylch nesaf.
Dogfennaeth i’w hystyried Unrhyw ddata perfformiad ysgol perthnasol. Cynllun gwella’r ysgol. Cofnod hunanwerthuso’r ysgol. Cynllun ôl-arolygiad Estyn. Y Safonau Arweinyddiaeth. Unrhyw ddeunyddiau perthnasol eraill, gan gynnwys y rheini o adolygiadau’r awdurdod lleol.
Dylech ystyried hefyd: adolygu, trafod a chadarnhau tasgau, amcanion a safonau hanfodol y pennaeth cydnabod cryfderau a chyflawniadau a chymryd mewn i ystyriaeth ffactorau y tu hwnt i’w rheolaeth cadarnhau gweithredu a gytunwyd mewn adolygiadau anffurfiol yn ystod y flwyddyn nodi meysydd i’w datblygu a sut i’w bodloni cydnabod anghenion datblygiad proffesiynol cytuno ar amcanion clir a chwblhau cynllun unigol ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Llunio barn Rhaid i’r panel gwerthuso a’r pennaeth: barnu i ba raddau y bodlonwyd yr amcanion barnu a yw’r perfformiad cyffredinol wedi bod yn llwyddiannus neu beidio cadarnhau a yw’r pennaeth yn parhau i fodloni’r safonau proffesiynol perthnasol ar gyfer penaethiaid barnu’r angen am gefnogaeth hyfforddiant a datblygu.
Gosod yr amcanion Bydd tri amcan fel arfer yn ddigonol. Dylai amcanion y pennaeth: gyfrannu at wella cynnydd dysgwyr yn yr ysgol ystyried tystiolaeth briodol gan gynnwys gwybodaeth am berfformiad yr ysgol canolbwyntio ar ddisgwyliadau allweddol a blaenoriaethau datblygu lle gellir llunio barn sy’n seiliedig ar dystiolaeth cael eu cofnodi yn y datganiad o amcanion.
Amcanion y pennaeth Ar y cyfan, mae’n rhaid eu bod yn ymwneud â: arweinyddiaeth a rheolaeth yr ysgol disgrifiad swydd y pennaeth unrhyw feini prawf cynnydd cyflog priodol unrhyw amcanion ysgol gyfan neu dîm cyfan a nodir yng nghynllun gwella’r ysgol y Safonau Arweinyddiaeth unrhyw flaenoriaethau cenedlaethol ar gyfer gwella ysgolion a bennir gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau.
glir– heb unrhyw bosibilrwydd o amwysedd neu ddryswch ynglŷn â’r deilliant a fwriedir cryno– gan ddefnyddio cyn lleied o eiriau â phosib i gyfleu’r bwriad mesuradwy– wedi’u mynegi mewn ffordd fel y gellir cytuno ar feini prawf a fydd yn dangos a yw’r nod wedi’i gyflawni ai peidio heriol– yn ddigon heriol, o gofio amgylchiadau’r ysgol, i gyflawni gwelliant sylweddol datblygol– yn cefnogi gwelliant yn yr ysgol a’r gwerthusai. Mae angen i’r amcanion fod yn:
Nodi anghenion datblygiad proffesiynol Dylai datblygiad proffesiynol: gefnogi’r pennaeth wrth wella sgiliau a gwybodaeth cefnogi amcanion cytunedig datblygu cryfderau mynd i’r afael â meysydd ar gyfer datblygiad personol neu dwf proffesiynol.
Monitro perfformiad Dylai gweithdrefnau monitro: – gael eu trafod a’u cytuno yn y cyfarfodydd cynllunio – cynnwys amrywiaeth o ddulliau. Dylid monitro cynnydd drwy gydol y flwyddyn. Dylid casglu tystiolaeth ddigonol a phriodol i sicrhau llunio barn gadarn. Rhaid i’r pennaeth gynnal a chadw cofnod ymarfer, adolygu a datblygu cyfredol.
Monitro cynydd Dylid fod amrywiaeth o ddulliau monitro i gasglu digon o dystiolaeth briodol er mwyn sicrhau y llunnir barn gadarn. Gellir casglu tystiolaeth o ffynonellau amrywiol gan gynnwys: cyfarfodydd yn ystod y flwyddyn rhwng y panel gwerthuso a’r pennaeth cofnod ymarfer, adolygu a datblygu’r pennaeth cynllun gwella’r ysgol data a gwybodaeth perfformiad ysgol proses hunanwerthuso barhaus yr ysgol arsylwadau addysgu (lle y bo’n addas).
Arsylwadau addysgu i benaethiaid Ar gyfer rheoli perfformiad rhaid cynnal arsylwadau gan athro/athrawes â statws cymwysedig (SAC) yn unig. Dylid cynnal arsylwadau yn ystod gwersi a gweithgareddau sydd wedi’u cynllunio ymlaen llaw. Rhaid rhoi o leiaf pum niwrnod ysgol o rybudd. O leiaf un arsylwad y flwyddyn ar gyfer rheoli perfformiad. Rhoddir adborth cyn gynted â phosib (o fewn pum niwrnod ysgol fel arfer). Dylid cofnodi canlyniad yr arsylwad, gan gynnwys adborth – dylai fod gan benaethiaid gyfle i ychwanegu sylwadau.
Rheoli tanberfformiad Nid yw rheoli perfformiad yn ffurfio rhan o unrhyw weithdrefnau disgyblu, cymhwysedd na gallu ffurfiol. Gall y rhai sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ynghylch materion perfformio, cyflog, dyrchafu, diswyddo neu ddisgyblu ystyried datganiadau gwerthuso. Bydd rheoli llinell effeithiol, gyda disgwyliadau clir a chefnogaeth briodol, yn helpu wrth nodi a mynd i’r afael ag unrhyw meysydd i’w gwella mewn perfformiad yn gynnar yn y broses.
Amgylchiadau eithriadol Lle ceir penderfyniad i gychwyn ar weithdrefn cymhwysedd neu allu ffurfiol, yna bydd y weithdrefn honno’n disodli’r trefniadau rheoli perfformiad. Gellir gohirio’r broses rheoli perfformiad unrhyw bryd.
Y broses rheoli perfformiad Nodir arfer gorau rheoli perfformiad drwy: ymrwymiad i gyrhaeddiad a lles dysgwyr gwerthfawrogi’r rôl hanfodol sydd gan benaethiaid ymrwymiad i berfformiad a lles staff meithrin naws o ymddiriedaeth rhwng y pennaeth a’r panel gwerthuso, sy’n caniatáu gwerthuso cryfderau a nodi meysydd i’w datblygu’n drwyadl annog rhannu arfer da integreiddio rheoli perfformiad yn yr ymagwedd gyffredinol at arwain a rheoli’r ysgol.
Ac yn olaf . . . ‘Mae rheoli perfformiad yn canolbwyntio sylw ar wneud addysgu ac arwain mwy effeithiol er budd disgyblion, athrawon ac ysgolion.’ Rheoli perfformiad i benaethiaid (Llywodraeth Cymru, 2012)