250 likes | 443 Views
Cynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i oedolion 2 Rhagfyr 2011. Amcanion. Rhoi gwybod i gynadleddwyr am arolygiadau Estyn Codi ymwybyddiaeth am y modd y byddwn yn barnu gwaith tiwtoriaid. Beth yw’r newidiadau allweddol?. Arolygiadau craidd byrrach yn ogystal â gwaith dilynol amrywiol
E N D
Cynhadledd Tiwtoriaid Cymraeg i oedolion 2 Rhagfyr 2011
Amcanion • Rhoi gwybod i gynadleddwyr am arolygiadau Estyn • Codi ymwybyddiaeth am y modd y byddwn yn barnu gwaith tiwtoriaid
Beth yw’r newidiadau allweddol? • Arolygiadau craidd byrrach yn ogystal â gwaith dilynol amrywiol • Ymestyn arolygiadau sy’n cael eu harwain gan Estyn a chynnwys cymheiriaid • Pwyslais ar adeiladu cynhwysedd ar gyfer hunan arfarnu • Ffocws ar foddhad cwsmeriaid
Dibenion arolygu • Cyflawni atebolrwydd cyhoeddus • Hyrwyddo a lledaenu arfer dda • Llywio polisi
Beth yw’r newidiadau allweddol? • Adroddiadau cliriach, mwy hygyrch • Fframwaith a system farnu symlach • Cyfnod byrrach o rybudd ymlaen llaw
Y fframwaith newydd Barnau: Rhagorol Llawer o gryfderau, gan gynnwys enghreifftiau arwyddocaol o arfer sy’n arwain y sector Da Llawer o gryfderau a dim meysydd pwysig y mae angen eu gwella’n sylweddol Digonol Cryfderau yn gorbwyso meysydd i’w gwella Anfoddhaol Meysydd pwysig i’w gwella yn gorbwyso cryfderau
Dwy farn gryno Barnau cryno: • perfformiad cyfredol y darparwr • rhagolygon gwella
Cwestiynau allweddol Cwestiwn allweddol 1: Safonau a lles Cwestiwn allweddol 2: Darpariaeth yn cynnwys addysgu a gofal, cymorth ac arweiniad Cwestiwn allweddol 3: Arweinyddiaeth a rheolaeth
Cadw ac ymestyn nodweddion o’r hen gylch • Dechrau gyda hunan arfarniad y Ganolfan Ranbarthol • Cynnwys arolygwyr cymheiriaid • Defnyddio enwebeion • Cylch chwe blynedd
Hyrwyddo gwelliant Mwy o waith dilynol: • Astudiaeth achos arfer dda • Monitro gan Estyn • Gwelliant sylweddol • Mesurau arbennig
Cwestiynau y dylai darparwyr eu gofyn • A yw safonau ….? • Beth yw cyfradd y cynnydd? • Sut mae ein darpariaeth yn cymharu? • Beth mae angen ei wella? • Beth mae’n rhaid i’r ganolfan ei wneud i wella?
Trefn yr arolygiad Dydd Llun: Cyfarfod cyn arolygiad Dydd Mawrth: Ymweliadau a chyfarfodydd Dydd Mercher: Ymweliadau a chyfarfodydd Dydd Iau: Ymweliadau a chyfarfod cymedroli Dydd Gwener: Ysgrifennu’r adroddiad drafft Cyfarfod adborth i’r uwch swyddogion
Ymweliad dosbarth • Hyd yr ymweliad o leiaf 30 munud, ond yn aml 60 munud • Gweithgareddau • Arsylwi ar gynnydd y dysgwyr • Edrych ar lefelau presenoldeb • Edrych ar gynllun y wers • Edrych ar adnoddau a chyflwr yr ystafell • Sgwrsio gyda’r dysgwyr am 10 munud • Cynnig sgwrs broffesiynol gyda’r tiwtor
Arsylwi ar gynnydddysgwyr -1 Ydy’r dysgwyr yn: • gwneud cynnydd da yn eu dysgu? • gwrando’n astud? • dwyn i gof ffurfiau a ddysgwyd yn flaenorol? • ynganu’n gywir? • eiddgar i gyfrannu ar lafar? • siarad yn gynyddol hyderus yn ôl eu profiad a lefel y dosbarth? • datblygu eu medrau iaith a chyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg yn dda?
