270 likes | 425 Views
CYMRAEG CYMHWYSOL. HMS 2011. Uned 1 : Arholiad Allanol. Arholiad un awr Pedwar cwestiwn – 2 x darllen / 2 x ysgrifennu 2 gwestiwn gor-gyffwrdd Cylchoedd profiad – Byd Gwaith / Byd O ’ n Cwmpas Uned 1 werth 20%. DARLLEN. Cwestiwn 1 Llenwi grid Cyfateb gair a llun Ymateb i neges e-bost.
E N D
CYMRAEG CYMHWYSOL HMS 2011
Uned 1 : Arholiad Allanol • Arholiad un awr • Pedwar cwestiwn – 2 x darllen / 2 x ysgrifennu • 2 gwestiwn gor-gyffwrdd • Cylchoedd profiad – Byd Gwaith / Byd O’n Cwmpas • Uned 1 werth 20%
DARLLEN Cwestiwn 1 • Llenwi grid • Cyfateb gair a llun • Ymateb i neges e-bost
ADBORTH Haf 2011 Darllen Cw 1 (Sylfaenol) • Angen adolygu geirfa sylfaenol e.e. gwefan, e-bost, tocyn • Angen adolygu cwestiynau sylfaenol e.e. sawl, oes … • Rhaid darllen y cwestiwn yn ofalus e.e. cyfateb gair a llun • Angen atgoffa disgyblion o’r marciau iaith. Rhaid ateb y negeseuon e-bost mewn brawddegau
DARLLEN CWESTIWN GOR-GYFFWRDD • Llenwi grid • Cofnodi gwybodaeth ychwanegol
ADBORTH UNED 1 : Darllen DARLLEN (Cwestiwn gor-gyffwrdd) • Angen adolygu teitlau’r gridiau e.e.enw cyswllt, gwaith, dyddiad … • Angen darllen gofynion y cwestiwn yn ofalus iawn. • Disgyblion un ysgol wedi ateb yn y Saesneg! • Angen ateb yr ail ran mewn brawddegau – amser / person y ferf yn bwysig yma.
DARLLEN • Llenwi grid • Ysgrifennu memo / e-bost
ADBORTH UNED 1 : Darllen • Angen llenwi’r grid yn llawn e.e. cyfeiriad angen mwy nag enw’r dref … • Angen darllen yn ofalus – nifer yn cymysgu manylion e.e. manylion Glan llyn o dan Llangrannog … • Angen adolygu ysgrifennu ffurf memo – 3 rhan bwysig (cyfarch / ateb / cloi).
NEWIDIADAU 2012 • Cwestiwn sylfaenol = 4 rhan : darn darllen 1 > cwestiwn, darn darllen 2 > cwestiwn … • Cwestiwn gor-gyffwrdd = yr un fformat ag eleni. Teitlau’r grid yn holl- bwysig a’r defnydd o frawddegau • Cwestiwn uwch = fformat tebyg eto. Y memo / nodyn yn bwysig o ran ennill marciau.
YSGRIFENNU • CWESTIWN 1 • Llenwi ffurflen e.e. ffurflen gais am swydd, ffurflen fwcio, ffurflen adborth, ffurflen werthuso … Cynnwys = / 10 (Atebion synhwyol / Cymraeg) Mynegiant = / 10 (Brawddegau llawn / sillafu)
ADBORTH UNED 1 :Ysgrifennu • Angen adolygu penawdau sylfaenol e.e. penblwydd, enw canolwr, gwaith, dyddiad … • Disgyblion yn cymysgu gwybodaeth e.e. ysgrifennu hobiau dan “Pynciau Ysgol” • Diffyg brawddegau llawn. Disgyblion yn ennill marciau llawn am y cynnwys ond tua 4 marc yn unig am fynegiant. • Weithiau angen canolbwyntio ar y pethau sylfaenol e.e. rhifau, dyddiadau … Rhai ysgolion yn gwbod y treiglad trwynol ond heb ddysgu rhifau.
YSGRIFENNU • Cwestiwn Gor-gyffwrdd • Prawf-ddarllen / Cyfieithu • Ysgrifennu nodyn / memo / e-bost
ADBORTH : Ysgrifennu Prawf-ddarllen • Atalnodi yn creu problemau e.e. awst (nifer yn newid y sillafu yn lle rhoi prif-lythyren) • Prin iawn oedd yr atebion cywir i “byddwch chi ddim” a “Tri punt” Nodyn • Angen ateb gofynion y cwestiwn yn lle ysgrifennu ateb parod e.e. adroddiad profiad gwaith. • Pob pwynt bwled werth marciau. Does dim pwynt canolbwyntio ar un rhan yn unig.
YSGRIFENNU Cwestiwn Uwch Ysgrifennu adroddiad / erthygl • Angen ateb gofynion y cwestiwn ac ymateb i bob pwynt bwled. Angen defnyddio brawddegau. Ambell un wedi ysgrifennu nodiadau e.e. E-bost – w.davies@googlemail.co.uk
YSGRIFENNU 2012 • Ffurflen yn debyg. Brawddegau yn bwysig. Ateb cwestiynau yn bwysig. • Prawf-ddarllen – cysymygwch o wallau atalnodi, sillafu a gramadeg • Memo / nodyn / e-bost (marc allan o 10) • Erthygl / Nodyn – rhaid adolygu testunau Byd Gwaith a Byd O’n Cwmpas.
UNED 2 Asesu dan reolaeth • Tasgau yn ddi-haen • Mis o rybudd / mis o baratoi • Llafar : 30 gair / Ysgrifennu : 40 gair • Tasg ysgrifennu / darllen – 1 awr • Dim hawl ail-ddrafftio
Uned 2 – Tasg 1 • Cyflwyniad Unigol • Tasg ysgrifennu yn deillio o’r cyflwyniad.
Cyflwyniad Unigol (20%) • Angen cyflwyno’r hunan (hyder) • Angen cyfeirio at y gwaith ymchwil • Angen ateb cwestiynau (tua 2 gwestiwn) gan ddisgybl(ion) o’r dosbarth yn ystod neu ar ddiwedd y cyflwyniad. • Sampl at CBAC erbyn mis Mai. Angen trawsdoriad yn y sampl.
PROBLEMAU Haf 2011 • Samplau heb ddangos trawsdoriad o ran safon a chyrhaeddiad. • Disgyblion heb gyfeirio at y gwaith ymchwil o gwbl. • Dim cwestiynau gan eraill. (Angen tystiolaeth yma) • Disgyblion heb ateb gofynion y dasg / Disgyblion wedi trafod y pwnc o’r perspectif anghywir
Tasg Ysgrifennu (5%) • Tasg sy’n deillio o’r llafar – nid tasg sy’n ailadrodd y dasg lafar yn ysgrifenedig. • Cwestiynau pendant ar gael – nid mater o ysgrifennu ar y pwnc dan sylw sydd eisiau. • Dewis o dasgau ar gael. Angen dewis tasg addas at allu’r unigolyn / dosbarth. • Angen cyfeirio at y cynllun marcio yn ofalus.
Ysgrifennu A* Ymdriniaeth ac ymateb ynhyderus I ofynion y dasg. Amrywiaeth eang ac aeddfed o ran syniadau a barn. Cynllun rhagorol ac adeiladwaith grefftus. Gwaith gafaelgar ac estynedig. Geirfa hynod o gyfoethog a chyfathrebu hyderus. Ffurfiau berfol yn gyson gywir. Elfen gref o gywirdeb. Ystod eang o ymadroddion, cwestiynu a phatrymau brawddegol.
Tasg Ddarllen (5%) • Dewis o dasgauargaelynseiliedigaryrardal. • Tasgauynddi-haenondtasgaugwahanolynfwyaddasargyfergalluoeddgwahanol. Angendewistasgaupriodolynofalus. • Angencyfeirio at y cynllunmarcioynofalus. • Angensafonimewnol o fewnadranunigol.
Darllen : A* • Codi, cyfuno a chyflwyno gwybodaeth o ddarn i bwrpas. • Dethol a dehongli prif bwyntiau wrth ddod i gasgliad. • Mynegi barn gan gynnwys tystiolaeth lawn.
UNED 3 : Asesu dan reolaeth THEMAU Cylch Profiad B e.e. dwyieithrwydd, defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, dysgu Cymraeg, gwaith gwirfoddol … Tasg 1 (15%) • Darllen • Ysgrifennu yn deillio o’r darllen Tasg 2 (15%) • Llafar unigol • Ysgrifennu yn deillio o’r llafar
TASG 1 : Darllen (10%) / Ysgrifennu (5%) Dewis o 6 gweithgaredd • Dosbarthiadau Cymraeg yn y ganolfan hamdden • Caffi Seibr Cymraeg newydd yn agor i’r bobl ifanc • Trefnu diwrnod hyfforddi i’r staff gyrfaoedd. • Cariad@Iaith – ymateb i’r cystadleuwyr • Cylchgronau a chwaraeon yr Urdd • Gwobr y Dug Caeredin
CYNGOR! • Dewis y tasgau addas yn holl-bwysig. • Paratoi trwyadl yn holl-bwysig. • Dealltwriaeth y disgyblion o ofynion y tasgau yn holl-bwysig. Mae 2 ran i’r dasg – does dim modd ailadrodd yr un wybodaeth. • Dealltwriaeth athrawon o’r cynllun marcio yn holl-bwysig.
UNED 4 : Llafar (20%) • Gwaith grŵp – 2 neu 3 person • Ymateb i ddeunydd darllen (5%) • Trafod grŵp (15%) • 10 munud amser paratoi • Hyd y drafodaeth – tua 3-5 munud