Arsylwi ar gynnydddysgwyr - 2 Ydy’r dysgwyr yn darllen: • yn gywir? • darllen yn hyderus? • deall cynnwys y testun? Ydy’r dysgwyr yn ysgrifennu: • yn gywir? • mewn amrywiaeth o ffurfiau?
Arsylwi ar gynnydddysgwyr - 3 Ar lefelau uwch ydy’r dysgwyr yn: • siarad yn gywir? • siarad yn ddigymell ? • siarad yn estynedig? • defnyddio ystod helaeth o eirfa? • defnyddio cystrawen yr iaith yn gywir? • medru defnyddio’r Gymraeg yn eu bywydau beunyddiol a’u gwaith, lle bynnag y bo modd?
Addysgu -1 Ydy’r tiwtor yn: • cynllunio’r wers yn dda? • cyflwyno’r wers gyda brwdfrydedd ac egni? • atgyfnerthu dysgu blaenorol y dysgwyr yn dda cyn symud ymlaen i bwnc newydd?
Addysgu - 2 Ydy’r tiwtor yn defnyddio ystod eang o weithgareddau dysgu effeithiol, er enghraifft • drilio iaith newydd; • gweithgareddau gwylio neu wrando pwrpasol; • gwaith llafar unigol, gwaith pâr, gwaith grŵp, dosbarth cyfan; a • gweithgareddau darllen ac ysgrifennu.
Addysgu - 3 Ydy’r tiwtor yn: • defnyddio’r iaith Gymraeg yn helaeth yn ystod y wers? • sicrhau bod cyflymder y gwersi yn dda? • gwneud defnydd da o ystod o adnoddau addysgu o ansawdd uchel? • talu sylw da i ynganu? • gwneud defnydd da o dasgau gwaith cartref i wella sgiliau dysgwyr?
Addysgu - 4 Ydy’r tiwtor yn: • herio dysgwyr i ymestyn eu dealltwriaeth a'u defnydd o sgiliau iaith mewn ystod o gyd-destun gwahanol? • cynnig adborth da i ddysgwyr a sôn am y camau dysgu nesaf iddynt? • cywiro camgymeriadau mewn modd sensitif?
Barn dysgwyr Cyn yr arolygiad: • Bydd sampl o ddysgwyr yn llenwi holiadur barn Yn ystod yr arolygiad: • Trefnir grwpiau ffocws o ddysgwyr ar draws y rhanbarth • Yn y dosbarth trefnir 10 munud o sgwrs gyda’r dosbarth heb y tiwtor
Barn tiwtoriaid Yn ystod yr arolygiad trefnir: • Grwpiau ffocws o diwtoriaid ar draws y rhanbarth • Tua 10 munud o sgwrs gyda’r tiwtor ar ddiwedd y sesiwn arsylwi
Sgwrs broffesiynol gyda’r tiwtor Ar ddiwedd y sesiwn arsylwi dylai arolygwyr: • gynnig adborth ar y gwaith a welwyd. • holi’r tiwtor am y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, gan gynnwys: • Hyfforddiant mewn swydd • Adnoddau • Arsylwadau gan diwtor drefnyddion • Diogelu
Yr adroddiad • Cyfarfodydd tîm, sy’n cynnwys yr enwebai, i benderfynu ar y barnau • Cynnig adborth a barnau dros dro i uwch rheolwyr y ganolfan ar ddiwedd yr arolygiad • Arolygydd arweiniol yn ysgrifennu’r adroddiad • Proses o gymedroli mewnol a golygu’r adroddiad yn Estyn • Cyhoeddi'r adroddiad